Uwch-gwynion

Cafodd y system uwch-gwynion ei lansio ym mis Tachwedd 2018 i adnabod ac ateb problemau eang neu systemaidd o fewn plismona.

Mae'r system uwch-gwynion yn caniatáu i gyrff penodedig (megis elusennau) godi materion eang a allai effeithio ar hyder y cyhoedd mewn plismona – er enghraifft, y ffordd o ddelio ag achosion cam-drin domestig.

Caiff y system ei rheoli gan Arolygiaeth Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Fawrhydi (HMICFRS). Caiff uwch-gwyn ei asesu gan bwyllgor sy’n cynnwys ni ein hunain a HMICFRS.

Nid yw uwch-gwynion yn ffordd amgen o godi mater unigol o ran ymddygiad. Yn hytrach, gallai uwch-gwynion sbarduno gweithredu mewn maes penodol o blismona a allai arwain at newid safonau gan Goleg yr Heddlu, archwiliad gan HMICFRS, neu argymhelliad i newid arfer mewn un neu fwy o luoedd.

Dylid cyflwyno cwynion am achosion unigol o gamymddwyn i’r heddlu yn y modd arferol.

Arolygiaeth Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Fawrhydi (HMICFRS)

Mae HMICFRS yn gorff annibynnol sy'n asesu ac yn adrodd ar effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd lluoedd heddlu a'r heddlu, er budd y cyhoedd. Caiff hyn ei gyflawni'n bennaf drwy raglen arolygu flynyddol sy'n arwain at argymhellion, sy'n cael eu hystyried gan brif gwnstabliaid a swyddogion eraill. Nid yw HMICFRS yn ymchwilio i gwynion unigol gan aelodau o'r cyhoedd.

Coleg Plismona

Mae'r Coleg Plismona yn gorff proffesiynol i bawb sy'n gweithio i'r gwasanaeth heddlu yng Nghymru a Lloegr. Mae'r coleg yn bodoli er mwyn darparu'r sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen i atal troseddu, amddiffyn y cyhoedd, a sicrhau ymddiriedaeth y cyhoedd yn yr heddlu. Nid yw'r Coleg yn ymchwilio i gŵynion unigol gan aelodau o'r cyhoedd.

Ein Gwaith

Yn ogystal â goruchwylio system cwynion yr heddlu, rydym yn cynnal cannoedd o ymchwiliadau ac adolygiadau annibynnol bob blwyddyn. Rydym hefyd yn gweithio i wella plismona trwy ein dysgu a'n hymchwil. Ein gwaith