Mae data Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu'n dangos y nifer uchaf o gwynion erioed wedi'u cofnodi gan heddluoedd yn 2025-26
Rhwng Ebrill 2025 a Mawrth 2026 cofnodwyd cyfanswm o 108,897 o gwynion gan y 43 o heddluoedd.
Mae hyn yn gynnydd o 15 y cant ar y niferoedd a gofnodwyd yn 2024/25 a'r nifer fwyaf erioed ers i Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu ddechrau casglu a dadansoddi data cwynion.
Meddai David Ford, Cyfarwyddwr Goruchwylio a Gwaith Achos: “Cynnydd o 15 y cant yw'r un fwyaf rydym wedi'i weld flwyddyn ar ôl blwyddyn. Wrth edrych yn ôl dros y pum mlynedd diwethaf, rydym wedi gweld cynnydd o 61 y cant mewn cwynion ers 2020-21.
"Fodd bynnag, mae'n bwysig peidio â rhuthro i gasgliad bod y ffigurau hyn yn cyfateb yn unig i anfodlonrwydd cynyddol mewn plismona.
"Drwy ein gwaith goruchwylio gyda heddluoedd rydym yn gwybod bod llawer ohonynt wedi gwella o ran cofnodi a thrin â chwynion. Mae hynny'n esbonio'r cynnydd yn rhannol. Hefyd mae'n haws nag erioed o'r blaen cofrestru cwyn, yn enwedig gyda chymorth Deallusrwydd Artiffisial (AI), sy'n gwneud y system gwynion yn fwy hygyrch i'r rhai a allai o'r blaen fod wedi cael trafferth codi eu pryderon.
"Rydym yn helpu heddluoedd adnabod ffyrdd o wella eu proses trin â chwynion. Rydym wedi gweld amryw i heddlu mabwysiadu ystod o newidiadau, fel canoli derbyn cwynion. Mae hyn yn arwain at fwy o faterion yn cael eu cofnodi'n ffurfiol ac yn cael ei hadrodd atom trwy eu cyflwyniadau.
"Mewn rhai achosion, bu diffyg adrodd yn y gorffennol wrth adnabod a chofnodi cwynion. Fodd bynnag, mae rhai heddluoedd wedi mynd y ffordd arall erbyn hyn ac yn cofnodi rhai materion fel cwynion lle nad oes angen. Rydym yn parhau i weithio â phob heddlu i'w cefnogi yn y maes gwaith yma.
“Nid yw cynnydd mewn cwynion wedi'i gyfyngu i system gwynion yr heddlu; mae sefydliadau eraill nad ydynt yn ymwneud â phlismona yn adrodd am gynnydd mewn cwynion. Mae themâu cyffredin yn cynnwys argaeledd Deallusrwydd Artiffisial a systemau cwynion yn dod yn haws i'w llywio."
Roedd y rhan fwyaf o gwynion (55 y cant) yn ymwneud â honiadau o wasanaeth gwael, pwerau a pholisïau'r heddlu (22 y cant), ac 11 y cant yn gyhuddiadau yn erbyn swyddogion unigol neu aelodau o staff.
Roedd honiadau o ymddygiad gwahaniaethol yn cyfrif am 5,061 (thri'r cant) o'r holl honiadau a gofnodwyd, gyda 2,398 o'r rhain yn ymwneud â gwahaniaethu ar sail hil, 1,116 yn ymwneud â gwahaniaethu ar sail anabledd, a 728 yn ymwneud â gwahaniaethu ar sail rhyw.
Cafodd 107,616 o gwynion eu cwblhau yn ystod y flwyddyn, sef cynnydd o 17 y cant o'i gymharu â 2024-25. O'r rhain, cafodd 70,041 eu datrys yn anffurfiol gan heddluoedd a chafodd 37,575 eu trin yn ffurfiol o dan Atodlen 3 o’r Ddeddf Diwygio'r Heddlu 2002.
O'r achosion a gafodd eu trin yn ffurfiol, arweiniodd bron i ddwy ran o dair (65 y cant) at roi esboniad i'r achwynydd; arweiniodd 7 y cant at ddysgu i unigolyn neu heddlu; ac arweiniodd 8 y cant at ymddiheuriad neu ôl-drafodaeth.
Adolygiadau trin â chwynion Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu
Gall unrhyw un nad yw'n fodlon â'r ffordd y caiff cwyn ei thrin gan yr heddlu wneud cais am adolygiad, a fydd, yn dibynnu ar ei natur, yn cael ei ystyried gan y Corff Heddlu Lleol neu Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu.
Y llynedd, derbyniodd Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu 3,039 o geisiadau i adolygu cwynion, sef cynnydd o 25 y cant o gymharu â'r flwyddyn flaenorol a'r nifer fwyaf a gafwyd mewn blwyddyn o dan y ddeddfwriaeth bresennol.
Gwnaethom gwblhau 3,273 o adolygiadau yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, sef cynnydd o ddwy ran o dair (62 y cant) wrth gymharu â 2024/25. O'r rhain, gwnaethom ffeindio fod heddluoedd wedi trin cwynion yn briodol mewn 73 y cant o achosion.
Yn y 27 y cant o achosion lle ystyriasom nad oedd y ffordd o ddelio â'r cwyn neu'r canlyniad a gynigiwyd yn rhesymol na chyfrannol, defnyddiom yr ystod o opsiynau sydd ar gael i ni. Roedd yr opsiynau yna'n cynnwys dychwelyd achosion i'r heddlu am fwy o waith, gwneud argymhellion dysgu, disodli canfyddiadau'r heddlu gyda chanfyddiadau Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu, neu gyfeirio gweithdrefnau camymddwyn.
Ychwanegodd David Ford: "Mae'n dda i weld bod bron i dri chwarter (73 y cant) o'r adolygiadau a gynhalion ni'r llynedd wedi dod i'r casgliad bod heddluoedd wedi trin â chwynion yn briodol.
"Yn ôl yn 2022-23 roedd y ffigur hwnnw'n 60 y cant. Mae'r gwelliant yn dangos bod ein gwaith goruchwylio Right First Time yn helpu'r lluoedd trin â chwynion yn effeithiol ar y tro cyntaf i osgoi cylch amser garw o gwynion yn cael eu harchwilio a'u hadolygu dro ar ôl tro.
“Rydym yn cysylltu â heddluoedd yn rheolaidd i fonitro perfformiad ar draws y system gwynion ac i adnabod a rhannu arferion sy'n cefnogi trin â chwynion yn amserol ac yn effeithiol.
"Mae angen i aelodau'r cyhoedd gael ffydd yn system gwynion yr heddlu. Dyna pam dyn ni yma, i gadw'r heddlu'n atebol yn hyn o beth. Os bydd pobl yn credu y dylent fod wedi derbyn gwasanaeth gwell gan eu heddlu, mae m'ond yn iawn fod nhw'n gwybod bod ffordd i godi pryderon ac, yn y pen draw, os yw'n briodol, gael archwilio annibynnol."