Pan fyddwn yn cwblhau ein hymchwiliadau a'n hadolygiadau, rydym yn edrych am gyfleoedd i nodi potensial ar gyfer dysgu, i wella plismona ar lefel leol a chenedlaethol. Rydym hefyd yn cynnal ymchwil annibynnol ac yn casglu data ystadegol sy'n ein helpu i adnabod materion sy’n achosi pryder yn gynnar a gwneud argymhellion ymarferol i ddylanwadu ar newid.
Rydym yn ymateb yn rheolaidd i ymgynghoriadau am blismona a meysydd cysylltiedig, ac yn defnyddio ein mewnwelediadau i ddylanwadu ar newid cadarnhaol.
Rydym yn gwneud argymhellion rheolaidd i’r heddlu i helpu gwella plismona. Gallwch chwilio trwy ein hargymhellion diweddaraf yma.
Argymhellion
Trosolwg cylchlythyr
Rydym yn dal heddluoedd i gyfrif am eu perfformiad mewn ymdrin â chwynion ac yn gweithio gyda'n rhanddeiliaid plismona allanol i adnabod materion, gweithredu gwelliant ac ymarfer effeithiol, rhanadwy.
Mae Focus yn rhoi cyfarwyddyd ymarferol adrannau safonau proffesiynol heddluoedd ar ymdrin â chwyniom, materion ymddygiad, ac achosion marwolaeth neu anafiadau difrifol.