Swyddog Heddlu De Cymru yn euog o ymosodiad cyffredin

Published: 05 Oct 2022
News

Mae swyddog o Heddlu De Cymru wedi ei ganfod yn euog o ymosodiad cyffredin ar fachgen 16 oed, yn dilyn ymchwiliad gan Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC).

Heddiw cafwyd yr Arolygydd Dean Gittoes, 49, yn euog o ymosodiad cyffredin yn Llys Ynadon Cwmbrân ar ôl achos llys tri diwrnod. Bydd yn cael ei ddedfrydu yn ddiweddarach y mis hwn.

Yn dilyn atgyfeiriad at Heddlu De Cymru o gŵyn gan aelod o'r cyhoedd, fe wnaethom ymchwilio i honiad ar 20 Awst 2021 bod yr Arolygwr Gittoes wedi defnyddio grym gormodol wrth arestio a chadw bachgen 16 oed.

Roedd y bachgen yn ffilmio mewn man cyhoeddus y tu allan i orsaf heddlu Merthyr Tudful ar gyfer sianel YouTube pan gafodd ei arestio gan yr Arolygydd Gittoes ar amheuaeth o droseddau o dan y Ddeddf Terfysgaeth.

Defnyddiodd y swyddog rym o fewn munud i ddod ar draws y bachgen am y tro cyntaf, gan ddefnyddio gafael 'bar braich syth' wrth iddo fynd ag ef i'r ddalfa, gan droelli ei fraich y tu ôl i'w gefn, a'i ddal wrth ymyl ei gwfl, gan arwain at gwynion gan y bachgen na allai anadlu. Mae lluniau ffôn symudol a CCTV yn dangos nad oedd y bachgen yn cynnig unrhyw wrthwynebiad corfforol. Cafodd ei ryddhau yn ddigyhuddiad ar ôl cael ei gadw yn y ddalfa carchar am fwy na saith awr.

Fe wnaeth ein hymchwiliad archwilio ffilm o'r digwyddiad a gafodd ei bostio ar YouTube, ac adolygu lluniau ffôn symudol a CCTV o'r digwyddiad. Fe wnaethom gymryd ddatganiadau gan yr achwynydd a swyddogion yr heddlu a oedd yn bresennol, ac archwiliwyd dogfennaeth yr heddlu yn ymwneud â'r digwyddiad, gan gynnwys cofnod y ddalfa. Fe wnaethom gyfweld y swyddog dan rybudd troseddol.

Ar ddiwedd ein hymchwiliad ym mis Ionawr, gwnaethom gyfeirio ffeil tystiolaeth at Wasanaeth Erlyn y Goron, a awdurdododd y cyhuddiad yn erbyn y swyddog.

Dywedodd Cyfarwyddwr IOPC Cymru, Catrin Evans: “Er bod adegau pan fod angen defnyddio grym, dim ond os yw’n angenrheidiol, yn rhesymol, ac yn gymesur dan yr amgylchiadau yr ymddiriedir y pŵer i swyddogion heddlu wneud hynny.

“Fe wnaeth ein hymchwiliad archwilio pryderon am weithredoedd yr Arolygydd Gittoes, ac mae’r llys wedi canfod ar ôl ystyried y dystiolaeth bod y grym a ddefnyddiwyd wrth drin bachgen 16 oed, nad oedd yn cynnig unrhyw wrthwynebiad corfforol, yn ormodol ac wedi mynd y tu hwnt i’r hyn oedd yn angenrheidiol."

Yn dilyn ein hymchwiliad, daethom i’r casgliad bod gan yr Arolygydd Gittoes achos i’w ateb am gamymddwyn difrifol ar gyfer achosion honedig o dorri safonau ymddygiad proffesiynol yr heddlu mewn perthynas â chamddefnyddio awdurdod, a defnyddio grym. Nawr bod y treial wedi dod i ben byddwn yn cysylltu â Heddlu De Cymru ynghylch y camau nesaf ynghylch unrhyw gamau disgyblu posibl.

Tags
  • Heddlu De Cymru