Rolau Ymchwilio, Goruchwylio a Gwaith Achos
Mae ein cyfarwyddiaeth Ymchwiliadau, Goruchwylio a Gwaith Achos yn gyfrifol am oruchwylio'r holl swyddogaethau ymchwilio, yn ogystal â goruchwylio system gwynion a gwaith achos yr heddlu. Mae'r gwaith hwn yn hanfodol er mwyn sicrhau ein bod yn cyflawni ein gweledigaeth o wella ymddiriedaeth a hyder yn yr heddlu.
Mae ein timau Ymchwiliadau yn cwmpasu Cymru a Lloegr i gyd ac yn cynnal cannoedd o ymchwiliadau annibynnol bob blwyddyn. Mae ein ymchwilwyr yn cael eu cefnogi gan amrywiaeth o dimau sy'n gwneud llawer iawn o waith i'w cefnogi.
Mae ein swyddogaeth Ymchwiliadau Mawr yn cyflawni ymchwiliadau ar raddfa eang, sy'n gofyn am lawer o adnoddau, sydd fel arfer yn gymhleth ac yn uchel eu proffil, gan gynnwys ymchwiliadau o arwyddocâd cenedlaethol.
Mae ein Uned Asesu yn derbyn tua 7,000 o atgyfeiriadau gan heddluoedd bob blwyddyn. Y tîm sy'n pennu'r dull ymchwilio ar gyfer pob atgyfeiriad. Mae nhw'n gwneud penderfyniadau anodd bob dydd ynglŷn â'r hyn rydyn ni'n ymchwilio iddo yn annibynnol a'r hyn rydym yn gofyn i adran safonau proffesiynol yr heddlu ymchwilio iddo.
Mae'r tîm Goruchwylio yn sicrhau ein bod yn ymgysylltu'n effeithiol ag adrannau safonau proffesiynol ac yn eu herio er mwyn sicrhau bod y broses gwyno yn cael ei ddilyn yn glir. Mae'r tîm yn darparu mewnbwn gan ymarferwyr, gweithdai a samplu ar hap, ymhlith pethau eraill, i gynhyrchu dogfennau canllaw a chyhoeddiadau, i rannu gwybodaeth ac arfer effeithiol ac i nodi gweithgaredd gwella.
Mae'r tîm Gwaith Achos yn gyfrifol am gynnal cannoedd o adolygiadau o gwynion am yr heddlu bob blwyddyn. Maent yn adolygu cwynion ac achosion marwolaeth ac anafiadau difrifol sydd eisoes wedi cael eu hymchwilio gan heddluoedd. Mae hyn yn helpu i sicrhau cydymffurfiaeth o fewn y system, atebolrwydd unigol ac yn gwella plismona drwy nodi a rhannu dysgu.
Mae llawer o bobl yn dod i’w cysylltiad cyntaf â'r sefydliad trwy ein Canolfan Cyswllt Cwsmeriaid. Mae'r tîm yn rhoi cyngor ynghylch y broses gwyno i aelodau'r cyhoedd, yr heddlu ac asiantaethau eraill. Mae nhw'n trin tua 40,000 o negeseuon e-bost a 22,000 o alwadau bob blwyddyn.
Rolau ymchwilio
Fel Ymchwilydd dan Hyfforddiant, byddwch yn canolbwyntio ar ddatblygu'r sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen arnoch i ddod yn ymchwilydd achrededig llawn (PIP 1). Os oes gennych chi sgiliau dadansoddi da, llygad am fanylion a'r gallu i weithio gyda phobl o gefndiroedd amrywiol, gallwch chi fod yn rhan o'n ymchwiliadau cymhleth, proffil uchel.
Mae bod yn rhan o’n tîm ymchwiliadau yn rôl na allwch byth baratoi’n llawn ar ei chyfer, ond bydd ein rhaglen ymchwilwyr dan hyfforddiant 24 mis yn sicrhau bod gennych y sgiliau sydd eu hangen arnoch i ddatgelu’r ffeithiau ac ysbrydoli hyder yn eich gwaith. Ar ôl cwblhau eich rhaglen PIP 1, cewch eich dyrchafu i fod yn ymchwilydd. Fel aelod o un o'n timau, byddwch yn cymryd rhan mewn cyfweliadau, yn casglu ac yn dadansoddi tystiolaeth, yn mynychu archwiliadau post-mortem, ac yn paratoi deunyddiau ar gyfer achosion llys neu gwestau. Mewn gwirionedd, byddwch yn chwarae rhan bwysig yn ein helpu i gyflawni ymchwiliadau o ansawdd uchel sy'n bodloni anghenion amrywiol achwynwyr a theuluoedd.
