Cyn-swyddog Heddlu Swydd Gaerlŷr wedi’i ddiswyddo am gysylltu â gweithwyr rhyw
Mae camymddwyn difrifol wedi’i brofi yn erbyn cyn-swyddog o Heddlu Swydd Gaerlŷr a gysylltodd â gweithwyr rhyw, yn dilyn ymchwiliad a gyfarwyddwyd gan Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC).
Nid oes modd enwi’r swyddog oherwydd gorchymyn anhysbysrwydd a osodwyd gan Gadeirydd y gwrandawiad camymddwyn. Cysylltodd y swyddog â gweithwyr rhyw sawl gwaith pan oedd oddi ar ddyletswydd, gan ddefnyddio ei ffôn symudol personol.
Canfuodd ymchwilwyr fwy na dwsin o rifau ffôn ar ei ddyfais a oedd yn gysylltiedig â hysbysebion ar gyfer gweithwyr rhyw. Mewn un mis yn unig, sef Rhagfyr 2024, bu’r swyddog yn ffonio gweithwyr rhyw dro ar ôl tro.
Pan gafodd ei gyfweld ynghylch yr honiadau, honnodd y swyddog fod rhywun wedi benthyg ei ffôn ar un achlysur penodol pan gafodd ei ddefnyddio i ffonio nifer o unigolion a oedd yn cynnig gwasanaethau rhywiol. Dywedodd wrth ymchwilwyr na allai gofio pwy oedd wedi benthyg y ffôn.
Yn dilyn yr ymchwiliad, a gynhaliwyd gan Uned Gwrthlygredd yr heddlu o dan gyfarwyddyd ein Uned Gwrthlygredd ac Ymchwiliadau Cudd, daeth panel disgyblu’r heddlu heddiw (5 Tachwedd) i’r casgliad, ar ôl gwrandawiad deuddydd, fod camymddwyn difrifol wedi’i brofi yn erbyn y swyddog.
Penderfynodd y panel fod y swyddog wedi torri’r safonau ymddygiad proffesiynol mewn perthynas â gonestrwydd ac uniondeb ac ymddygiad a oedd yn dwyn anfri. Byddai wedi cael ei ddiswyddo pe na bai eisoes wedi ymddiswyddo ychydig cyn y gwrandawiad camymddwyn. Bydd e hefyd yn cael ei atal rhag gweithio ym maes plismona yn y dyfodol ar ôl cael ei ychwanegu at restr waharddedig yr heddlu.
Dywedodd Emily Barry, Cyfarwyddwr Ymgysylltu’r IOPC:
“Mae canllawiau Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu ynghylch gweithwyr rhyw yn glir, sef ei fod yn annerbyniol i unrhyw swyddog heddlu gael, neu geisio cael, cyswllt amhriodol ac amhroffesiynol yn y modd y gwnaeth y swyddog hwn.
“Roedd gan y swyddog hwn brofiad proffesiynol ym maes diogelu, bregusrwydd a chaethwasiaeth fodern, felly byddai wedi gwybod bod ei ymddygiad yn gwbl annerbyniol. Byddai hefyd yn rhesymol disgwyl i swyddog â’i gefndir fod yn ymwybodol o’r potensial am ecsbloetio o fewn y diwydiant rhyw.
“Mae achosion fel hyn â’r potensial gwirioneddol i effeithio ar hyder y cyhoedd yn yr heddlu, ac mae’n galonogol gwybod na fydd yr unigolyn hwn byth yn gallu gweithio i unrhyw heddlu eto.”