Swyddog Heddlu De Cymru yn ddieuog o ymosodiad yng Nghaerdydd

Published: 06 Oct 2021
News

Mae swyddog Heddlu De Cymru wedi’i ganfod yn ddieuog heddiw (dydd Mercher) o ymosod ar ŵr yn ystod arestiad yng Nghaerdydd, yn dilyn ymchwiliad gan Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC).

Yn dilyn treial a barodd ddau ddiwrnod yn Llys Ynadon Caerdydd, canfu barnwr rhanbarth PC Rowan Knight, 30 oed, yn ddieuog o ymosod ar y gŵr yn ystod digwyddiad ar Northern Avenue, yr Eglwys Newydd, Caerdydd am oddeutu 2am ddydd Sadwrn 9 Ionawr eleni.

Clywodd y llys dystiolaeth yn honni bod y swyddog wedi defnyddio grym gormodol yn erbyn y gŵr ar y stryd ac mewn cerbyd heddlu.

Dechreuodd ein hymchwiliad ym mis Chwefror ar ôl i atgyfeiriad o gŵyn ein cyrraedd ni gan Heddlu De Cymru. Ar ôl ystyried y dystiolaeth yn ofalus, gan gynnwys y fideo o gamera ar gorff swyddogion yr heddlu o’r digwyddiad ac adroddiadau gan y gŵr a gafodd ei arestio a’r swyddogion a oedd yn bresennol, gwnaethom drosglwyddo ffeil at Wasanaeth Erlyn y Goron, a awdurdododd y cyhuddiad o ymosodiad.

Wrth ddod i gasgliad yn ein hymchwiliad, rydym hefyd wedi dod i’r farn bod gan PC Knight achos disgyblu i’w ateb am gamymddwyn difrifol, y mae Heddlu De Cymru wedi cytuno ag ef. Cyfrifoldeb yr heddlu yw dechrau’r gweithdrefnau disgyblu.

Tags
  • Heddlu De Cymru
  • Defnydd o rym a phlismona arfog