Ymchwiliad IOPC yn dod i ben yn dilyn gwrthdrawiad fan heddlu ym Maryport

Published: 26 Nov 2026
News

Mae swyddog o Heddlu Cumbria wedi cael Hysbysiad Cosb Benodedig, sy'n cynnwys dirwy o £100 a thri phwynt cosb, yn dilyn cwblhau ein ymchwiliad annibynnol i amgylchiadau gwrthdrawiad a arweiniodd at anafu dau o blant.

Dilynodd ein ymchwiliad atgyfeiriad gan Heddlu Cumbria ym mis Ebrill, lle rholiodd fan heddlu wag i lawr allt a tharo dwy ferch, gan adael un o'r merched ag anafiadau sylweddol ond nad oeddent yn peryglu bywyd.

Gwnaethon ni sefydlu fod dau swyddog o Heddlu Cumbria yn teithio mewn fan heddlu ym Maryport, Cumbria, am 5.53yh ar 18 Ebrill 2026, pan barciodd y gyrrwr y fan mewn lôn fysiau ar fryn er mwyn cadw dyn roedd yr heddlu yn chwilio amdano ac yr oeddent wedi'i weld.

Dangosodd dadansoddiad o fideo a wisgwyd ar y corff, CCTV ac archwiliad o'r cerbyd nad oedd y brêc llaw wedi'i osod, ac o ganlyniad digwyddodd y gwrthdrawiad.

Ym mis Mehefin, yn seiliedig ar yr wybodaeth oedd ar gael bryd hynny, hysbyswyd y cwnstabl heddlu a oedd yn gyrru'r fan ei fod o dan ymchwiliad troseddol. Cyflwynwyd hysbysiad camymddwyn difrifol iddo hefyd am dorri safonau ymddygiad proffesiynol yr heddlu o bosib mewn perthynas â dyletswyddau a chyfrifoldebau, a gorchmynion a chyfarwyddiadau.

Cafodd y swyddog ei gyfweld gan ymchwilwyr IOPC a rhoddodd gyfrif llawn, gan gydnabod nad oedd y fan heddlu wedi'i diogelu'n briodol wrth ei pharcio. Fodd bynnag, oherwydd bod y fan wedi aros yn llonydd am 12 eiliad cyn iddi ddechrau rholio, a chred onest y swyddog fod y brêc llaw wedi'i osod yn awtomatig, penderfynwyd peidio â chyfeirio'r mater at Wasanaeth Erlyn y Goron (CPS).

Yn seiliedig ar gyngor cyfreithiol a gawsom yn ystod ein ymchwiliad mewn perthynas â'r ffaith fod y fan heddlu wedi aros yn llonydd am 12 eiliad cyn rholio'n ôl, diystyrwyd unrhyw drosedd bosibl o achosi anaf difrifol drwy yrru'n ddiofal.

Dywedodd Amanda Rowe, Cyfarwyddwr Ymgysylltu'r IOPC:

"Mae ein cydymdeimlad yn parhau i fod gyda'r merched, eu ffrindiau a'u teuluoedd, a phawb arall yr effeithiwyd arnynt. Gobeithiwn y bydd y merched yn parhau i wella'n dda o'r anafiadau y gwnaethant eu cael.

"Yn dilyn adolygiad o'r holl dystiolaeth a oedd ar gael a chyfrif y swyddog dan sylw, penderfynwyd peidio â chyfeirio'r mater at Wasanaeth Erlyn y Goron ac mai hysbysiad cosb benodedig oedd y canlyniad mwyaf priodol.

"Penderfynwyd hefyd y byddai'n briodol i'r swyddog gymryd rhan mewn proses myfyrio a dysgu er mwyn myfyrio ar y digwyddiad a dysgu ohono, er mwyn atal unrhyw broblemau a nodwyd rhag digwydd eto. Bydd y swyddog yn cael hyfforddiant pellach ynghylch gweithdrefnau a pholisïau'r heddlu sy'n ymwneud â'r gwiriadau cerbyd angenrheidiol."

Nawr bod ein hymchwiliad wedi dod i ben, rydym yn deall fod gyrrwr y fan heddlu wedi gofyn am gyfarfod â theulu'r ferch a gafodd yr anafiadau mwyaf difrifol er mwyn ymddiheuro.

Edrychodd ein ymchwiliad, a ddaeth i ben y mis diwethaf, ar weithredoedd gyrrwr y fan heddlu a'r camau a gymerwyd i ddiogelu'r cerbyd pan oedd wedi'i barcio, cyflwr a hanes gwasanaethu'r fan heddlu, a oedd e’n addas i fod mewn defnydd, ac a oedd y swyddog wedi cydymffurfio â pholisïau lleol mewn perthynas â gwiriadau’r cerbyd cyn ei ddefnyddio.

Nododd adroddiad ôl-wrthdrawiad a gomisiynwyd gennym yn ystod yr ymchwiliad fod system brêc parcio trydan llawn wedi'i osod ar y fan ac nad oedd unrhyw ddiffygion mecanyddol ar y cerbyd.

Tags
  • Cumbria Constabulary
  • Digwyddiadau traffig ffyrdd