Swyddog Heddlu De Cymru i ymddangos yn y llys wedi'i gyhuddo o ymosod cyffredin

Published: 15 Mar 2022
News

Mae swyddog Heddlu De Cymru wedi cael ei gyhuddo o ymosod cyffredin yn dilyn ymchwiliad gan y Swyddfa Annibynnol ar gyfer Ymddygiad yr Heddlu (IOPC).

Mae'r Arolygwr Dean Gittoes, 48, i fod ymddangos yn Llys Ynadon Casnewydd ar Ddydd Iau 17 Mawrth.

Yn dilyn atgyfeiriad at Heddlu De Cymru o gŵyn gan aelod o'r cyhoedd, fe wnaethom ymchwilio i honiad ar 20 Awst 2021 bod Arolygwr Gittoes wedi defnyddio grym gormodol wrth arestio a chadw bachgen 16 oed oedd yn ffilmio y tu allan i orsaf heddlu Merthyr Tudful.

Daeth ein hymchwiliad annibynnol i ben yn Ionawr. Fe wnaethom gyflwyno ffeil o dystiolaeth i Wasanaeth Erlyn y Goron (CPS), sydd ers hynny wedi penderfynu awdurdodi'r cyhuddiad o ymosod cyffredin.

Tags
  • Heddlu De Cymru
  • Defnydd o rym a phlismona arfog