Arddangosfa Panel Ieuenctid IOPC 2026

Published: 21 May 2026
Blog

Cynhaliodd Panel Ieuenctid IOPC eu Arddangosfa Flynyddol 2026 (ar 28 Ebrill), gan ddod â thystiolaeth ynghyd dan arweiniad pobl ifanc, yn ogystal ag atebion ymarferol a phartneriaid sy’n ymrwymedig i greu gwasanaeth heddlu a system cwynion am yr heddlu y gall pob cymuned ymddiried ynddynt.

Gwnaethom groesawi dros 60 o arweinwyr a phenderfynwyr uwch o bob rhan o’r byd plismona a sefydliadau partner. Adlewyrchodd y diwrnod ehangder sylfaen dystiolaeth y panel, gan gynnwys ymchwil rhwng cymheiriaid ac ymgysylltu â mwy na 1,800 o bobl ifanc, yn ogystal â phedwar arolwg blynyddol ers 2022 sydd wedi casglu dros 8,000 o leisiau ifanc (gan gynnwys 1,586 o ymatebion eleni).

Adlewyrchodd yr arddangosfa symudiad diweddar y panel i fynd y tu hwnt i godi ymwybyddiaeth a thuag at ddylanwadu’n ymarferol, gan gysylltu mewnwelediad ieuenctid yn uniongyrchol â gwneud penderfyniadau, polisïau ac arferion.

Daeth y Panel Ieuenctid â chanfyddiadau diweddaraf eu arolwg blynyddol yn fyw, gan gynnwys bod 66% o bobl ifanc yn dweud eu bod yn ymddiried yn yr heddlu yn eu hardal a bod 68% yn teimlo eu bod yn cael eu trin yn deg. Fodd bynnag, dim ond 40% ddywedodd y byddent yn gwybod sut i wneud cwyn, a dim ond 20% oedd wedi clywed am IOPC. Amlygon nhw y bwlch rhwng parodrwydd a hyder yn y system: dywedodd 68% y byddent yn fodlon gwneud cwyn, ond dim ond 28% oedd yn credu y byddai hynny’n gwneud gwahaniaeth.

Cynhaliodd y Panel Ieuenctid drafodaeth panel wedi’i arwain gan bobl ifanc ar Newid Systemau, cyn i gynrychiolwyr weithio gyda aelodau’r panel i lunio syniadau ar sut y gall y sector weithredu eu Maniffesto dros Newid 2030, gan addo cefnogaeth i barhau â’r gwaith hwnnw.

Gwnaethant lansio eu model Theori Dylanwadu ar gyfer sut mae llais pobl ifanc yn troi mewn i newid go iawn. Mae eu dull yn gredadwy, wedi’i seilio ar dystiolaeth rhwng cymheiriaid; yn ddilys – sgyrsiau gonest wedi’u gwreiddio mewn profiad bywyd; yn gynhwysol – gan gynnwys pobl ifanc amrywiol a dulliau hygyrch; ac yn addasol – gan fyfyrio ac esblygu dros amser. Mae’r cyfuniad hwn wedi’i ddylunio i greu effaith - codi ymwybyddiaeth, adeiladu partneriaethau ac ymrwymiadau, a newid systemau ac arferion.

Moment allweddol arall yn ystod y drafodaeth panel oedd pan archwiliodd siaradwyr beth mae cyfranogiad ieuenctid “da” yn ei olygu yn ymarferol. Beth sy’n helpu sefydliadau i rannu grym? Beth sy’n peri rhwystrau, a sut y gellir troi mewnwelediad mewn i gyflawniadau? Roedd y ffocws ar sut mae “da” yn edrych yn aml yn dychwelyd at waith y Panel Ieuenctid, yn benodol Kim Baker, arweinydd CYP o’r Coleg Plismona, a siaradodd am y profiad o gymryd rhan yn y bwrdd crwn “O Argymhellion i Realiti”. Canolbwyntiodd hwn ar yr hawl i gwyno ac fe gyflawnodd ganlyniadau penodol ar gyfer Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu (NPCC). Roedd rhain yn cynnwys canllawiau wedi’u diweddaru ar gyfer galluogi pob cyfleuster cadw i fabwysiadu argymhelliad y Panel Ieuenctid ynghylch rhoi gwybod ar lafar i bob plentyn a pherson ifanc am eu hawl i roi adborth, gan gynnwys gwneud cwynion tra mewn dalfa.

Siaradodd Alex Finn o Your Police am y cydweithrediad arloesol rhwng y Panel Ieuenctid a Grŵp Cynghori Ieuenctid Your Police, gan ddefnyddio’r platfform Discord i gynnal ymgysylltiad mis o hyd ar blismona sy’n ystyriol o drawma.

Roedd adborth gan gynrychiolwyr ar draws yr ystafell yn gadarnhaol iawn, gyda phartneriaid yn addo cefnogaeth i weithio ochr yn ochr â’r Panel Ieuenctid wrth iddynt barhau i weithredu’r Maniffesto dros Newid 2030.

Diolch i bawb a gefnogodd y digwyddiad ac a gyfrannodd ar y diwrnod. Gallwch hefyd ddarllen mwy am eu bwrdd crwn diweddar Argymhellion i Realiti.