IOPC yn amlinellu cynllun i adeiladu ar y gwelliannau a wnaed i amseroldeb
Mae Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC) wedi cyhoeddi eu cynllun i gynnal mwy o ymchwiliadau ac adolygiadau o ansawdd uchel, gan barhau i leihau'r amser y maent yn ei gymryd i'w cwblhau.
Mae'r manylion wedi'u nodi yn ein Strategaeth Gorfforaethol, sy'n amlinellu ein gweledigaeth ar gyfer y ddwy flynedd nesaf ac yn adeiladu ar lwyddiant ein gwaith trawsnewid hyd yma.
Dywedodd Cyfarwyddwr Cyffredinol IOPC, Rachel Watson:
"Mae ein gwaith yn sicrhau bod yr heddlu'n atebol i'r cyhoedd ac yn tynnu sylw at ffyrdd y gall plismona wella er mwyn grymuso swyddogion rheng flaen i fynd i'r afael â throseddu a chadw pobl yn ddiogel.
"Rydym wedi newid y ffordd rydym yn gweithio yn sylfaenol ac yn parhau i esblygu er mwyn gallu gwneud hyn yn well a sicrhau'r effaith fwyaf posibl, er gwaetha’r cynnydd sylweddol yn y galw am ein gwasanaethau ar adeg pan mae ein cyllid wedi gostwng gan fwy na chwarter."
Yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, rydym wedi newid ein strwythur sefydliadol ac wedi ailwampio'r ffordd rydym yn cynnal ymchwiliadau ac adolygiadau.
O ganlyniad i'n trawsnewid hyd yma:
- Rydym yn asesu atgyfeiriadau'n gyflymach, lawr o wyth diwrnod ar gyfartaledd yn 2024/25 i 2.9 diwrnod ers dechrau mis Ebrill.
- Rydym yn cynnal adolygiadau'n gyflymach, sef cyfartaledd o 51 diwrnod hyd yma eleni, o gymharu â 96 diwrnod yn ystod y 12 mis blaenorol, sy'n golygu ein bod yn cwblhau nifer sylweddol uwch nag mewn blynyddoedd blaenorol.
- Mae amseroldeb ymchwiliadau annibynnol wedi aros yn sefydlog dros y ddwy flynedd ers mis Ebrill 2024, er gwaetha’r galw cynyddol, gan fod nifer yr ymchwiliadau a ddechreuwyd wedi cynyddu gan 31 y cant yn 2025/26.
Ychwanegodd Ms Watson:
"Rydym eisoes yn gweithio'n gyflymach ac yn ymdrin â mwy o achosion, ond rydym yn gwybod bod mwy i'w wneud. Mae ein strategaeth gorfforaethol newydd yn nodi sut y byddwn yn parhau â'r gwaith hwn, sy'n hollbwysig os ydym am gynyddu ymddiriedaeth yn y system gwynion a hyder y cyhoedd yn yr heddlu.
"Bydd y newidiadau y byddwn yn eu gwneud dros y ddwy flynedd nesaf yn adeiladu ar y cynnydd a wnaed hyd yma ac, yn y pen draw, yn ymwneud â darparu'r gwasanaeth gorau posibl i bawb sy'n dod i gysylltiad â ni.
"Byddwn yn canolbwyntio ar wneud penderfyniadau mwy cymesur a chyson, gan fanteisio ar ein safle unigryw i ychwanegu gwerth a defnyddio ein canfyddiadau i wella plismona trwy'r dysgu rydym yn ei nodi.
"Rydym hefyd yn cydnabod bod y system atebolrwydd plismona ehangach yn rhy gymhleth ac nid yw'n gweithredu fel y bwriadwyd, a dyna pam y gwnaethom alw am adolygiad o’r dechrau i’r diwedd gan y llywodraeth, ac rydym yn gobeithio y bydd hynny'n arwain at welliannau sydd wir eu hangen er budd y cyhoedd a'r heddlu."