Caffael
Rydyn ni’n cynnal ein caffael ar sail arferion gorau yn unol â gofynion Swyddfa'r Cabinet. Rydyn ni’n canolbwyntio ar sicrhau gwerth am arian, tryloywder a sicrhau bod ein cyflenwyr yn cael eu trin yn deg ac yn ddiduedd.
E-dendro
Rydyn ni’n defnyddio adnoddau caffael ar-lein i sicrhau ein bod yn bodloni ein huchelgeisiau o ran arferion gorau. Yn dibynnu ar ein gofynion, rydyn ni’n defnyddio naill ai Gwasanaeth Masnachol y Goron neu borth eGyrchu y Swyddfa Gartref.
Mae'r safleoedd hyn yn darparu cyfres o adnoddau sy’n galluogi ein tîm caffael a'n cyflenwyr i gynnal y broses gaffael gyfan ar-lein. Maen nhw hefyd yn darparu dull effeithlon, syml, achrededig a diogel sy’n cydymffurfio’n llawn, ar gyfer rheoli gweithgareddau tendro. Mae hyn yn helpu i leihau'r amser a'r ymdrech sydd eu hangen ar brynwyr a chyflenwyr.
Dylai darpar gyflenwyr gofrestru gyda'r ddau borth er mwyn gallu:
- cofrestru a mynegi diddordeb mewn cyfleoedd caffael
- cymryd rhan mewn gweithgareddau tendro trwy lawrlwytho, cwblhau a chyflwyno cynigions
Polisi talu’n brydlon
Rydyn ni’n dilyn polisi'r Llywodraeth ar dalu anfonebau. Telir yr holl anfonebau a gyflwynir yn gywir o fewn 30 diwrnod i'w derbyn.
Trin data a diogelwch data
Rhaid i sefydliadau sy'n dymuno cyflenwi nwyddau neu wasanaethau i ni sicrhau eu bod yn cydymffurfio â'n gweithdrefnau diogelwch. Mae gwahanol ofynion i'w dilyn yn seiliedig ar faint o ddata sy'n cael ei reoli gan gyflenwr.
Rydyn ni’n cymryd diogelwch data o ddifrif ac mae'n ofynnol i ni roi sicrwydd bod gwybodaeth bersonol a data sensitif yn cael eu trin yn briodol ac yn cael eu diogelu yn y gadwyn gyflenwi drwyddi draw. Felly, efallai y bydd angen i gyflenwyr ddeall a chydymffurfio ag agweddau ar y Fframwaith Polisi Diogelwch sy’n berthnasol i gyflenwyr.
Telerau ac amodau
Dylai cyflenwyr bob amser gyfeirio at y telerau ac amodau penodol a gyhoeddir fel rhan o ymarfer tendr caffael.
Mae ein gorchmynion prynu (dogfennau sy'n gofyn i gwmni gyflenwi nwyddau ac yn rhoi manylion am bris, dull a dyddiad talu) yn ddarostyngedig i'n telerau ac amodau.
Cysylltwch â ni yn uniongyrchol i gael y copi diweddaraf o'n telerau ac amodau.
Mentrau bach a chanolig (BBaChau)
Rydyn ni’n awyddus i brynu gan fusnesau bach a chanolig bob tro y byddant yn cynnig y gwerth gorau am arian. Gallwch ddysgu mwy am sut i gynnig am gontractau'r llywodraeth yn y canllawiau gwneud busnes gyda'r Llywodraeth: canllaw i fusnesau bach a chanolig.
Polisi cymdeithasol ac amgylcheddol
Byddwn, pan fo'n briodol, yn ceisio ymgorffori buddion cymdeithasol ychwanegol a gofynion amgylcheddol fel rhan o’n gweithgareddau caffael.
Cysylltwch â ni, neu rhowch adborth
Rydyn ni’n gwerthfawrogi adborth gan gyflenwyr presennol a darpar gyflenwyr. Ni fydd unrhyw adborth gennych yn cael unrhyw ddylanwad o gwbl ar eich cyfranogiad mewn unrhyw gyfleoedd tendro yn y dyfodol. Byddwn bob amser yn ceisio mynd i'r afael ag unrhyw faterion sy'n cael eu codi lle rydyn ni'n teimlo y gallwn wella'r hyn rydyn ni'n ei wneud.