Collodd dyn ymwybyddiaeth tra yn nalfa’r heddlu – Heddlu De Cymru, Awst 2018

Published 13 Apr 2022
Investigation

Ar 30 Awst 2018, derbyniodd Heddlu De Cymru gudd-wybodaeth bod dyn yn gwerthu cyffuriau anghyfreithlon o safle bws yn Abertawe. Mynychodd dau swyddog y lleoliad hwn, gan nodi'r sawl a ddrwgdybir a cheisio ei gadw i gynnal chwiliad o dan y Ddeddf Camddefnyddio Cyffuriau. 

Cafodd dau lapiad o gyffuriau anghyfreithlon amheus a dwy ffôn symudol eu gollwng yn lleoliad yr arestiad ar ôl brwydr rhwng y dyn a’r ddau swyddog. Arestiwyd y dyn wedyn ar amheuaeth o fod â chyffuriau Dosbarth A yn ei feddiant gyda’r bwriad o’u cyflenwi a’i gymryd i’r ddalfa yn Abertawe.

Wrth ddesg y ddalfa, dywedodd y dyn wrth sarjant y ddalfa fod swyddog wedi ei daro i'w ben sawl gwaith yn ystod ei arestio. Ni ddatgelodd unrhyw faterion neu salwch iechyd meddwl neu gorfforol eraill. Yng ngoleuni’r honiad, cafodd nyrs ei galw i’r ddalfa i archwilio iechyd y dyn. 

Cafodd y dyn ei gymryd wedyn i gael ei noeth-chwilio gan fod swyddogion yn pryderu y gallai fod wedi cuddio cyffuriau yn ei ddillad isaf neu gorff, ond collodd ymwybyddiaeth cyn i hyn gael ei gwblhau. Cafodd ei asesu gan y nyrs a chafodd parafeddygon eu galw. Daeth yn ymwybodol eto ond cafodd ei gymryd i'r ysbyty wedyn. Nid oedd tystiolaeth bod y dyn wedi cael anaf i'r pen ond roedd swyddogion yn amau y gallai'r dyn fod wedi llyncu neu bacio (gosod yn ei gorff) cyffuriau opioid. Cadwyd y dyn dan sylw gan swyddogion ond ni chymerodd unrhyw gyffuriau ac fe wellodd yn llwyr o'i golli ymwybyddiaeth. 

Mynychodd yr IOPC y lleoliad a chynnal ymholiadau o dŷ i dŷ gyda phreswylwyr a gweithwyr swyddfa a allai fod wedi gweld arestio’r dyn.

Fe wnaethom adolygu ffilm fideo a wisgwyd ar y corff a chael datganiadau tyst gan y swyddogion arestio a swyddogion eraill a fynychodd y lleoliad ac a ddeliodd â'r dyn yn y ddalfa. Cawsom hefyd ddatganiadau tystion gan y parafeddygon a'r nyrs a driniodd y dyn yn y ddalfa.

Daeth ein hymchwiliad i ben ym mis Mai 2019.

Daethom i'r casgliad nad oedd unrhyw arwydd bod person sy'n gwasanaethu gyda'r heddlu wedi cyflawni trosedd neu wedi ymddwyn mewn modd a oedd yn cyfiawnhau dwyn achos disgyblu. O adolygu’r dystiolaeth, fe wnaethom benderfynu bod defnydd y swyddogion arestio o rym i gadw’r dyn yn y ddalfa yn angenrheidiol, yn rhesymol ac yn gymesur, a bod yr ataliad wedi’i gynnal yn briodol o ran sicrhau bod y dyn yn gallu anadlu’n rhydd. 

Derbyniodd un swyddog eiriau o gyngor am y modd y siaradodd â’r dyn yn y ddalfa, a oedd yn ein barn ni yn amharchus ac yn anghwrtais 

Gwnaethom ystyried yn ofalus os oedd unrhyw gyfleoedd dysgu yn deillio o'r ymchwiliad. Rydym yn gwneud argymhellion dysgu i wella plismona a hyder y cyhoedd yn system gwynion yr heddlu ac atal digwyddiadau tebyg rhag ddigwydd eto. 

Ni wnaethom nodi unrhyw ddysgu sefydliadol, ond ystyriwyd yr ymchwiliad fel rhan o ddarn ehangach o waith a wnaethom i astudio achosion stopio a chwilio yn genedlaethol.

IOPC reference

2018/108355