Marwolaethau yn ystod neu yn dilyn adroddiad cyswllt yr heddlu (fformat testun plaen) - 2024/25

Cynnwys 

  1. Cyflwyniad
  2. Canfyddiadau cyffredinol
  3. Marwolaethau traffig ffyrdd
  4. Enghreifftiau o saethu marwol
  5. Marwolaethau yn nalfa’r heddlu neu ar ôl hynny
  6. Hunanladdiadau ymddangosiadol yn dilyn dalfa’r heddlu
  7. Marwolaethau eraill yn dilyn cysylltiad â’r heddlu: ymchwiliadau annibynnol yn unig
  8. Nodyn cefndir
  9. Diolchiadau
  10. Atodiad A: tablau ychwanegol 

 

Rhestr o dablau a ffigurau

  1. Tabl 2.1 - Digwyddiadau fesul math o farwolaeth a math o ymchwiliad, 2024/25
  2. Tabl 2.2 - Marwolaethau fesul math o farwolaeth a blwyddyn ariannol, 2014/15 i 2024/25
  3. Ffigur 2.1 Digwyddiadau fesul math o farwolaeth a blwyddyn ariannol, 2014/15 i 2024/25
  4. Tabl 3.1 - Math o farwolaeth traffig ffordd, 2014/15 i 2024/25
  5. Tabl 3.2 - Math o ddigwyddiad traffig ffordd, 2014/15 i 2024/25
  6. Tabl 5.1 - Marwolaethau yn nalfa’r heddlu neu ar ôl hynny: rheswm dros gadw, 2024/25
  7. Tabl 6.1- Hunanladdiadau ymddangosiadol yn dilyn dalfa’r heddlu: rheswm dros gadw, 2024/25
  8. Tabl 7.1 - Marwolaethau eraill yn dilyn cysylltiad â’r heddlu: rheswm dros gysylltiad, 2024/25
  9. Tabl A1 - Digwyddiadau fesul math o farwolaeth a blwyddyn ariannol, 2014/15 i 2024/25
  10. Tabl A2    Math o farwolaeth fesul rhyw, 2024/25
  11. Tabl A3 - Math o farwolaeth fesul grŵp oedran, 2024/25
  12. Tabl A4 - Math o farwolaeth fesul ethnigrwydd, 2024/25
  13. Tabl A5 - Math o farwolaeth fesul awdurdod priodol, 2024/25

 


1. Cyflwyniad

Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno ffigurau ar farwolaethau yn ystod neu’n dilyn cysylltiad â’r heddlu a ddigwyddodd rhwng 1 Ebrill 2024 a 31 Mawrth 2025. Mae’n darparu set bendant o ffigurau ar gyfer Lloegr a Chymru, a throsolwg o natur ac amgylchiadau y digwyddodd y marwolaethau hyn ynddynt. Y cyhoeddiad hwn yw’r unfed ar hugain mewn cyfres o adroddiadau ystadegol ar y pwnc hwn, a gyhoeddir yn flynyddol gan IOPC.

Mae IOPC yn archwilio amgylchiadau’r holl farwolaethau a atgyfeirir atom i gynhyrchu’r ystadegau hyn. Rydym yn penderfynu os yw’r marwolaethau yn ateb y meini prawf ar gyfer eu cynnwys yn yr adroddiad hwn o dan un o’r categorïau canlynol:

  • marwolaethau traffig ffyrdd
  • saethiadau marwol
  • marwolaethau yn nalfa’r heddlu neu ar ôl hynny
  • hunanladdiadau ymddangosiadol yn dilyn dalfa’r heddlu
  • marwolaethau eraill yn dilyn cysylltiad â’r heddlu oedd yn destun ymchwiliadau annibynnol

Mae blwch A yn darparu diffiniad ar gyfer pob un o’r categorïau hyn.

Gweler y ddogfen ganllaw ar wefan IOPC am ddiffiniadau manylach.

Gellir canfod rhagor o wybodaeth am yr adroddiad yn y nodyn cefndir ar dudalen 29.

 

Blwch A: Diffiniadau o gategorïau marwolaethau yn ystod neu’n dilyn cysylltiad â’r heddlu.

Gweler y ddogfen ganllaw ar ein gwefan am ddiffiniadau manwl a gwybodaeth am sut mae’r achosion marwolaeth yn cael eu categoreiddio a’u cofnodi.

Yn yr adroddiad hwn, mae’r term ‘heddlu’ yn cynnwys sifiliaid heddlu, swyddogion heddlu a staff o’r holl sefydliadau o dan awdurdodaeth IOPC. Gweler nodyn cefndir 2 ar dudalen 29 am ragor o wybodaeth. Nid yw marwolaethau personél heddlu neu ddigwyddiadau yn ymwneud â phersonél heddlu oddi ar ddyletswydd yn cael eu cynnwys yn yr ystadegau yn yr adroddiad hwn.
 

Mae marwolaethau traffig ffyrdd yn cynnwys marwolaethau modurwyr, seiclwyr neu gerddwyr yn codi o ymholiadau gan yr heddlu, cerbydau heddlu yn ymateb i alwadau brys a gweithgaredd arall yn ymwneud â thraffig gan yr heddlu.

Nid yw hyn yn cynnwys:

  • marwolaethau yn dilyn digwyddiad traffig ffordd (RTI) lle y mynychodd yr heddlu ar unwaith ar ôl y digwyddiad fel gwasanaeth brys
     

Mae saethiadau marwol yn cynnwys marwolaethau lle taniodd swyddogion heddlu yr ergyd farwol gan ddefnyddio arf tanio confensiynol.

