Swyddog Cwnstabliaeth Swydd Gaerhirfryn yn y llys wedi'i gyhuddo o droseddau sy'n gysylltiedig â llygredd

Published: 13 Aug 2026
News

Mae swyddog Cwnstabliaeth Swydd Gaerhirfryn sydd â chysylltiadau honedig â grŵp troseddu cyfundrefnol i fod i ymddangos yn y llys i wynebu dau gyhuddiad sy'n gysylltiedig â llygredd yn dilyn ymchwiliad dan gyfarwyddyd Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu.

Bydd PC Hakeem Mahmood, 30, a gafodd ei ymchwilio gan Uned Gwrth-Lygredd Cwnstabliaeth Swydd Gaerhirfryn, dan ein cyfarwyddyd a'n rheolaeth, yn ymddangos yn Llys y Goron Burnley ar ddydd Gwener 14 Awst.

Honnir bod Mahmood wedi cynllwynio gydag eraill i gyflenwi cyffur Dosbarth A a chymryd rhan yng ngweithgareddau troseddol grŵp troseddu cyfundrefnol rhwng Awst 2024 ac Ionawr 2026.
           
Ar ddiwedd yr ymchwiliad ym mis Mehefin 2026, atgyfeiriwyd yr achos at Wasanaeth Erlyn y Goron, a awdurdododd y cyhuddiadau o gynllwynio i gyflenwi cyffur rheoledig dosbarth A ac arfer llygredig/amhriodol o bwerau a breintiau’r heddlu gan gwnstabl heddlu. Cafodd ei arestio ar 24 Mehefin 2026.

Tags
  • Lancashire Constabulary
  • Llygredd a cham-drin pŵer