Ymchwiliad yn dechrau i farwolaeth mewn dalfa ym Middlesbrough
Mae Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC) yn cynnal ymchwiliad annibynnol i farwolaeth dyn 31 oed yn nalfa'r heddlu ym Middlesbrough.
Mae ymholiadau cychwynnol yn awgrymu bod y dyn wedi cael ei gadw yn y ddalfa ar ôl iddo gael ei arestio gan Heddlu Cleveland ychydig cyn 10yh ddydd Mercher, a’i fod wedi’i roi ar drefn o wiriadau rheolaidd gan staff cadw yn y ddalfa.
Cawsom wybod bod y dyn wedi’i ganfod yn anymatebol gan aelodau o staff, a bod ambiwlans wedi’i alw am 5.59yb. Er gwaethaf ymdrechion y parafeddygon, yn anffodus datganwyd ei fod wedi marw am 7.01am ddydd Iau. Mae ein meddyliau gyda theulu a ffrindiau’r dyn, a phawb sydd wedi’u heffeithio gan ei farwolaeth.
Yn dilyn atgyfeiriad gorfodol gan yr heddlu, gwnaethom ddatgan ymchwiliad annibynnol am 7.07yb. Mae ymchwilwyr IOPC wedi mynd i’r ddalfa i ddechrau adolygu’r dystiolaeth drwy gael gafael ar luniau teledu cylch cyfyng ac ar gyfrifon cychwynnol gan y swyddogion a’r aelodau o staff dan sylw.
Dywedodd Emily Barry, Cyfarwyddwr Ymgysylltu’r IOPC:
“Roedd hwn yn ddigwyddiad trasig lle mae dyn wedi marw, ac mae ein meddyliau gyda’i deulu a’i anwyliaid.
“Cyfeiriodd Heddlu Cleveland y mater hwn atom, a gan ei fod wedi bod yn nalfa’r heddlu pan fu farw, mae’n bwysig bod ymchwiliad trylwyr ac annibynnol yn cael ei gynnal. Byddwn yn archwilio pob mater perthnasol, gan gynnwys y rhyngweithio a gafodd staff a swyddogion gyda’r dyn pan oedd yn y ddalfa, a’r hyn a ddigwyddodd tra oedd yn yr ystafell gadw.
“Rydym yn ymwybodol o fideo sy’n cylchredeg ar y cyfryngau cymdeithasol sy’n cynnwys honiadau am gamdriniaeth ac am geisiadau am gymorth gan y dyn yn cael eu hanwybyddu. Ar y cam cynnar hwn, nid oes gennym unrhyw dystiolaeth i awgrymu bod hyn yn gywir. Rydym yn annog pobl i beidio â chymryd rhan mewn dyfalu na lledaenu gwybodaeth anghywir tra byddwn yn parhau i ymchwilio a gwirio’r ffeithiau. Mae’n bwysig cofio pa mor ofidus y gall hyn fod i aelodau’r teulu ar adeg mor anodd. Byddwn, wrth gwrs, yn ceisio cael tystiolaeth gan unrhyw un a oedd yn bresennol ac sy’n credu y gallent fod gyda gwybodaeth berthnasol.”