Weithiau, gall fod yn anodd ac yn heriol yn emosiynol. Bydd llawer o'n hymchwiliadau yn llygad y cyhoedd ac mae'n bosibl y bydd yr achos yn cael ei graffu’n ddwys gan y cyfryngau. Efallai y bydd yn rhaid i chi fynychu archwiliadau post-mortem a delio â phobl sy'n rhwystredig ac yn ddig, yn ddealladwy.
Er bydd ein hyfforddiant a'n cefnogaeth yn eich helpu i ymdopi â gwahanol sefyllfaoedd, bydd eich cymeriad yr un mor bwysig. Dylech chi allu cydymdeimlo a chyfathrebu'n gydymdeimladol â phobl yn yr holl amgylchiadau, yn ogystal â chael y gwydnwch i addasu i wahanol sefyllfaoedd.
Bydd angen meddwl dadansoddol arnoch, yr awydd i ddarganfod yr atebion cywir a'r gwydnwch i ymdrin ag ymchwiliadau yn ddiplomyddol ac yn wrthrychol.
Gwrandewch ar Zara a Calum, ein ymchwilwyr dan hyfforddiant:
Gan weithio'n agos gyda theuluoedd sydd wedi colli rhywun, achwynwyr a'r heddlu i sefydlu'r ffeithiau, byddwch yn rhan o'r tîm sy'n cynnal neu'n cefnogi amrywiaeth o ymchwiliadau. Bydd hyn yn cynnwys casglu tystiolaeth, cyfweld â thystion ac achwynwyr, cymryd datganiadau a pharatoi ffeiliau ar gyfer gwahanol achosion.
Bydd angen i chi weithredu’n deg ac yn drylwyr ym mhob ymchwiliad, gan sicrhau achwynwyr neu berthnasau sydd wedi colli rhywun o’ch didueddrwydd a’ch annibyniaeth rhag yr heddlu. Gyda dull dadansoddol cryf a llygad craff am fanylion wrth gasglu tystiolaeth, bydd gennych y cymeriad i weithio gyda phobl o gefndiroedd amrywiol. Mae hyn yn golygu y dylech fod yn gyfwelydd hyderus, gyda'r gallu i addasu eich arddull cyfathrebu i gyflawni'r canlyniadau gorau.
Gall bod yn ymchwilydd fod yn rôl llawn cyffro, mynychu archwiliadau post-mortem a siarad â theuluoedd sy'n galaru pan fyddant fwyaf gofidus. Felly bydd angen i chi fod yn wydn a chanolbwyntio ar gyflawni canlyniad teg i bawb sy'n troi atom ni am gymorth.
Byddwch chi'n rhan o ymchwiliadau cwbl unigryw, felly mae hon yn rôl na allwch chi byth fod yn gwbl barod ar ei chyfer. Dyna pam y byddwn yn sicrhau eich bod yn cael hyfforddiant a datblygiad parhaus i gadw eich sgiliau yn ffres. Fel rhan o'r rôl hon, byddwch yn dod yn ymchwilydd achrededig llawn (PIP 1). Gyda'r cymeriad i rannu eich mewnwelediadau a'ch gwybodaeth gyda chydweithwyr, byddwch yn mwynhau'r cyfle i ddylanwadu ar ymchwiliadau ac, yn y pen draw, cyfiawnder cymdeithasol. Byddwch yn rhan o dîm amrywiol sy'n cynrychioli'r ystod o bobl sy'n dibynnu arnom ni am gefnogaeth annibynnol. O bryd i'w gilydd, bydd angen i chi weithio oriau anghymdeithasol ac estynedig hefyd fel aelod o'n darpariaeth ar-alwad 24 awr.
