Digwyddiad IOPC newydd yn anelu at wella ymateb yr heddlu at drais yn erbyn menywod
Mae grwpiau cymorth trais yn y cartref ac elusennau menywod yn rhannu profiadau menywod a merched sydd wedi dioddef trais corfforol a rhywiol, mewn cyfres o ddigwyddiadau a drefnir gan IOPC, gyda'r nod o wella ymateb yr heddlu i oroeswyr.
Mae Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu yn dod â'r grwpiau wyneb yn wyneb gydag arweinwyr plismona ar gyfer trais yn erbyn menywod a merched (VAWG) mewn digwyddiadau rhanbarthol ledled Cymru a Lloegr.
Mae'r digwyddiadau yn dilyn ymgysylltiad helaeth gan IOPC gyda mwy na 100 sefydliad VAWG, academyddion ac actifyddion sydd wedi datgelu profiadau goroeswyr ynghylch sut mae'r heddlu wedi delio â'u hachosion ac unrhyw ddefnydd cysylltiedig o'r system cwynion am yr heddlu.
Dywedodd Cyfarwyddwr ac arweinydd VAWG IOPC Amanda Rowe: "Rydym wedi gwrando ar storïau y rheiny sydd wedi cael eu methu gan yr heddlu neu asiantaethau eraill, a'r effaith mae hyn wedi cael ar oroeswyr.
“Mae ein ymgysylltiad wedi datgelu themâu, rhwystrau, patrymau a thueddiadau allweddol ar draws y sector VAWG, yn ogystal ag awgrymiadau am newidiadau ar gyfer y system cwynion heddlu ehangach.Rydym hefyd wedi clywed enghreifftiau o arfer da sy'n bwysig i'w rhannu.
"Mae'r enghreifftiau hyn yn annog rhannu profiadau a dysgu sut i helpu lluoedd heddlu i gael dealltwriaeth gwell o sut mae polisïau yn chwarae allan mewn bywyd go iawn. Mae nhw hefyd yn rhoi siawns i luoedd heddlu rannu unrhyw welliannau maent wedi gwneud yn uniongyrchol gyda gwasanaethau cefnogi VAWG."
Mae gwaith ymgysylltu IOPC gyda grwpiau VAWG wedi adnabod themâu ailadroddus yn nhriniaeth yr heddlu o achosion sy'n cynnwys menywod a merched sydd â phroblemau iechyd meddwl, caethiwed, neu nodweddion bregus eraill.
Dywedodd un elusen mai pryder mawr yw diffyg empathi gan heddlu tuag at fenywod yn y gymuned digartrefedd stryd oedd wedi adrodd trosedd VAWG, gydag ystrydebau anaddas o 'ddewisiadau ffordd o fyw' yn cymylu beirniadaeth yr heddlu.
Dywedodd nifer o'r grwpiau ac unigolion bod yna angen am gymhwysedd diwylliannol gwell mewn plismona i wneud penderfyniadau a rhyngweithio mewn modd sy'n ystyriol o drawma, ac i osgoi iaith sy'n beio'r dioddefwr.
"Gwnaethom glywed un achos," ychwanegodd Amanda Rowe, "lle gofynnwyd i ddioddefwr-oroeswr ddarparu tystiolaeth, ac enwau a manylion cyswllt tystion, tair gwaith gan y swyddog oedd yn gyfrifol am yr achos. Roedd gorfod darparu'r wybodaeth hyn dro ar ôl tro yn peri trallod ac ail-drawma.
"Ond roedd hefyd yn galonogol i glywed enghreifftiau o arfer da. Mae un menter wedi gweld swyddog yn dod yn unig bwynt cyswllt ar gyfer grwp menywod er mwyn gwella cyfrinachedd ymhlith defnyddwyr gwasanaeth, gwrando ar bryderon neu adroddiadau, a chymryd camau. Mae llu arall wedi creu Cymdeithas Menywod mewn Plismona sy'n cefnogi adrodd cyfrinachol er mwyn i fenywod siarad i fyny os ydynt wedi canfod nei dioddef ymddygiad rhywiol yn y gweithle.
"Roedd y grwpiau trafod cymerais ran ynddynt yn canolbwyntio ar drafodaeth adeiladol a beth allai grwpiau trydydd sector a'r heddlu wneud i weithio'n agosach ar y cyd a gwella profiad ar gyfer defnyddwyr gwasanaeth.
"Rydym yn gobeithio bydd y digwyddiadau yn gyrru gwelliannau ystyrlon sy'n adlewyrchu anghenion y dioddefwyr a'r goroeswyr ac arwain at ymgysylltu gwell a pharhaol rhwng partneriaid VAWG plismona a di-blismona."
Digwyddodd digwyddiadau VAWG cyntaf IOPC ym mis Ebrill ar gyfer ardaloedd lluoedd heddlu Kent, Swydd Gaer, Glannau Mersi a Manceinion Fwyaf. Bydd eraill yn dilyn yn nes ymlaen eleni yn yng Ngogledd Ddwyrain Lloegr, Canolbarth Lloegr, Cymru a De Ddwyrain Lloegr.
Mae IOPC hefyd yn cynnal cyfres o weithdai ar-lein ar gyfer trinwyr cwynion mewn lluoedd heddlu a chyrff plismona lleol i rannu dysgu ar drin materion VAWG. Bydd y gweithdai, sy'n cyd-fynd gyda'r digwyddiadau ymgysylltu, yn cymell rhanddeiliaid plismona i rannu arferion gorau, annog dysgu ymhlith cymheiriaid a gwella cysonder. Mae yna saith gweithdy ar-lein yn rhedeg o Fai i Orffennaf eleni.