Mae’r IOPC yn cyhoeddi ffigurau ar gwynion heddlu a wnaed yn 2021/22

Published: 17 Nov 2022
News

Heddiw, cyhoeddodd Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu ei hadroddiad blynyddol ‘Ystadegau Cwynion yr Heddlu’ ar gyfer Lloegr a Chymru 2021/22.

O fis Chwefror 2020, gwnaed newidiadau sylweddol i’r system gwynion gan gynnwys ehangu’r diffiniad o gŵyn i “unrhyw anfodlonrwydd â gwasanaeth yr heddlu”. O ganlyniad, bydd mwy o gwynion yn cael eu cofnodi nag yn y blynyddoedd blaenorol.

Mae'r system hefyd yn caniatáu i fwy o gwynion gael eu trin yn anffurfiol, lle ei fod yn briodol, megis drwy ymddiheuriad neu esboniad. Gall person ofyn am adolygiad os yw'n anhapus â'r ffordd yr ymdriniwyd â'i gŵyn.

Gan fod y system newydd yn dal i gael ei gwreiddio ar draws heddluoedd, dylid trin y data fel data arbrofol i gydnabod ei fod yn dal yn y cyfnod profi a dylid bod yn ofalus wrth gymharu â llynedd neu'r blynyddoedd cyn i'r system newid.

Mae cwyn heddlu yn fynegiant o anfodlonrwydd gan aelod o'r cyhoedd am y gwasanaeth y maent wedi'i dderbyn gan heddlu. Rhaid cofnodi pob mynegiad o anfodlonrwydd. Heddluoedd a chyrff plismona lleol sy'n delio â mwyafrif y cwynion. Mae’r IOPC yn gosod y safonau ar gyfer ymdrin â chwynion trwy ganllaw statudol.

Mae’r adroddiad yn dangos:

Cwynion wedi’u cofnodi a’u cwblhau:

  • Yn 2021/22 cofnodwyd 75,020 o gwynion - cynnydd o 11% ar y cyfanswm a gofnodwyd yn 2020/21.
  • Cofnodwyd 35,738 o'r cwynion hyn yn ffurfiol (gostyngiad o 2% ers y llynedd).
  • Cofnodwyd ychydig yn llai na thraean y cwynion (11,459) yn ffurfiol oherwydd bod yr achwynydd am iddynt gael eu cofnodi ac 11% (4,021) oherwydd bod yr achwynydd yn anfodlon â'r ymdriniaeth anffurfiol gychwynnol.
  • Cymerodd heddluoedd naw diwrnod gwaith ar gyfartaledd i gysylltu ag achwynydd ar ôl i gŵyn gael ei wneud. Roedd y cyfartaleddau yn amrywio o un diwrnod i 44 diwrnod gwaith.
  • Cwblhawyd 71,967 o gwynion eleni (33,602 yn ffurfiol a 38,365 yn anffurfiol) - cynnydd o 40% ar llynedd. Mae'r cynnydd hwn yn gysylltiedig â chwynion a gariwyd drosodd o'r llynedd.

Mathau o gwynion:

  • Caiff cwynion eu categoreiddio yn ôl y materion y cwynir amdanynt. Mae’r gyfran fwyaf o gwynion yn ymwneud â “chyflawni dyletswyddau a gwasanaeth” (53%). Bu cynnydd o 21% yn y cwynion lefel gwasanaeth hyn. Mae hyn yn dangos bod y cynnydd cyffredinol mewn cwynion yn gysylltiedig â chwynion am ddarparu gwasanaethau, fel diffyg diweddariadau a chyflymder ymatebion, yn hytrach na phryderon am gamymddwyn yr heddlu.
  • Roedd y cyfrannau uchaf nesaf ar gyfer “pwerau, polisïau a gweithdrefnau’r heddlu” (20%) ac ymddygiadau unigol (14%). Roedd “ymddygiad gwahaniaethol” a “difrod i eiddo”, y ddau yn 3% o’r cyfanswm.

Achwynwyr a’r rhai y cwynwyd amdanynt:

  • Cwynodd 69,804 o bobl am yr heddlu ac roedd 51% o'r achwynwyr yn ddynion. Y grŵp oedran mwyaf cyffredin i gwyno oedd y rhai 30-39 oed (21%). Roedd 51% o'r holl achwynwyr yn Wyn, ond nid oedd ethnigrwydd 36% o'r achwynwyr yn hysbys.
  • Roedd 50,559 o bobl oedd yn gwasanaethu gyda'r heddlu yn destun cwyn. Roedd 63% o'r rhai y cwynwyd amdanynt yn ddynion a 79% yn Wyn. Nid oedd yr ethnigrwydd yn hysbys ar gyfer 14% o'r rhai a oedd yn destun cwyn.

Canlyniadau cwynion (honiadau ac achosion):

  • O’r 33,602 o gwynion yr ymdriniwyd â nhw’n ffurfiol yn 2021/22, roedd gan ychydig yn llai na hanner (48%) o leiaf un honiad a arweiniodd at beidio â chymryd unrhyw gamau pellach.
  • Roedd gan 68 o'r achosion hynny o leiaf un honiad a arweiniodd at naill ai cyfarfod neu wrandawiad camymddwyn, o gymharu âg 18 y flwyddyn flaenorol.
  • Mewn dros 40% o gwynion yr ymdriniwyd â nhw yn ffurfiol, rhoddodd yr heddlu esboniad (37%) neu ymddiheuriad (5%) i'r achwynydd. Arweiniodd 12% o gwynion at ddysgu i'r heddlu neu'r unigolyn.
  • Y cam mwyaf cyffredin o ganlyniad i gwynion a gafodd eu trin yn anffurfiol oedd esboniad yn cael ei roi i'r achwynydd (48% o gwynion). Arweiniodd 29% o gwynion a gafodd eu trin yn anffurfiol at o leiaf un honiad heb unrhyw gamau pellach.
  • Roedd dysgu o fyfyrio neu ddysgu sefydliadol yn cyfrif am 3% o ganlyniadau cwynion o’r fath tra bod gweithredoedd fel ymddiheuriad neu ôl-drafodaeth yn cyfrif am 10% pellach.
  • Cafodd 94% o'r honiadau a drafodwyd yn anffurfiol eu datrys i foddhad yr achwynydd.

Adolygiadau:

  • Ymdrinnir ag adolygiadau gan y corff adolygu priodol sef naill ai'r IOPC neu'r Corff Plismona Lleol. Cadarnhaodd cyrff plismona lleol (LPB) 15% o’r 3,894 o gwynion a adolygwyd ganddynt nad oeddent wedi cael eu hymchwilio a 27% (184 allan o 689) o’r rhai yr ymchwiliwyd iddynt.
  • Ymdriniodd yr IOPC â 1,096 o adolygiadau a chadarnhaodd 37% o'r rhai nad oeddent wedi cael eu hymchwilio a 31% o'r rhai a oedd wedi cael eu hymchwilio.