Os oes gennych chi rywfaint o brofiad ymchwiliol, neu gefndir mewn rôl arolygu, rheoleiddio, gorfodi neu rôl debyg, mae hwn yn gyfle gwych i ddatblygu eich sgiliau ymhellach, gan weithio ar amrywiaeth o ymchwiliadau proffil uchel.
Fel prif ymchwilydd, byddwch yn rhan o bob agwedd ar ymchwiliadau i droseddau a chamymddwyn honedig, o nodi'r cylch gorchwyl cychwynnol, i gasglu tystiolaeth, cyfweld â thystion, dod i gasgliadau, ac ysgrifennu adroddiad terfynol, lle mae nifer ohonynt wedi'u cyhoeddi.
Yn ogystal ag ymweld â lleoliadau digwyddiadau i sicrhau bod yr holl dystiolaeth yn cael ei gadw a'i adfer, bydd disgwyl i chi hefyd fynychu archwiliadau post-mortem a briffio patholegwyr. Mae hyn yn golygu y bydd angen i chi fod yn wydn a chanolbwyntio ar ddarganfod y ffeithiau. Bydd eich ymchwiliadau yn aml o dan graffu cyhoeddus, a chi fydd y prif bwynt cyswllt ar gyfer achwynwyr, teuluoedd sydd wedi colli rhywun a phartïon eraill sydd â diddordeb. Felly, bydd angen i chi fod yn gyfathrebwr hyderus a chyfeillgar, gyda'r gallu i aros yn dawel a ffocysu o dan bwysau.
Er mwyn sicrhau eich bod chi bob amser yn barod ar gyfer heriau unigryw ein gwaith, byddwn ni'n rhoi hyfforddiant a chefnogaeth barhaus i chi. Fel rhan o'r rôl hon, byddwch yn dod yn ymchwilydd achrededig llawn (PIP 2). Ar ôl cwblhau eich rhaglen PIP 2, byddwch yn cael dyrchafiad. Mae bod yn brif ymchwilydd yn rôl gymhleth ac yn y pen draw yn rhoi boddhad, gan gynnig y cyfle i chi weithio gyda phob sector o'r gymuned a chael effaith gadarnhaol ar eu bywydau. Bydd eich dealltwriaeth o wahanol gymunedau a'ch gallu i ddangos empathi â nhw a’u deall yn hanfodol.
Bydd angen sgiliau dadansoddol cryf arnoch, a ddatblygwyd mewn rôl lle gwnaethoch arwain ymchwiliadau. Gall hyn fod wedi’i gael mewn meysydd fel gwasanaethau cymdeithasol, safonau masnach, cyrff rheoleiddio, risg, archwilio, profiannaeth, neu orfodi. O bryd i'w gilydd, bydd angen i chi weithio oriau anghymdeithasol ac estynedig hefyd fel aelod o'n cyfleuster 24 awr ar alwad.
Gwrandewch ar Rachael, prif ymchwilydd.
Mae pedwar rôl Arweinydd Tîm Ymchwiliadau gwahanol sy'n rhan o'n swyddogaeth Ymchwiliadau.
Mae Arweinydd Tîm Ymchwiliadau - Perfformiad ac Adnoddau yn goruchwylio recriwtio, achredu, perfformiad, datblygiad personol a phroffesiynol timau o Ymchwilwyr ac Ymchwilwyr dan Hyfforddiant. Mae'r rôl yn cynnwys hyfforddi a mentora timau o ymchwilwyr, gan sicrhau rhagoriaeth weithredol drwy adolygu ansawdd ymchwiliadau a chynhyrchion ymchwiliadau. Mae'r tîm hwn yn cefnogi'r 'Rheolwr Ymchwiliadau – Cyfarwyddiaeth Perfformiad ac Adnoddau a Galw am Adnoddau' i nodi'r galw a'r cyflenwad gan ymchwilwyr at ddibenion cynllunio a datblygu'r gweithlu.
