IOPC yn ymchwilio i chwe swyddog Met ynghylch stopio a chwilio plentyn Du
Mae'r Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC) yn ymchwilio i weithredoedd chwe swyddog Heddlu'r Met ynghylch stopio a chwilio plentyn Du yn Tottenham ym mis Ebrill 2025.
Dechreuom ymchwiliad ym mis Tachwedd yn dilyn atgyfeiriad gorfodol gan y Met o gŵyn a wnaed ar ran y bachgen, a oedd yn 16 oed, ynglŷn â'i driniaeth gan swyddogion.
Rydym wedi sefydlu, tua 2pm ar 26 Ebrill, fod swyddog – a ddywedodd eu fod wedi bod yn bryderus ynghylch dull reidio’r bachgen a’i ymddygiad cyffredinol – wedi defnyddio grym i dynnu'r bachgen oddi ar feic trydan (e-feic) wrth iddo reidio ar hyd Northumberland Park Avenue.
Yn y broses, anafwyd pen-glin y bachgen. Cafodd ei chwilio, ni ffeindiwyd dim, tynnwyd y batri oddi ar ei feic trydan a dywedodd swyddogion ei fod yn rhydd i fynd.
Arhosodd y bachgen yn y fan a'r lle ac roedd yn cyfathrebu â grŵp gwahanol o swyddogion. Ychydig yn ddiweddarach dychwelodd y chwe swyddog cyntaf i'r lleoliad, a'i arestio ar amheuaeth o droseddu yn erbyn y drefn gyhoeddus oherwydd hil, bygwth lladd a gyrru'n beryglus.
Cafodd ei gymryd i ddalfa’r heddlu lle, yn dilyn archwiliad meddygol, gwrthodwyd ei gadw er mwyn iddo allu derbyn sylw meddygol ar unwaith. Aeth swyddogion ag ef i'r ysbyty, lle cafodd ddiagnosis o dorasgwrn pen-glin.
Mae ein hymchwiliad yn cynnwys edrych ar benderfyniadau a gweithredoedd y chwe swyddog a gyfathrebodd â'r bachgen yn ystod y digwyddiad hwn; y grym a ddefnyddiwyd; a oedd hil neu ei oedran yn ffactor yn eu triniaeth ohono; a'r ôl-ofal a ddarparwyd iddo.
Ers mis Ionawr, rydym wedi hysbysu tri cwnstabl heddlu eu bod yn cael eu hymchwilio’n droseddol - un swyddog am droseddau posib o ymosodiad sy’n achosi niwed corfforol difrifol neu niwed corfforol gwirioneddol a’r ddau swyddog arall am annog neu gynorthwyo trosedd yn fwriadol, yn groes i adran 44 o Ddeddf Troseddau Difrifol 2007. Maent hefyd yn cael eu hymchwilio am gamymddwyn difrifol posib.
Yr wythnos ddiwethaf, fe wnaethom hefyd hysbysu tri cwnstabl heddlu arall eu bod yn cael eu hymchwilio am gamymddwyn posib. Mae hyn mewn perthynas â methiannau honedig i herio ymddygiad y swyddogion eraill a'u triniaeth o'r bachgen.
Cyfarwyddwr IOPC Amanda Rowe: “Mae defnyddio stopio a chwilio yn arf plismona pwysig, fodd bynnag rhaid ei ddefnyddio’n gymesur.
“Mae hwn yn achos difrifol lle mae plentyn wedi’i anafu o ganlyniad i rym yn cael ei ddefnyddio ac rydym yn ymchwilio i weithredoedd y swyddogion yn yr achos hwn a’u triniaeth o’r plentyn, oedd ddim wedi derbyn cymorth cyntaf ar unwaith.
“Rydym wedi bod mewn cysylltiad â theulu’r bachgen ac wedi cael rhagor o dystiolaeth i gynorthwyo ein hymchwiliad. Byddwn yn parhau i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r holl bartïon wrth i’r ymchwiliad fynd yn ei flaen.”
Fel rhan o'n hymchwiliad, rydym wedi gwylio fideo corff-gamera y swyddogion, wedi cael adroddiadau gan rai o'r swyddogion a gymerodd ran, datganiad gan y bachgen ac wedi adolygu tystiolaeth feddygol. Bydd y swyddogion yn cael eu cyfweld dan rybudd, ac rydym wrthi’n casglu mwy o ddatganiadau tystion.
Nid yw cyflwyno hysbysiadau yn golygu bydd achos troseddol neu weithdrefnau disgyblu o reidrwydd yn digwydd. Ar ddiwedd ein ymchwiliad, byddwn yn penderfynu a ddylid cyfeirio unrhyw swyddogion at Wasanaeth Erlyn y Goron ar gyfer penderfyniad cyhuddo posib ac a ddylai unrhyw swyddogion wynebu gweithdrefnau disgyblu.