Cyn-aelod o Heddlu De Cymru i ymddangos gerbron y llys am gyhuddiadau o ABH a llindagu

Published: 11 Mar 2026
News

Bydd cyn-aelod o Heddlu De Cymru yn gwneud ei ymddangosiad cyntaf yn Llys y Goron Caerdydd ar 13 Mawrth i wynebu cyhuddiadau o ymosodiad a achosodd gwir niwed corfforol (ABH) a llindagu bwriadol.

Cafodd Wayne Thomas, 52, a oedd wedi bod yn gweithio'n flaenorol fel Swyddog Cadw yn y Ddalfa ar gyfer y llu, ei gyhuddo ar ôl ymchwiliad gan Swyddfa Annibynnol Ymddygiad Heddlu i gwyn am y grym a ddefnyddiwyd ar ddyn oedd yn cael ei roi mewn i ddalfa yng ngorsaf Heddlu Abertawe ym mis Hydref 2023.

Gwnaethom anfon ffeil o dystiolaeth at y Gwasanaeth Erlyn y Goron (CPS) ar ôl cwblhau ein hymchwiliad ym mis Ebrill 2025, ac ym mis Tachwedd 2025 awdurdododd y CPS y cyhuddiadau.

Mewn gwrandawiad llys cynharach yn Llys Ynadon Casnewydd gwnaeth Mr Thomas ble dieuog i’r ddau gyhuddiad.

Tags
  • Heddlu De Cymru
  • Defnydd o rym a phlismona arfog