Mae Arweinydd Tîm Ymchwiliadau – Craidd yn cyflawni ac yn gosod cyfeiriad ymchwiliadau. Ochr yn ochr â'r 'Arweinydd Tîm Ymchwiliadau – Perfformiad ac Adnoddau', mae'r rôl hon yn gyfrifol am sicrhau bod ymchwiliadau o ansawdd uchel, cadarn ac annibynnol yn cael eu cynnal. Mae'r rôl yn goruchwylio Prif Ymchwilwyr, gan sicrhau eu datblygiad personol a phroffesiynol hefyd, er mwyn cyflawni rhagoriaeth mewn ymchwiliadau a chyrraedd safonau ansawdd. Mae hon yn rôl allweddol mewn sicrhau ansawdd a bydd yn cynnwys cyfrifoldeb am sicrhau ansawdd ymchwiliadau a chynhyrchion ymchwiliadau. Mae'r rôl yn hanfodol wrth sicrhau datrysiadau amserol i ymchwiliadau a chynnal uniondeb ymchwiliadau.
Mae Arweinydd Tîm Ymchwiliadau – MI yn debyg i'r 'Arweinydd Tîm Ymchwiliadau - Craidd' ond mae'n rhan o dîm Ymchwiliadau sy'n gweithio o fewn Ymchwiliadau Mawr (MI).
Mae Arweinydd Tîm Ymchwiliadau – ACU yn gweithio o fewn yr Uned Gwrth-lygredd (ACU). Mae'r ACU yn gyfrifol am dderbyn atgyfeiriadau cudd gan heddluoedd ledled Cymru a Lloegr a gwneud penderfyniadau ymchwilio priodol. Ar gyfer yr ymchwiliadau hynny a bennir fel rhai dan oruchwyliaeth, rheoledig, annibynnol neu gyfeiriedig; bydd yr ACU yn goruchwylio rhain. Mae'r rôl hon yn gweithredu fel yr Arweinydd Gwrth-lygredd cenedlaethol, gan roi cyngor a chyfarwyddyd i ymchwiliadau gwrth-lygredd eraill.
Mae pum rôl Rheolwr Ymchwiliadau gwahanol sy'n rhan o'n swyddogaeth Ymchwiliadau.
Mae Rheolwr Ymchwiliadau - Perfformiad ac Adnoddau yn goruchwylio recriwtio, achredu, perfformiad, datblygiad personol a phroffesiynol timau o Ymchwilwyr ac Ymchwilwyr dan Hyfforddiant. Ochr yn ochr â'r rheolwyr ymchwiliadau eraill, mae'r rôl hon yn gyfrifol am ddarparu arweinyddiaeth strategol i dimau o ymchwilwyr, gan sicrhau bod ymchwiliadau o ansawdd uchel, cadarn ac annibynnol yn cael eu cyflawni a dangos ein gwerthoedd craidd ym mhob agwedd o’r rôl.
Mae gan y rôl hon gyfrifoldebau rheoli llinell 'Arweinydd Tîm Ymchwiliadau - Perfformiad ac Adnoddau' ac atebolrwydd am ganlyniadau a pherfformiad ymchwiliadau. Mae'r rôl yn gweithio i nodi meysydd tuedd i'w gwella a bod yn bwynt uwch-gyfeirio ar gyfer capasiti, rheoli pobl, llesiant a materion bugeiliol. Mae'r rôl yn gweithio'n agos gyda'r Gyfarwyddiaeth Adnoddau Galw i nodi’r galw am a’r cyflenwad o ymchwilwyr at ddibenion cynllunio a datblygu'r gweithlu. Y rôl yw'r Arweinydd Gweithredol ar gyfer Ansawdd a Pherfformiad ac mae'n uwch noddwr ar gyfer nifer o faterion.
Bydd Rheolwr Ymchwiliadau – Cymhleth yn cyfarwyddo ac yn gwneud penderfyniadau mewn perthynas ag achosion critigol, dadleuol a risg uchel. Mae'r rôl yn cynnwys atebolrwydd am ansawdd ymchwiliadau, amseroldeb ac effeithlonrwydd. Mae'n rôl allweddol o fewn y Grŵp Ymarferydd Gweithredol ar gyfer Gwneud Penderfyniadau lle mae'r rôl hon yn gosod safonau, yn ymgorffori arfer da mewn gwneud penderfyniadau, yn gweithredu fel arweinydd pwnc, yn cynnal sicrwydd ansawdd ac yn darparu cefnogaeth gan gymheiriaid i benderfynwyr ledled y sefydliad. Mae'r rôl hon yn arwain ar Hawl y Dioddefwr i Adolygiad, ac mae’n rôl penderfynydd ar ail-ymchwiliadau sy’n ailystyried penderfyniadau ymchwiliadau blaenorol.
