Cyn-swyddog Heddlu Metropolitanaidd yn euog o dreisio a throseddau rhywiol
Mae cyn-swyddog o’r Heddlu Metropolitanaidd wedi’i gael yn euog o dreisio a thri ymosodiad rhywiol yn dilyn ymchwiliad gan Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC).
Dechreuon ni ymchwiliad ym mis Ebrill 2023, yn dilyn atgyfeiriad gan yr heddlu, i Mark Tyrrell a’i gyswllt hirdymor â menyw y daeth i’w hadnabod drwy ei ddyletswyddau plismona.
Daeth y mater i’r amlwg gyntaf pan aeth swyddogion i ymateb i adroddiad am aflonyddwch yng nghartref menyw a dod o hyd i Tyrrell, a oedd ar y pryd yn swyddog gweithredol gyda’r Heddlu Metropolitanaidd, yn cuddio o dan gwrlid ar lawr ystafell wely’r eiddo.
Datgelodd ymholiadau dilynol dystiolaeth fod Tyrrell wedi defnyddio ei safle i geisio a chynnal cyswllt rhywiol â’r fenyw dros gyfnod hir ar ôl cyfarfod â hi gyntaf trwy ei ddyletswyddau.
Symudodd Tyrrell i fyw gyda hi dair blynedd yn ddiweddarach, a datgelodd y goroeswr-ddioddefwr ei fod wedi dod yn fwyfwy heriol ac ymosodol yn ei ofynion rhywiol tuag ati, a rhoddodd wybod am nifer o achosion o dreisio ac ymosodiadau rhywiol.
Roedd y dystiolaeth a gasglwyd yn ystod yr ymchwiliad yn cynnwys cyfrifon gan dystion, recordiadau o sgyrsiau ffôn, miloedd o negeseuon testun, cofnodion ariannol a deunydd arall yn ymwneud â’r berthynas.
Ar ddiwedd ein ymchwiliad ym mis Mai 2024, gwnaethom anfon ffeil o dystiolaeth at Wasanaeth Erlyn y Goron, a awdurdododd gyhuddiadau troseddol.
Ar ôl achos yn Llys y Goron Southwark, cafwyd Mark Tyrrell yn euog o dreisio, tri throsedd o ymosod yn rhywiol a chamdroi cwrs cyfiawnder drwy ddileu negeseuon o’i ffôn symudol mewn ymgais i ddinistrio tystiolaeth eiliadau ar ôl iddo gael ei ddal gan swyddogion yn ei chyfeiriad.
Roedd eisoes wedi pledio’n euog i gamymddwyn mewn swydd gyhoeddus am gael rhif ffôn symudol y fenyw yn rhinwedd ei rôl fel swyddog heddlu ac yna ei ddefnyddio i gychwyn perthynas rywiol â hi; ac i wyrdroi cwrs cyfiawnder drwy roi pwysau arni a’i chyfarwyddo i roi cyfrif anwir i’r heddlu ynghylch natur ei gyswllt â hi.
Cafodd ei ryddhau o 13 cyhuddiad arall o droseddau rhywiol.
Bydd e’n cael ei ddedfrydu ar 16 Rhagfyr.
Dywedodd Amanda Rowe, cyfarwyddwr ymgysylltu IOPC:
“Defnyddiodd Mark Tyrrell ei safle fel swyddog heddlu i geisio cyswllt â menyw a oedd mewn sefyllfa fregus pan wnaeth e gyfarfod â hi gyntaf wrth gyflawni ei ddyletswyddau fel swyddog heddlu.
“Mae’r troseddau difrifol y mae bellach wedi’i gael yn euog ohonynt yn cynrychioli camddefnydd difrifol iawn o rym a thuedd tuag at droseddu rhywiol treisgar. Mae ei weithredoedd yn gwbl groes i’r safonau y mae’r cyhoedd, yn gwbl briodol, yn eu disgwyl gan y rhai sy’n cael eu hymddiried â gwaith plismona.
“Datgelodd ein ymchwiliad dystiolaeth fod Tyrrell wedi ceisio cuddio gwir natur ei gyswllt â hi ac wedi annog y fenyw i ddarparu cyfrif anwir pan ddaeth pryderon i’r amlwg.
“Hoffwn gydnabod y dewrder a ddangoswyd gan y goroeswr-ddioddefwr wrth ddod ymlaen mewn amgylchiadau hynod anodd a chefnogi ymchwiliad hirfaith a chymhleth.
“Mae ei euogfarn yn anfon neges glir nad oes neb uwchlaw’r gyfraith ac y bydd swyddogion heddlu sy’n cyflawni troseddau erchyll fel hyn yn cael eu trin yn llym.”
Roedd Tyrrell eisoes wedi ymddeol o’r Heddlu Metropolitanaidd cyn i’r achos camymddwyn ddod i ben. Daeth gwrandawiad camymddwyn carlam ym mis Rhagfyr 2023 i’r casgliad y byddai wedi cael ei ddiswyddo heb rybudd pe bai’n dal i wasanaethu.