Swyddog BTP yn derbyn rhybudd terfynol ysgrifenedig am ddefnyddio grym wrth arestio plant

Published: 26 Mar 2026
News

Mae swyddog Heddlu Trafnidiaeth Prydain (BTP) wedi derbyn rhybudd terfynol ysgrifenedig yn dilyn ymchwiliad gan Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC).

Roedd y Cwnstabl Heddlu (PC) Gavin Parsons yn wynebu gwrandawiad camymddwyn difrifol dros honiadau bod ei weithredoedd wedi torri safonau ymddygiad proffesiynol yr heddlu.

Ar 14 Rhagfyr 2024, roedd PC Parsons yng ngorsaf danddaearol London Bridge pan dynnodd aelod o'r cyhoedd ei sylw at ddigwyddiad yn ymwneud â dau blentyn.

Lleolodd ddau fachgen Du 15 oed a, gyda gwybodaeth gyfyngedig, raciodd ei faton ar unwaith a gorchmynnodd y bechgyn at y llawr heb roi cyfle iddynt gydweithredu cyn defnyddio grym.

Heb egluro i'r plant pam oedd rhaid iddynt ufuddhau i gyfarwyddiadau PC Parsons, tarodd un o'r plant gyda'i faton llai na 30 eiliad ar ôl dod ar ei draws a tharodd y llall gyda'i faton llai nag un funud ar ôl dod ar ei draws.

Cafodd y ddau eu harestio a'u rhoi mewn gefynnau.

Gwnaeth dau aelod o'r cyhoedd a oedd yn dystion i'r digwyddiad gwynion i BTP ynglŷn â'r grym a ddefnyddiwyd gan honni bod y plant yn cael eu trin yn wahanol oherwydd eu hil, tra cafodd cwyn pellach am yr heddlu ei wneud gan fam un o'r plant.

Daeth y gwrandawiad disgyblu i ben ddoe (dydd Mercher 25 Mawrth) a ffeindiodd y panel bod y swyddog wedi defnyddio grym yn erbyn y ddau blentyn nad oedd yn angenrheidiol, yn gymesur nac yn rhesymol o dan yr amgylchiadau, ei fod wedi methu â thrin y plant gyda pharch a chwrteisi, a'i fod wedi eu harestio heb sail ddigonol i wneud hynny.

Canfuwyd ei fod wedi torri safonau'r heddlu o ran ymddygiad proffesiynol yn ymwneud ag awdurdod, parch a chwrteisi; defnyddio grym; gorchmynion a chyfarwyddiadau; dyletswyddau a chyfrifoldebau ac ymddygiad annheilwng.

Ffeindiodd y panel nad yw’r honiadau bod y plant wedi cael eu trin yn wahanol oherwydd eu hil wedi cael eu profi.

Rhoddwyd rhybudd terfynol ysgrifenedig i PC Parsons a fydd yn para am bum mlynedd.

Dywedodd Cyfarwyddwr IOPC, Amanda Rowe: “Dylai unrhyw un sy'n dod i gysylltiad â swyddogion ddisgwyl cael eu trin gydag urddas a pharch, waeth beth yw'r amgylchiadau.

“Yn yr amgylchedd cyhoeddus prysur, ni wnaeth PC Parsons unrhyw ymdrech i gyfathrebu na llacio'r sefyllfa ac yn hytrach dewisodd racio ei faton, gweithred a wthiodd y sefyllfa ymhellach, cyn taro'r ddau blentyn gyda'r baton.

“Roedd ei weithredoedd wedi peri digon o bryder i ddau aelod o'r cyhoedd, a oedd yn dystion i'r digwyddiad, wneud cwynion i'r llu.

“Mae panel wedi canfod bod ei rym wedi bod yn ormodol a'i ymddygiad wedi disgyn ymhell islaw'r safonau a ddisgwylir ganddo. Mae'n gywir ei fod bellach wedi cael ei ddal yn atebol.”

Dechreuodd ein ymchwiliad yn dilyn atgyfeiriadau cwynion gan BTP ym mis Ionawr 2025.

Fel rhan o'n ymchwiliad fe wnaethon ni adolygu fideo corff-gamera, ffilm ffonau symudol a CCTV. Cawsom hefyd gyfrifon tystion gan aelodau'r cyhoedd a chymerom ddatganiadau gan PC Parsons a'r swyddogion eraill oedd yn bresennol yn ystod y digwyddiad.

Daeth ein ymchwiliad i ben ym mis Gorffennaf 2025 a phenderfynom y dylai'r swyddog wynebu gweithdrefnau camymddwyn difrifol. Yn ogystal, cafodd y swyddog ei ymchwilio am drosedd bosib o ymosodiad cyffredin.

Ar ddiwedd ein ymchwiliad, fe wnaethom atgyfeirio ffeil o dystiolaeth at Wasanaeth Erlyn y Goron (CPS), a benderfynodd beidio â chyhuddo'r swyddog.

Tags
  • Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig
  • Defnydd o rym a phlismona arfog
  • Gwahaniaethu ar sail hil