Ymchwiliad yn cadarnhau bod Heddlu Thames Valley wedi defnyddio grym angenrheidiol mewn saethiad marwol yn Milton Keynes.

Published: 29 May 2026
News

Mae ymchwiliad gan Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC) wedi ffeindio bod defnydd o rym marwol gan swyddog arfau tanio Heddlu Thames Valley (TVP) wedi bod yn angenrheidiol, cymesur a rhesymol, yn ystod digwyddiad yn Milton Keynes lle buodd dyn farw ar ôl cael ei saethu.

Gwnaethom ymchwilio i'r amgylchiadau o gwmpas saethiad marwol David Joyce yng ngorsaf trenau Milton Keynes Central ar 1 Ebrill 2025, a ddilynodd adroddiadau o ddyn gydag arf tanio.

Am 12:54yh, derbyniodd TVP alwad 999 yn adrodd dyn yn yr orsaf oedd yn meddu ar wn a chyllell. Cafodd y galwr ei adnabod yn ddiweddarach fel Mr Joyce.

Cyrhaeddodd swyddogion arfog y safle 10 munud yn ddiweddarach.

O fewn eiliadau o adael eu cerbyd, daeth dau swyddog arfog ar draws Mr Joyce, a oedd yn dal cyllell ac yn symud tuag ato nhw ac aelodau cyfagos o'r cyhoedd. Er gwaetha gorchmynion y swyddogion i stopio, fe redodd tuag atynt.

Taniodd un o'r swyddogion daniad sengl, gan daro Mr Joyce yn yr abdomen. Darparodd swyddogion gymorth cyntaf cyn i'r parafeddygon gyrraedd. Cafodd Mr Joyce ei gadarnhau'n farw am 1.44yh.

Ffeindiom bod y swyddog a daniodd ei arf tanio yn credu bod yna fygythiad uniongyrchol i fywyd, iddynt hwythau ac i eraill yn y cyffiniau a bod y defnydd o rym yn gyfreithlon, angenrheidiol a chymesur yn yr amgylchiadau pan bernir y rhain yn erbyn credoau onest y swyddog ar y pryd.

Dywedodd Cyfarwyddwr IOPC, Derrick Campbell: "Roedd hyn yn ddigwyddiad trasig a arweiniodd at golled bywyd, ac mae ein meddyliau yn parhau i fod gyda theulu a ffrindiau Mr Joyce.

"Ein rôl ni oedd ymchwilio'n annibynnol i'r amgylchiadau a dyfarnu a oedd gweithredoedd yr heddlu yn gyson gyda pholisi a deddfwriaeth.

"Ar ôl adolygu'r holl dystiolaeth yn ofalus, ffeindiom bod swyddogion wedi bod yn ymateb i adroddiadau am ddyn oedd yn ymddangos i fod wedi'i arfogi, ac fe weithredon nhw yn gyflym mewn sefyllfa oedd yn esblygu yn gyflym lle roedd risg go iawn i ddiogelwch y cyhoedd.

"Yn yr amgylchiadau hynny, roedd y defnydd o rym marwol yn angenrheidiol, yn gymesur, ac yn rhesymol.

Fel rhan o'n ymchwiliad, a gwblhawyd mis diwethaf, gwnaethom archwilio fideos corff-wisgedig, CCTV, fideos dashcam, cyfathrebiadau radio a chyfrifon gan dystion.

Ni ffeindiom unrhyw arwydd bod unrhyw swyddog wedi ymddwyn mewn ffordd a fyddai'n cyfiawnhau gweithdrefnau disgyblu neu weithdrefnau troseddol. Cafodd pob swyddog eu trin fel tystion trwy gydol ein ymchwiliad.

Yn dilyn y saethiad, rhoddodd swyddogion efynnau ar Mr Joyce o ganlyniad i'r risg parhaus roeddent yn canfod, a rhoddon nhw gymorth cyntaf ar unwaith tan i'r parafeddygon gymryd drosodd.

Gwnaethom ffeindio bod y gweithredoedd hyn yn gyson â'r hyfforddiant a chanllawiau cenedlaethol.

Ystyriodd hefyd ein ymchwiliad gwynion a godwyd gan deulu Mr Joyce ynghylch chwiliadau o gyfeiriadau a gysylltwyd â fe, a'u triniaeth o eiddo.

Gwnaethom ffeindio bod eitemau wedi cael eu cipio a'u recordio yn gywir a nad oedd tystiolaeth ddigonol i gasglu bod eiddo ychwanegol wedi'i gymryd.

Fodd bynnag, ni weithredodd rhai o'r swyddogion fideo corff-wisgedig wrth fynd mewn i gyfeiriadau, yn groes i bolisi fideos corff-wisgedig y llu, ac fe benderfynom y dylid delio â hyn trwy ddysgu myfyriol.

Bydd ein adroddiad a'n canfyddiadau'n cael eu rhannu gyda Crwner EF i gynorthwyo gyda'r gweithdrefnau crwnaidd. Bydd gwrandawiad cyn-gwest yn cael ei gynnal ar 19 Mehefin.

Tags
  • Thames Valley Police
  • Defnydd o rym a phlismona arfog