Bydd Rheolwr Ymchwiliadau – Busnes Craidd yn gosod cyfeiriad yr ymchwiliad, yn deall capasiti ac yn gwneud penderfyniadau ar achosion. Mae gan y rôl hon gyfrifoldebau rheolaeth llinell tîm o 'Arweinwyr Tîm Ymchwiliadau - Busnes Craidd,' ac atebolrwydd am ansawdd, amseroldeb ac effeithlonrwydd ymchwiliadau.
Bydd Rheolwr Ymchwiliadau – Ymchwiliadau Mawr yn cyfarwyddo, yn gwneud penderfyniadau ac yn gyfrifol am gyflawni Ymchwiliadau Mawr. Mae hon yn rôl allweddol o fewn y Grŵp Ymarferwyr Gweithredol ar gyfer Gwneud Penderfyniadau. Bydd y rôl yn gosod ac yn ymgorffori arfer da a safonau ar gyfer gwneud penderfyniadau, yn darparu cefnogaeth gan gymheiriaid i benderfynwyr ledled y sefydliad ac yn rheoli a lliniaru risg sefydliadol yn ystod Ymchwiliadau Mawr.
Bydd Rheolwr Ymchwiliadau – ACU a’r Uned Wybodaeth yn cyfarwyddo ac yn gwneud penderfyniadau mewn perthynas ag achosion gwrth-lygredd risg uchel; yn benodol, o fewn yr ACU a'r Uned Wybodaeth. Mae hon yn rôl allweddol o fewn y Grŵp Ymarferwyr Gweithredol ar gyfer Gwneud Penderfyniadau, lle bydd y rôl yn gosod ac yn ymgorffori arferion da a safonau ar gyfer gwneud penderfyniadau, yn darparu cefnogaeth gan gymheiriaid i benderfynwyr ledled y sefydliad ac yn rheoli a lliniaru risg sefydliadol yn ystod ymchwiliadau cudd ac agored.
Mae'r Uwch Reolwr Asesu yn gyfrifol am wneud penderfyniadau yn seiliedig ar dystiolaeth ar atgyfeiriadau gan asiantaethau gorfodi'r gyfraith, pennu lefel cyfranogiad IOPC, a darparu rhesymeg glir a chadarn. Mae hefyd yn cynrychioli IOPC i randdeiliaid dylanwadol ac yn darparu arweinyddiaeth i staff Asesu, gan gyfrannu at effeithiolrwydd, effeithlonrwydd a hyder y cyhoedd yn system cwynion am yr heddlu.
Gall Uwch Ddadansoddwyr Asesu gadw llwyth achosion bach o apeliadau/atgyfeiriadau cymhleth neu broffil uchel. Byddant yn gyfrifol am hyfforddi a mentora staff newydd a phresennol yn unol â'r strategaeth y cytunwyd arni gyda'r rheolwr. Byddant yn sicrhau ansawdd ar waith atgyfeirio dechreuwyr newydd, yn rhoi adborth, ac yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r rheolwyr ar gynnydd yn erbyn safonau ansawdd.
Mae Dadansoddwyr Asesu yn gwneud argymhellion effeithiol, yn seiliedig ar dystiolaeth, mewn ymateb i atgyfeiriadau cwynion, ymddygiad ac anafiadau difrifol neu farwolaeth. Efallai bydd yna hefyd ofyn i'r dadansoddwyr wneud penderfyniadau ar geisiadau terfynu, apeliadau, a gwneud argymhellion ar awdurdodau priodol yn tynnu cwynion yn ôl yn unol â deddfwriaeth a chyfleu'r penderfyniadau terfynol drwy egwyddorion gwasanaeth cwsmeriaid gorau. Cyflawnir hyn trwy ddadansoddi deunydd a gasglwyd yn feirniadol, cyfleu penderfyniadau’n effeithiol ac, yn achos atgyfeiriadau, gwneud argymhellion ynghylch lefel y cyfranogiad y bydd gan IOPC mewn achosion a atgyfeirir gan awdurdodau priodol.
