Ymateb IOPC i adroddiad Comisiwn Arweinyddiaeth yr Heddlu
Datganiad gan Rachel Watson, Cyfarwyddwr Cyffredinol IOPC, ar adroddiad Comisiwn Arweinyddiaeth yr Heddlu .
“Rwy’n croesawu adroddiad Comisiwn Arweinyddiaeth yr Heddlu. Mae'n faes gwaith pwysig ac angenrheidiol sydd â'r nod o gryfhau'r ethos mewn plismona.
“Gofynnwyd i IOPC gyfrannu tystiolaeth ac awgrymiadau tuag at yr adroddiad, gan gynnwys data yn ymwneud â’n hymchwiliadau i brif swyddogion.” Rwy'n deall ei fod wedi helpu i ategu tystiolaeth anecdotaidd y mae'r Comisiwn wedi'i glywed.
“Mae arweinwyr yr heddlu yn gosod y diwylliant ar gyfer heddluoedd felly mae'n hanfodol bod y bobl gywir yn llenwi swyddi prif swyddogion, pobl â sgiliau arweinyddiaeth effeithiol ac sy'n dod o gefndiroedd amrywiol, gan gynnwys profiad y tu allan i blismona. Ni ddylai pobl gyrraedd rhengoedd prif swyddog dim ond oherwydd bod eu wyneb yn 'ffitio'.
“Fel corff gwarchod cwynion yr heddlu, rydym mewn sefyllfa unigryw i nodi problemau, a meysydd pryder, yn ogystal â ffyrdd o wella plismona.
“Rwy’n credu bod y rhan fwyaf o brif swyddogion yn gwneud gwaith da mewn amgylchiadau heriol. Fodd bynnag, yn rhy aml pan fyddwn yn ymchwilio i uwch arweinwyr plismona rydym yn datgelu pryderon hirdymor, heb eu hadrodd, am eu hymddygiad. Mae angen codi a chlywed pryderon ymhell cyn ystyried bod rhywun yn addas i'w benodi i reng Prif Swyddog.
“Er mwyn i hyn ddigwydd, rwy’n credu bod angen i luoedd heddlu wella’r hyn sydd ar gael i warchod chwythwyr chwiban, fel eu bod yn teimlo eu bod yn gallu siarad allan a bod rhywun yn gwrando arnynt. Ni ddylem dan-ystyried yr heriau y gallai rhai swyddfeydd a staff eu teimlo wrth godi pryderon. Gallai fod yn ddefnyddiol cynnwys mesurau amddiffyn ac/neu annibyniaeth ychwanegol yn y prosesau maent yn defnyddio i godi eu pryderon.
“Rwyf hefyd yn credu bod angen mwy o oruchwyliaeth annibynnol ar y broses benodi ar gyfer uwch arweinwyr, gan ystyried cynrychiolwyr cymunedol a phobl o’r tu allan i blismona i chwarae rhan yn y broses recriwtio. Ac i ymgeiswyr ennill profiad mewn rolau nad ydynt yn rhan o'r heddlu a fyddai'n eu gwneud yn ymgeiswyr mwy cyflawn ar gyfer y swyddi uchaf.
“Mae gan waith y Comisiwn y potensial i gyflawni newid parhaol i arweinyddiaeth yr heddlu a bydd IOPC yn cynnig unrhyw gefnogaeth y gallai i’r maes plismona hanfodol hwn.”
Darllenwch adroddiad Comisiwn Arweinyddiaeth yr Heddlu .