Ymchwilio i farwolaeth gŵr yng Nghaerdydd

Published: 22 Jun 2021
News

Mae Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC) yn agor ymchwiliad wedi i ŵr farw yn dilyn cyswllt â’r heddlu yng Nghaerdydd.

Cawsom atgyfeiriad gan Heddlu De Cymru wedi i ŵr, 30 oed, gael ei dderbyn i’r ysbyty lle bu farw oriau mân fore Sadwrn (19 Mehefin) ar ôl bod mewn cyswllt â’r heddlu.***

Aeth ymchwilwyr yr IOPC i safle’r digwyddiad, yng Nglyn Collen, Pen-twyn, ac mae ymchwiliad annibynnol yn mynd rhagddo.

Er mai megis dechrau’r gwaith yw hyn, gwyddom fod yr heddlu wedi’u galw ychydig ar ôl 1am ddydd Sadwrn i ŵr mewn trallod ac a oedd o bosibl wedi’i anafu. Daeth swyddogion ar draws gŵr a oedd yn ymddangos yn wael ei iechyd.

Yn ystod y digwyddiad, cafodd y gŵr ei atal a’i roi mewn gefynnau llaw gan yr heddlu. Yn eu hadroddiadau cychwynnol, sydd wedi’u darparu i ni, dywedodd swyddogion eu bod wedi gwneud hyn er diogelwch y gŵr. Ni chafodd ei arestio yn ystod y digwyddiad.

Cafodd parafeddygon eu galw oherwydd cyflwr gwael y gŵr, a waethygodd wedi hynny. Aethpwyd ag ef i ysbyty Athrofaol Cymru, lle cafodd ei gyhoeddi’n farw ychydig ar ôl 2.30am.

Meddai Cyfarwyddwr Cymru yr IOPC, Catrin Evans: “Estynnwn ein cydymdeimlad i deulu a ffrindiau’r gŵr yn ystod y cyfnod trist hwn.

“Rydym yn deall pryderon y gymuned leol yn sgil y digwyddiad hwn, yn rhannol oherwydd fideo sydd wedi’i rannu ar-lein. Dyma pam ei bod yn bwysig cynnal ymchwiliad annibynnol trylwyr i sicrhau ein bod yn deall yr amgylchiadau yn llawn.

“Megis dechrau mae’r gwaith hwn a byddwn yn siarad â thystion yn ogystal ag adolygu fideo o gamerâu ar gorff swyddogion yr heddlu fel rhan o’n hymchwiliad.

“Rydym yn ymwybodol o adroddiadau ar gyfryngau cymdeithasol bod Taser wedi’i ddefnyddio yn ystod y digwyddiad. Er nad ydym wedi cynnal archwiliad Taser hyd yn hyn, drwy ddadansoddi’r safle a’r dystiolaeth fideo yr ydym wedi’i gweld, nid oes tystiolaeth ar hyn o bryd bod Taser wedi’i ddefnyddio.”

***Sefydlwyd yn ddiweddarach y bu farw’r gŵr ar y safle.

Tags
  • Heddlu De Cymru
  • Marwolaeth ac anafiadau difrifol