Mae Rheolwyr Goruchwyliaeth yn darparu arweinyddiaeth strategol i'r swyddogaeth oruchwylio, gan ddarparu rhaglen ymgysylltu genedlaethol o ansawdd uchel gydag arbenigwyr trin cwynion am yr heddlu. Maent yn dwyn cyrff i gyfrif am eu perfformiad, yn arwain gwaith thematig, yn gosod safonau ar gyfer ymdrin â chwynion ac yn gweithio gyda chyrff goruchwylio partneriaid i wella cysondeb ac ansawdd ar draws y system—gan ysgogi hyder y cyhoedd yn unol â'r strategaeth oruchwylio. Fel arbenigwyr technegol mewn deddfwriaeth cwynion am yr heddlu, maent yn goruchwylio timau o swyddogion a chysylltwyr goruchwyliaeth, yn gweithredu fel llais i randdeiliaid plismona, yn cefnogi rheoli enw da, ac yn arwain y broses o weithredu newid deddfwriaethol a diwylliannol trwy arweiniad clir a chyson ac ymgysylltu â ffocws.
Mae Swyddogion Goruchwylio yn cefnogi'r broses o gyflawni'r swyddogaeth oruchwylio trwy gynhyrchu cyhoeddiadau allweddol a bwletinau chwarterol, o ddrafftio i gyhoeddi, gan weithio'n agos gyda thimau mewnol a rhanddeiliaid allanol. Mae nhw'n datblygu ac yn cyflwyno deunyddiau ymgysylltu, yn rheoli prosiectau ar wahân, ac yn cyfrannu at fentrau goruchwylio. Mae'r rôl hefyd yn cefnogi cysylltwyr goruchwylio trwy ddadansoddi data, paratoi briffiau, trefnu digwyddiadau, rheoli gwybodaeth, a helpu i gydlynu gweithgarwch goruchwylio o ddydd i ddydd. Mae swyddogion goruchwylio hefyd yn chwarae rhan allweddol mewn ymyraethau gan yr heddlu a Chomisiynwyr Heddlu a Throseddu, gan gynnwys dylunio a chefnogi archwiliadau, drafftio a chyhoeddi adroddiadau, a helpu i ddangos effaith gwaith goruchwylio.
Mae Swyddogion Cyswllt Goruchwyliaeth yn cefnogi'r gwaith o gyflawni swyddogaeth goruchwylio'r heddlu ac yn goruchwylio elfennau o'r strategaeth goruchwylio a hyder. Mae nhw'n arwain ymgysylltiad â heddluoedd a swyddfeydd PCC, gan eu dal i gyfrif am berfformiad tra'n cefnogi gwelliannau o ran ymdrin â chwynion ac adolygiadau. Mae'r rôl hefyd yn cyfrannu at flaenoriaethau'r sefydliad, yn arwain gweithgaredd cysylltu, yn rheoli agweddau ar y rhaglen goruchwylio, ac yn cefnogi datblygiad parhaus y swyddogaeth.
Mae Rheolwyr Gweithrediadau yn allweddol ar gyfer sicrhau ein bod yn gwneud argymhellion effeithiol, diduedd, ac annibynnol ynghylch camau i'w cymryd yn erbyn unigolion ac i wella gwaith plismona o ganlyniad i'n apeliadau, ein adolygiadau a'n DSIs. Mae nhw'n gyfrifol am ddarparu arweinyddiaeth i Uwch Reolwyr Gwaith Achos yn genedlaethol, ac mae pob un ohonynt yn rheoli nifer o Reolwyr Gwaith Achos sy'n ymdrin ag achosion cymhleth, heriol neu achosion eraill sy'n hynod gymhleth ac sy'n destun craffu gan y cyhoedd, teuluoedd neu'r cyfryngau, ac felly rhaid eu hymchwilio mewn modd teg gyda chanfyddiadau wedi'u gwreiddio mewn tystiolaeth, cyfraith neu bolisi. Byddant yn reddfol ac yn agored wrth ddeall pryderon gan achwynwyr, teuluoedd mewn profedigaeth, Cynrychiolwyr y Ffederasiwn, a'r heddlu, er mwyn meithrin perthnasoedd da a gyrru newid cadarnhaol ymlaen.
