Ymchwiliad annibynnol yn dilyn euogfarnu Peter Sullivan ar gam
Mae Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC) yn ymchwilio i gwynion sy'n gysylltiedig ag ymchwiliad Heddlu Glannau Mersi a arweiniodd at Peter Sullivan yn cael ei euogfarnu'n anghywir o lofruddiaeth.
Fe wnaethon ni dderbyn atgyfeiriad gan yr heddlu ar 22 Ionawr yn dilyn cwyn gan Mr Sullivan, a dreuliodd 38 mlynedd yn y carchar am lofruddiaeth Diane Sindall, ym 1986.
Rydym yn siarad â sawl asiantaeth dan sylw i benderfynu pa gofnodion sydd ar gael mewn perthynas â'i achos a allai fod yn berthnasol i'n hymholiadau. Rydym yn parhau i gasglu ac adolygu'r deunydd hwn yn ofalus, ac wedi siarad â Mr Sullivan am ei gŵyn, er mwyn pennu cylch gorchwyl ein hymchwiliad.
Dywedodd Cyfarwyddwr IOPC, Amanda Rowe:
“Mae Mr Sullivan wedi dioddef un o’r camweddau cyfiawnder gwaethaf a welodd y wlad hon erioed. Mae ein meddyliau gyda fe wrth iddo barhau i ailadeiladu ei fywyd.
“Yng ngoleuni’r effaith sylweddol y mae hyn wedi ei gael, yn ogystal â difrifoldeb rhai o’r honiadau yn y gŵyn, mae’n bwysig ymchwilio’n annibynnol i’r materion hyn.
“Mae’r ffaith bod hyn wedi digwydd bron i 40 mlynedd yn ôl yn peri heriau sylweddol o ran tystiolaeth, fodd bynnag, byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i symud ein hymchwiliadau ymlaen cyn gynted â phosib, gan gymryd pob cam priodol i sicrhau nad yw hyn yn rhwystro’r ymchwiliad parhaus gan Heddlu Glannau Mersi i’r drosedd erchyll yn erbyn Ms Sindall.”
Mae ein ymchwiliad ar wahân i ymchwiliad troseddol yr heddlu i’r digwyddiadau ym 1986.
Roedd Ms Sindall wedi dioddef ymosodiad treisgar, a chafwyd hyd i'w chorff yn Birkenhead ym mis Awst 1986. Cafodd Mr Sullivan ei arestio yn ddiweddarach y flwyddyn honno ac ym 1987 cafodd ei euogfarnu o lofruddiaeth.
Yn dilyn cais i'r Comisiwn Adolygu Achosion Troseddol yn 2021, cafwyd proffil DNA nad oedd yn cyfateb i broffil Mr Sullivan.
Ar y sail hon, diddymodd y Llys Apêl euogfarniad Mr Sullivan ym mis Mai 2025.
Ysgrifennom at Heddlu Glannau Mersi ym mis Gorffennaf 2025 ynglŷn â'r mater. Cadarnhaodd y llu heddlu nad oeddent wedi derbyn unrhyw gwynion ar y pryd ac nad oeddent wedi nodi unrhyw gamymddwyn posib yn gysylltiedig ag achos Mr Sullivan. Fe wnaethon ni gynghori’r llu y dylid gwneud atgyfeiriad pe bai’r sefyllfa’n newid.
Ym mis Tachwedd 2025, darlledodd y BBC gyfweliad â Mr Sullivan, lle cododd e nifer o bryderon ynghylch y ffordd yr ymdriniodd Heddlu Glannau Mersi â'r achos. Dyma oedd sail y gŵyn a atgyfeiriwyd atom ym mis Ionawr.