Ymateb yr heddlu i argyfwng meddygol – Heddlu Dyfed-Powys, Ionawr 2019

Published 23 Feb 2022
Investigation

Ym mis Ionawr 2019, cafodd swyddogion Heddlu Dyfed-Powys eu galw i fynychu adroddiad bod dyn wedi malu ystafell yn ei westy. Wrth i'r swyddogion gyrraedd, canfuwyd y dyn yn gorwedd ar lawr, yn chwyrnu yn uchel ac yn anadlu yn drwm, gydag ewyn yn dyfod o'i drwyn. Cafodd ei ddisgrifio fel un yn syllu ar y nenfwd gyda'i lygaid yn symud ar hyd y lle. Nodwyd bod ganddo bowdr gwyn o amgylch ei drwyn, bod ganddo waed o amgylch ei geg a'i ddannedd, ac nad oedd yn ymateb i gyfathrebu geiriol.

Roedd y swyddogion yn cydnabod eu bod yn delio ag argyfwng meddygol. Fe wnaethon nhw geisio tawelu meddwl y dyn a cheisio cymorth meddygol gan y gwasanaeth ambiwlans. Dechreuodd y dyn gicio allan tuag at y swyddogion gyda'i freichiau a'i goesau, gan arwain at ddau swyddog yn ei atal am ychydig eiliadau. Wedi hynny cafodd y dyn dri ffit ac aeth i mewn i ataliad ar y galon. 

Roedd y swyddogion yn gweinyddu CPR ac yn parhau i wneud hynny ar ôl i’r gwasanaeth ambiwlans gyrraedd. Cyhoeddwyd bod y dyn wedi marw tua dwy awr ar ôl i’r alwad gychwynnol gael ei wneud i’r heddlu.

Cadarnhaodd dadansoddiad gwenwynegol fod y dyn wedi cymryd llawer iawn o gocên cyn ei farwolaeth.

Cynhaliwyd archwiliad manwl o'r amgylchiadau a arweiniodd at farwolaeth y dyn. Fe wnaethom adolygu tystiolaeth ddogfennol, gwylio fideos a wisgwyd ar y corff, darllediadau radio, a chael datganiadau tyst gan y swyddogion a'r galwr.

Daeth ein hymchwiliad i ben ym mis Awst 2019. 

Yn ystod ein hymchwiliad nid oedd unrhyw arwydd y gallai unrhyw swyddog heddlu fod wedi ymddwyn mewn modd a fyddai'n cyfiawnhau dwyn achos disgyblu neu gyflawni trosedd.

Cynhaliwyd cwest ar 11 Chwefror 2022 a ddaeth i’r casgliad nad oedd gweithredoedd swyddogion wedi achosi na chyfrannu at farwolaeth y dyn. Arhosom i'r holl drafodion cysylltiedig gael eu cwblhau cyn cyhoeddi ein canfyddiadau. 

Gwnaethom ystyried yn ofalus os oedd unrhyw gyfleoedd dysgu yn deillio o'r ymchwiliad. Rydym yn gwneud argymhellion dysgu i wella plismona a hyder y cyhoedd yn system gwynion yr heddlu ac atal digwyddiadau tebyg rhag ddigwydd eto. Yn yr achos hwn, nid yw'r ymchwiliad wedi nodi unrhyw ddysgu.

IOPC reference

2019/114386