IOPC yn ymateb i adroddiad y Comisiynydd Plant ar noeth-chwiliadau plant

Published: 22 Apr 2026
News

Dywedodd Andrew Johnson, Cyfarwyddwr Polisi, Strategaeth ac Effaith IOPC: "Rydym yn croesawi'r adroddiad diweddaraf gan y Comisiynydd Plant ynghylch noeth-chwiliadau plant tu allan i ddalfeydd heddlu.

"Mae'r adroddiad yn nodi rhai meysydd o gynnydd da yn cynnwys gwelliant yng nghydymffurfedd yr heddlu a chwymp cyffredinol yn y niferoedd o noeth-chwiliadau sy'n digwydd.

"Fodd bynnag mae hefyd wedi nodi nifer o bryderon parhaus rydym eisoes wedi tanlinellu yn cynnwys diffyg cymesuredd - gyda phlant Du bron wyth gwaith yn fwy tebygol o gael eu noeth-chwilio na phlant Gwyn - a phroblemau ynghylch oedolyneiddio, gyda phlant Du yn llawer mwy tebygol o gael eu 'taldra' wedi'i nodi fel rheswm dros ddefnyddio grym.

"Mae'n peri pryder bod yr adroddiad yn nodi bod bron i 30 y cant o noeth-chwiliadau yn ymwneud â phlant sydd eisoes wedi cael eu noeth-chwilio yn flaenorol.

"Rydym yn cefnogi galwad y Comisiynydd Plant am ddeddfwriaeth i gael ei ddiweddaru'n gyflym er mwyn diogelu plant ac oedolion agored i niwed yn well.

"Arweiniodd ein ymchwiliadau ni o ddigwyddiadau sy'n cynnwys noeth-chwiliadau at gyfres o 10 argymhelliad cenedlaethol wedi'u hanelu at wella deddfwriaeth ac ymarfer plismona.

"Tra bod y rhan fwyaf o'r rhain wedi cael eu gweithredu, mae angen cynnydd pellach gan y rheiny sydd o fewn plismona.

"Byddwn yn parhau i weithio i helpu gyrru gwelliannau a fydd yn gwella ymarfer plismona o ran noeth-chwiliadau a'r profiadau ymhlith y plant ac oedolion agored i niwed dan sylw."

Tags
  • Y Swyddfa Gartref
  • Gwahaniaethu ar sail hil