Dedfryd i gyn-Swyddog Cymorth Cymunedol Heddlu Swydd Hertford am ddilyn perthynas anaddas gyda phlentyn
Mae Cyn-Swyddog Cymorth Cymunedol Heddlu Swydd Hertford (PCSO) a gafodd berthynas anaddas ac agos gyda phlentyn y daeth i’w adnabod fel rhan o’i ddyletswyddau wedi cael dedfryd o 12 mis o garchar, wedi’i gohirio am 18 mis.
Dedfrydwyd Keith Sayers, 43 oed, ddoe yn Llys y Goron Sant Alban ar ôl iddo bledio’n euog i gamymddwyn mewn swydd gyhoeddus (MIPO) a thri chyhuddiad o gael mynediad anghyfreithlon at systemau’r heddlu, yn dilyn ymchwiliad gan Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC).
Gofynnwyd hefyd am orchymyn risg rhywiol, a cafodd hwnnw ei ganiatáu gan y llys ym mis Mai.
Ffeindiodd yr ymchwiliad fod y cyn-PCSO Sayers wedi mynd ar drywydd perthynas amhriodol ac agos â phlentyn yr oedd wedi’i gyfarfod fel rhan o’i waith fel PCSO. Parhaodd y berthynas rhwng 2021 a 2024.
Buodd e’n cyfarfod yn rheolaidd â’r plentyn, a oedd rhwng 14 ac 16 oed ar y pryd, yn breifat ac y tu allan i’w oriau gwaith. Ar un o’r achlysuron hyn pan y gwnaethant gyfarfod yn breifat, cyfaddefodd y cyn-PCSO Sayers iddo gusanu’r plentyn, ac ar achlysur arall gwelodd ddelweddau anaddas ohoni. Digwyddodd y ddau ddigwyddiad pan roedd hi’n 16 oed. Daethpwyd hefyd o hyd i negeseuon amhriodol WhatsApp a anfonodd ati ar ei ffôn.
Cyfaddefodd y cyn-PCSO Sayers ei fod wedi cael mynediad anghyfreithlon at systemau’r heddlu i chwilio am wybodaeth gyfrinachol am y plentyn yn ogystal â manylion personol unigolion eraill yr oedd hi’n eu hadnabod.
Dywedodd Emily Barry, Cyfarwyddwr Ymgysylltu IOPC: “Trwy ei rôl fel PCSO Troseddu Ieuenctid, roedd Keith Sayers mewn cysylltiad â phlant agored i niwed. Manteisiodd ar ei safle ac fe gamddefnyddiodd yr ymddiriedaeth a roddwyd ynddo yn llwyr trwy fynd ar drywydd perthynas hollol amhriodol â phlentyn y daeth i’w adnabod trwy ei rôl.
“Roedd yn gwybod yn iawn bod ei weithredoedd yn anghywir ac yn torri canllawiau’r heddlu, ond parhaodd â’r berthynas hirdymor serch hynny.
“Heddiw mae wedi’i ddwyn i gyfrif, ac mae’r ddedfryd a gafodd yn dangos y canlyniadau difrifol y gall y rhai sy’n gweithio ym maes plismona eu hwynebu pan fyddant yn camddefnyddio eu safle.”
Dechreuodd ein ymchwiliad ym mis Chwefror 2024, yn dilyn atgyfeiriad gorfodol gan yr heddlu. Ar ôl cwblhau ein ymchwiliad ym mis Gorffennaf 2025, gwnaethom benderfynu anfon ffeil o dystiolaeth at Wasanaeth Erlyn y Goron, ac awdurdodi’r cyhuddiadau.
Ym mis Rhagfyr 2025, cafodd ei ddiswyddo heb rybudd am gamymddwyn difrifol yn dilyn gwrandawiad disgyblu a drefnwyd gan Heddlu Swydd Hertford.