Ditectif Met wedi'i ddiswyddo am ymddygiad oddi ar ddyletswydd yn dilyn ymchwiliad
Mae ditectif o Heddlu’r Met, a ddaeth â chyffuriau Dosbarth A a’u defnyddio ac a ddefnyddiodd wasanaethau gweithwyr rhyw tra roedd dramor, wedi cael ei ddiswyddo am gamymddwyn difrifol yn dilyn ymchwiliad a gyfarwyddwyd gan Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC).
Wynebodd y Ditectif Gwnstabl Pervaz Malik, sydd wedi'i leoli yn Uned Reoli Canolbarth y Gorllewin, wrandawiad carlam camymddwyn ynghylch honiadau bod ei ymddygiad, tra roedd dramor ar deithiau personol, wedi torri safonau ymddygiad proffesiynol yr heddlu.
Ffeindiodd yr ymchwiliad, a gynhaliwyd gan Ganolfan Rheoli Gwrth-Lygredd y Met o dan gyfarwyddyd a rheolaeth IOPC, fod DC Malik wedi trefnu gweithwyr rhyw ar gyfer ei hun ac eraill tra roedd dramor rhwng 2016 a 2023 a hefyd wedi prynu, defnyddio a hwyluso cyflenwi cyffuriau Dosbarth A.
Yn dilyn gwrandawiad disgyblu undydd, ffeindiodd y panel heddiw fod ei ymddygiad wedi torri safonau ymddygiad proffesiynol yr heddlu yn ymwneud ag ymddygiad annheilwng, gonestrwydd ac uniondeb, ac addasrwydd ar gyfer dyletswyddau. Bydd e’n cael ei ddiswyddo heb rybudd a'i roi ar restr waharddedig yr heddlu.
Dywedodd Cyfarwyddwr IOPC, Amanda Rowe: “Rhaid i swyddogion heddlu ymddwyn mewn modd nad yw’n difrïo’r gwasanaeth heddlu nac yn tanseilio hyder y cyhoedd ynddo.
“Cwympodd ymddygiad DC Malik tra roedd e oddi ar ddyletswydd ymhell is law y safonau a ddisgwylir o swyddogion ac mae panel wedi penderfynu nad yw’n addas iddo aros yn y gwasanaeth heddlu.”
Fel rhan o'r ymchwiliad, cafodd DC Malik ei arestio ym maes awyr Stanstead ym mis Awst 2023 ar amheuaeth o gynllwynio i gyflenwi cyffuriau rheoledig. Cafodd atgyfeiriad ei wneud at Wasanaeth Erlyn y Goron ym mis Rhagfyr 2024, a benderfynodd beidio â chymryd unrhyw gamau pellach.