Mae Uwch Reolwyr Gwaith Achos yn rheoli ac yn goruchwylio tîm sy'n ymgymryd â derbyn ac asesu apeliadau, adolygiadau, adroddiadau DSI a materion eraill o dan Ddeddf Diwygio'r Heddlu 2002.
Mae Rheolwyr Gwaith Achos yn asesu, deall, gwerthuso, a dod i benderfyniadau ar adolygiadau ynghylch ymchwiliadau'r heddlu a chwynion difrifol. Yn gryno, maent yn gwerthuso'r amgylchiadau yn dilyn cwynion a wneir gan aelodau'r cyhoedd ar ôl rhyngweithio â'r heddlu; gan bwyso a mesur y dystiolaeth sydd ar gael, gan ystyried y ddeddfwriaeth, yr adroddiadau a'r dadansoddiadau perthnasol i ddod i gasgliad. Gall hyn amrywio o ddim bai, i argymhellion dysgu ar gyfer hyfforddiant heddlu/swyddogion, neu argymhelliad y dylid cynnal achos disgyblu.
Gall Gweinyddwyr Gwaith Achos fod yn bwynt cyswllt cyntaf i aelodau'r cyhoedd ac asiantaethau eraill o ran apeliadau/adolygiadau ac atgyfeiriadau heddlu. Maent yn derbyn atgyfeiriadau am faterion difrifol gan awdurdodau priodol ac apeliadau neu adolygiadau gan aelodau o'r cyhoedd sydd wedi gwneud cwyn ac sy'n anfodlon â'r ffordd y mae'r awdurdodau priodol wedi ymdrin â'u cwyn. Bydd y tîm yn casglu'r holl wybodaeth berthnasol ac yn cyfeirio achosion a gohebiaeth at yr adran fewnol gywir. Yn gyffredinol, mae'r tîm gweinyddu yn cynnal archwiliad rhagarweiniol o'r wybodaeth a dderbynnir, yn mewnbynnu'r wybodaeth hyn, yn paratoi'r ffeil achos ac yna'n ei gyfeirio at y person priodol.
Bydd Rheolwr y Ganolfan Cyswllt Cwsmeriaid (CCC) yn darparu arweinyddiaeth a rheolaeth i CCC mewn perthynas â phob agwedd ar eu dyletswyddau a'u datblygiad. Bydd hyn yn grymuso staff i wneud penderfyniadau ar ran IOPC, gan sicrhau cydymffurfiaeth â rhwymedigaethau statudol a'r llawlyfr gweithrediadau mewnol.
Trwy weithio fel rhan o'r Ganolfan Cyswllt Cwsmeriaid, mae gan Gynghorwyr y Ganolfan Cyswllt Cwsmeriaid ystod o gyfrifoldebau sy'n cwmpasu pob elfen o'r ganolfan cyswllt. Bydd hyn yn cynnwys darparu gwasanaeth gwybodaeth ymatebol dros y ffôn, ymateb i ohebiaeth a chwynion a dderbynnir gan amrywiaeth o bartïon allanol, gan gynnwys aelodau'r cyhoedd, heddluoedd, ASau, cyfreithwyr ac asiantaethau eraill.
Wrth weithio o fewn unrhyw un o'r rolau uchod, byddwch yn dod i gysylltiad rheolaidd â deunydd trallodus a fydd yn debygol o fod yn drawmatig, yn heriol ac yn cael effaith. O ystyried natur y gwaith, byddwch yn dod i gysylltiad ag unigolion sy'n profi trallod eithafol. Rydym yn cydnabod hyn ac rydym yn cynnig ystod o ddarpariaethau llesiant i'n holl staff, gan gynnwys cefnogaeth gan gymheiriaid TRiM (Rheoli Risg Trawma), Cynghorydd Llesiant pwrpasol, a mynediad at gwnsela cyfrinachol am ddim. Anogir ein holl staff yn gryf i fanteisio’n rhagweithiol ar y gefnogaeth sydd ar gael a’i ddefnyddio.
