Cyflwynwch adolygiad
Defnyddiwch y ffurflen hon os ydych yn anfodlon â chanlyniad eich cwyn, neu gyda’r ffordd y cafodd eich cwyn ei thrin.
Dylai eich llythyr canlyniad gan y gwasanaeth heddlu neu sefydliad arall a ymdriniodd â’ch cwyn wreiddiol nodi’n glir pwy yw’r corff adolygu perthnasol. Dylech chi ond lenwi’r ffurflen hon os mai IOPC yw’r corff adolygu perthnasol. Ar ôl i ni gadarnhau mai ni yw’r corff adolygu cywir, byddwn yn rhoi gwybod i chi pan fyddwn yn dechrau prosesu eich cais am adolygiad.
Wrth adolygu eich cwyn, byddwn yn cysylltu â’r gwasanaeth heddlu neu’r sefydliad gwnaethoch gwyno amdano. Byddwn yn rhoi copi o’ch cais iddynt ac yn gofyn am unrhyw wybodaeth sydd ganddynt ynghylch eich cwyn wreiddiol a’r adolygiad dilynol.
Unwaith y byddwn wedi derbyn yr holl wybodaeth, byddwn yn asesu eich adolygiad ac yn gwneud penderfyniad. Sylwer ein bod yn edrych ar sut gwnaeth yr heddlu drin eich cwyn. Nid ydym yn ymchwilio i’ch cwyn wreiddiol.
Defnyddiwch y ffurflen hon os ydych yn anhapus â chanlyniad eich cwyn neu â sut yr ymdriniwyd â'ch cwyn.
Bydd gofyn i chi ddarparu cyfeiriad e-bost wrth lenwi’r ffurflen hon. Bydd copi o’r ffurflen wedi’i chwblhau yn cael ei anfon i’r cyfeiriad e-bost rydych wedi darparu ar ôl iddo gael ei gyflwyno. Bydd pob gohebiaeth yn y dyfodol yn cael ei anfon at y cyfeiriad e-bost hwnnw.
Os byddai’n well gennych anfon eich cais am adolygiad trwy e-bost neu’n ysgrifenedig, defnyddiwch y fersiwn Word neu PDF o'n ffurflen adolygiadau. Mae'r ffurflen hon hefyd ar gael yn Saesneg.
Er mwyn eich helpu i lenwi’r ffurflen hon, dylech gael eich llythyr canlyniad wrth law. Hefyd, ystyriwch ofyn am gymorth gan ffrind, aelod o’r teulu neu eiriolwr i’ch helpu i lenwi’r ffurflen, os oes angen.