Swyddog o Heddlu Caint yn derbyn rhybudd ysgrifenedig terfynol am ddefnyddio grym yn erbyn dyn mewn gefynnau llaw

Published: 01 Sep 2026
News

Mae cwnstabl heddlu o Heddlu Caint wedi cael rhybudd ysgrifenedig terfynol am ddefnyddio grym gormodol, yn dilyn ymchwiliad gan Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC).

Mewn gwrandawiad camymddwyn difrifol, a ddaeth i ben ar ddydd Gwener (28 Awst), profwyd camymddwyn difrifol mewn perthynas â gweithredoedd PC Aaron Humphries ar ôl iddo fe a swyddog arall ymateb i adroddiad o ladrad, carcharu anghyfreithlon a difrod troseddol yn ardal Faversham yng Nghaint ar 7 Medi 2024.

Gwnaethom ddechrau ymchwiliad annibynnol i ymddygiad y ddau swyddog yn dilyn atgyfeiriad gorfodol gan yr heddlu, gan fod y dyn a gafodd ei arestio yn ymddangos fel pe bai wedi colli ymwybyddiaeth. Yna cawsom atgyfeiriad arall ar ôl i’r dyn gwyno bod y swyddogion wedi defnyddio grym anghymesur wrth ei arestio.

Yn ystod ein ymchwiliad, gwnaethom adolygu deunydd CCTV a ffilm o gamerâu corff y swyddogion o’r amgylchiadau a arweiniodd at yr arestiad ac a ddilynodd hynny, ac fe gawsom ddatganiadau gan y swyddogion, y dyn a thystion annibynnol. Gwnaethom ganfod bod y dyn a arestiwyd ac a oedd yn eistedd yng nghefn car yr heddlu mewn gefynnau, wedi symud i ochr arall y car. 

Esboniodd y swyddog cyntaf fod angen iddo symud yn ôl i ochr teithiwr y cerbyd. Ychydig yn ddiweddarach, agorodd PC Humphries y drws cefn a dechreuodd ffrae lafar fer gyda’r dyn cyn ei lusgo allan o’r car a’i gymryd yn rymus i’r llawr.

Yna cafodd PC Humphries ei frathu gan y dyn dan amheuaeth ac ymatebodd drwy daro wyneb y dyn ddwywaith cyn gosod ei fraich ar draws ei wddf, a oedd yn ymddangos fel pe bai hyn wedi achosi i’r dyn golli ymwybyddiaeth am gyfnod byr.

Trodd y ddau swyddog y dyn ar ei ochr cyn iddo ymddangos fel pe bai’n adennill ymwybyddiaeth.

Cafodd y dyn, a arhosodd mewn gefynnau llaw drwy’r amser, ei gerdded yn ôl at gar yr heddlu ac, ar ôl poeri at y swyddogion, cafodd ei dynnu allan o’r car eto a’i atal ar y llawr.

Cyrhaeddodd swyddogion ychwanegol i roi cymorth, a cafodd y dyn ei gludo i’r ddalfa.

Ar ddiwedd ein ymchwiliad ym mis Ebrill 2025, penderfynwyd bod achos i’w ateb am gamymddwyn difrifol yn erbyn y swyddogion.

Yn dilyn gwrandawiad disgyblu a barodd wythnos, ffeindiodd y panel fod camymddwyn difrifol wedi’i brofi mewn perthynas â gweithredoedd PC Humphries oherwydd iddo dorri safonau ymddygiad proffesiynol yr heddlu mewn perthynas â defnyddio grym, awdurdod, parch a chwrteisi, dyletswyddau a chyfrifoldebau, ac ymddygiad a oedd yn dwyn anfri. Mae wedi cael rhybudd ysgrifenedig terfynol a fydd yn para am ddwy flynedd.

Ffeindiodd y panel nad oedd gweithredoedd y swyddog arall yn gyfystyr â chamymddwyn difrifol.

Dywedodd Emily Barry, Cyfarwyddwr Ymgysylltu’r IOPC: “Rhaid i unrhyw ddefnydd o rym gan swyddogion fod yn rhesymol ac yn gymesur â’r amgylchiadau.

“Methodd PC Humphries â lliniaru’r sefyllfa, a gwaethygodd y sefyllfa’n gyflym yn lle hynny ar ôl iddo ddefnyddio grym gormodol.

“Mae PC Humphries wedi cael ei ddwyn i gyfrif am ei weithredoedd am fethu â chadw at y safonau proffesiynol sydd ar waith i sicrhau bod swyddogion yn gwasanaethu ein cymunedau’n ddiogel.”

Fe wnaethom atgyfeirio ffeil o dystiolaeth at Wasanaeth Erlyn y Goron, a benderfynodd nad oedd achos troseddol i’w ateb yn erbyn yr un o’r ddau swyddog.