Hyfforddiant a datblygiad
Mae PIP yn raglen datblygu strwythuredig sy'n anelu at roi'r sgiliau angenrheidiol i staff ar gyfer cynnal ymchwiliadau proffesiynol. PIP yw'r safon a gydnabyddir yn genedlaethol ar gyfer ymchwilwyr, ac mae PIP1 a PIP2 yn cael eu cyflwyno i'n staff. Mae'r cymwysterau hyn yn ofyniad gorfodol ar gyfer pob ymchwilydd sy'n ymuno â'n sefydliad, ac ochr yn ochr â chwricwlwm PIP, bydd elfennau o'r rhaglen yn canolbwyntio ar ein gwaith.
Mae gan bob lefel sgiliau a gwybodaeth graidd sy'n ofynnol ar gyfer rolau o fewn y lefel honno:
- PIP1 yw sylfaen ymchwiliadau a bydd yn cael ei gwblhau gan Ymchwilwyr Hyfforddai ac Ymchwilwyr.
- Bydd PIP2 yn cael ei gwblhau gan Ymchwilwyr Arweiniol gan fod y rhaglen hon yn adeiladu ar ddatblygu sgiliau arweinyddiaeth sy'n ofynnol i arwain ymchwiliad. Mae PIP2 yn ei gwneud yn ofynnol i'r Prif Ymchwilydd basio Arholiad Cenedlaethol yr Ymchwilwyr (NIE).
Mae'r ddwy raglen hyfforddi yn ymdrin ag agweddau allweddol o’r rôl, gan gynnwys pwerau ymchwilydd IOPC, sgiliau cyfweld ymchwiliol, rheoli lleoliad, gweithdrefnau ar ôl digwyddiad, egwyddorion datgelu ac ysgrifennu adroddiadau. Mae ein prif ymchwilwyr yn derbyn hyfforddiant ychwanegol sy'n cwmpasu pob agwedd ar arwain ymchwiliad, gan gynnwys strategaeth, gwneud penderfyniadau ac ysgrifennu polisïau. Er bod y ddwy raglen PIP wedi mabwysiadu dull cyfunol o hyfforddi, mae angen hyfforddiant wyneb yn wyneb a all olygu aros i ffwrdd o adref am gyfnod o amser.
Mae'r ddwy raglen PIP yn ei gwneud yn ofynnol i'n hymchwilwyr fynychu a chwblhau pob elfen hyfforddi, a dangos eu gwybodaeth a'u cymhwysiad ymarferol, trwy bortffolio o dystiolaeth sy'n seiliedig ar waith. Bydd angen i chi deithio ar gyfer yr hyfforddiant (costau wedi'u talu) a bydd y rhan fwyaf o'r hyfforddiant yn cael ei gyflwyno mewn person.
Ailddilysu
Ail-ddilysu yw'r broses rydym wedi'i chynllunio sy'n caniatáu i'n hymchwilwyr gynnal eu statws gweithredol PIP a dangos gallu parhaus i gyflawni'r rôl. Disgwylir i'n Ymchwilwyr gymryd rhan yn y broses ail-ddilysu drwy gydol eu gyrfa ymchwiliol. Gallai methu ag ail-ddilysu arwain at gofrestru ymchwilwyr fel PIP anactif.
Mae ein Ymchwilwyr yn gyfrifol am barhau â'u datblygiad proffesiynol eu hunain a chynnal a gwella cymhwysedd o fewn eu rôl. Cefnogir datblygiad personol a phroffesiynol gan ein proses datblygiad personol o'r enw DRIVE. Bydd ein Hymchwilwyr hefyd yn cael sgwrs ail-ddilysu flynyddol gydag aelod o'r tîm Dysgu a Datblygu Ymchwiliadau, lle byddant yn trafod yr hyn y maent wedi'i wneud i gynnal a gwella eu sgiliau, eu gwybodaeth a'u profiad.
Mae cynnal statws PIP gweithredol yn ofyniad cytundebol i bob aelod o staff sy'n ymgymryd â rôl Ymchwilydd.