Trinwyr galwadau yn cael eu carcharu am gamddefnyddio systemau'r heddlu

Published: 03 Sep 2026
News

Mae Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC) wedi rhybuddio am ganlyniadau difrifol camddefnyddio systemau'r heddlu wedi i ddau weithiwr trin galwadau o Heddlu Swydd Derby gael eu carcharu am gamddefnyddio eu swyddi.

Cafodd Ellie-Mae Doherty a Jessica Fitzhugh, y ddwy yn 22 oed ac yn gweithio fel trinwyr galwadau yn ystafell reoli'r llu, ddedfrydau o garchar heddiw (3 Medi) yn Llys y Goron Caerlŷr.

Cyfaddefodd Doherty ei bod wedi trosglwyddo gwybodaeth sensitif i droseddwr hysbys.

Dywedodd Cyfarwyddwr Ymgysylltu'r IOPC, Emily Barry, y dylai'r dedfrydau fod yn rhybudd clir na fydd camddefnyddio systemau'r heddlu yn cael ei oddef gan heddluoedd na'r llysoedd.

Dywedodd: “Datgelu gwybodaeth yr heddlu heb reswm dilys, yn aml i unigolion sy'n ymwneud â throseddu, yw'r math mwyaf cyffredin o lygredd y mae uned gwrth-lygredd yr IOPC yn delio gyda.

“Mae gwybodaeth a chudd-wybodaeth yr heddlu yn nwydd hynod o werthfawr i droseddwyr a byddant yn mynd ati'n fwriadol i geisio ei gael.”

Cyhuddwyd Doherty a Fitzhugh o gamymddwyn mewn swydd gyhoeddus ym mis Ebrill yn dilyn ymchwiliad a gyfarwyddwyd gan IOPC.

Plediodd Doherty, o Ripley yn Swydd Derby, yn euog i'r drosedd ar ôl cyfaddef ei bod wedi trosglwyddo gwybodaeth o systemau'r heddlu i ddyn â chysylltiadau â throseddu ac am beidio â hysbysu Heddlu Swydd Derby fod ganddi gysylltiad personol ag ef.

Gwadodd Fitzhugh, o Belper yn Swydd Derby, y cyhuddiad o gamymddwyn mewn swydd gyhoeddus ond plediodd yn euog i gamddefnyddio cyfrifiadur ar ôl cyfaddef ei bod wedi cael mynediad heb awdurdod at wybodaeth ar systemau'r heddlu a thynnu lluniau o ddeunydd a gadwir ar y systemau hynny heb ganiatâd.

Yn Llys y Goron Caerlŷr heddiw, dedfrydwyd Doherty i 11 mis yn y carchar a rhoddwyd dedfryd o bedwar mis o garchar i Fitzhugh.

Dywedodd Cyfarwyddwr Ymgysylltu'r IOPC, Emily Barry: “Mae trinwyr galwadau yn cael mynediad at wybodaeth sensitif ac at ddata cyfrinachol ar systemau'r heddlu. Eu cyfrifoldeb yw peidio â datgelu gwybodaeth yn amhriodol a defnyddio deunydd at ddibenion plismona yn unig.

“Cyfaddefodd Doherty ei bod wedi darparu gwybodaeth i ddyn roedd hi’n adnabod yn bersonol, dyn â chysylltiadau hysbys â throseddu, gan gynnwys ar un achlysur i'w hysbysu fod cyswllt iddo wedi cael ei arestio. Darparwyd rhywfaint o'r wybodaeth o fewn ychydig fisoedd iddi ymuno â'r llu.

“Derbyniodd y ddwy fenyw fod eu gweithredoedd yn amhriodol ac yn groes i'w dyletswyddau. Bellach, gan fod yr achos llys wedi dod i ben, Heddlu Swydd Derby fydd yn gyfrifol am drefnu gwrandawiadau camymddwyn, lle mae'n debygol y gallant ddisgwyl cael eu gwahardd rhag gweithio ym maes plismona eto yn y dyfodol.”

Cafodd Doherty a Fitzhugh eu cyhuddo yn dilyn atgyfeiriadau ymddygiad gan Heddlu Swydd Derby atom ym mis Rhagfyr 2023 a mis Mawrth 2024.

Penderfynwyd bod angen ymchwilio i'r honiadau ac mai'r drefn briodol oedd i Uned Gwrth-Lygredd y llu gynnal yr ymchwiliad o dan gyfarwyddyd a rheolaeth IOPC.

Tags
  • Derbyshire Constabulary
  • Llygredd a cham-drin pŵer