Mae marwolaethau yn nalfa’r heddlu neu ar ôl hynny yn cynnwys marwolaethau sy’n digwydd tra bod unigolyn yn cael ei arestio neu’i gymryd i’r ddalfa.  Mae’n cynnwys marwolaethau pobl sydd wedi cael eu harestio neu eu cadw gan yr heddlu o dan Ddeddf Iechyd Meddwl 1983. Gall y farwolaeth fod wedi digwydd mewn adeilad heddlu, preifat neu feddygol, mewn man cyhoeddus neu mewn cerbyd heddlu neu gerbyd arall.

Mae hyn yn cynnwys marwolaethau sy’n digwydd:

  • yn ystod neu’n dilyn dalfa’r heddlu lle digwyddodd anafiadau a gyfrannodd at y farwolaeth yn ystod y cyfnod cadw
  • yn neu ar y ffordd i ysbyty (neu adeilad meddygol arall) yn ystod neu’n dilyn trosglwyddo o fan arestio neu ddalfa’r heddlu
  • o ganlyniad i anafiadau neu broblemau meddygol eraill a adnabyddir neu sy’n datblygu tra bod unigolyn yn y ddalfa
  • tra bod unigolyn yn nalfa’r heddlu wedi cael ei gadw o dan Adran 136 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 neu ddeddfwriaeth berthynol arall
     

Nid yw hyn yn cynnwys:

  • hunanladdiadau sy’n digwydd ar ôl i unigolyn gael ei ryddhau o ddalfa’r heddlu
  • marwolaethau sy’n digwydd lle gelwir ar yr heddlu i helpu staff meddygol i ddal pobl yn ôl sydd ddim wedi cael eu harestio

Mae hunanladdiadau ymddangosiadol yn dilyn dalfa’r heddlu yn cynnwys hunanladdiadau ymddangosiadol sy’n digwydd o fewn dau ddiwrnod o ryddhau o ddalfa’r heddlu. Mae’r categori hwn hefyd yn cynnwys hunanladdiadau ymddangosiadol sy’n digwydd y tu hwnt i ddau ddiwrnod o ryddhau o’r ddalfa, lle gall yr amser a dreuliwyd yn y ddalfa fod yn berthnasol i’r farwolaeth.

Mae marwolaethau eraill yn dilyn cysylltiad â’r heddlu yn cynnwys marwolaethau sy’n dilyn cysylltiad â’r heddlu, naill ai’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, nad oedd yn cynnwys arestio neu gadw o dan Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 ac a oedd yn ddarostyngedig i ymchwiliad annibynnol.

Mae ymchwiliad annibynnol yn cael ei benderfynu gan IOPC ar gyfer y digwyddiadau mwyaf difrifol sy’n achosi’r lefel uchaf o bryder cyhoeddus, sydd â’r potensial mwyaf i effeithio ar gymunedau, neu sydd â goblygiadau difrifol i enw da gwasanaeth yr heddlu. Ers 2010/11, mae’r categori hwn wedi cynnwys marwolaethau lle mae ymchwiliad annibynnol wedi bod yn unig, neu lle mae un yn parhau. Mae hyn er mwyn gwella cysondeb mewn adrodd am y marwolaethau hyn.

Gall hyn gynnwys marwolaethau sy’n digwydd:

  • ar ôl i’r heddlu gael eu galw i fynychu digwyddiad domestig sy’n arwain at farwolaeth
  • tra bod unigolyn yn ymdrechu’n weithredol i osgoi arestio, gan gynnwys enghreifftiau lle mae’r farwolaeth wedi’i hunan-gyflawni
  • pan fydd yr heddlu yn mynychu sefyllfa o warchae, gan gynnwys lle mae unigolyn yn lladd ei hun neu rywun arall
  • ar ôl i gyswllt gael ei wneud â’r heddlu ynghylch pryderon am les unigolyn a bod pryder am natur ymateb yr heddlu
     

Yn ôl i'r brig.

 


2. Canfyddiadau cyffredinol

Yn ystod 2024/25, roedd:

  • 26 marwolaeth traffig ffyrdd
  • 2 saethiad marwol gan yr heddlu
  • 17 marwolaeth yn nalfa’r heddlu neu ar ôl hynny
  • 60 hunanladdiad ymddangosiadol yn dilyn dalfa’r heddlu
  • 50 o farwolaethau eraill yn dilyn cysylltiad â’r heddlu oedd yn destun ymchwiliadau annibynnol gan IOPC

Mae gwybodaeth ddemograffig am y rheini a fu farw yn cael ei chyflwyno yn y penodau canlynol, ynghyd â manylion am amgylchiadau’u marwolaethau a chrynodeb o ddata tuedd. Mae’r atodiad yn cynnwys rhagor o wybodaeth, fel oedran, rhyw ac ethnigrwydd y rheini a fu farw, a gwybodaeth am y llu heddlu neu’r awdurdod priodol dan sylw. (Mae’r awdurdod priodol fel arfer yn brif swyddog neu’n gomisiynydd heddlu a throseddu.)

Mae rhai o’r ymchwiliadau i’r marwolaethau a gofnodir yn yr adroddiad hwn yn parhau ar adeg cyhoeddi. Mae manylion am natur ac amgylchiadau’r achosion hyn yn seiliedig ar wybodaeth ar gael ar adeg dadansoddi.

Roedd Lloegr a Chymru o dan gyfyngiadau symud oherwydd y pandemig coronafeirws am ran fawr o 2020/21. Ar yr adeg hon, nid yw’n bosibl dweud â sicrwydd pa effaith gafodd hyn ar y nifer na’r mathau o ryngweithiadau y cafodd aelodau’r cyhoedd â'r heddlu. Dylid cymryd gofal wrth gymharu data o 2020/21 â blynyddoedd blaenorol a dilynol.

Ymchwiliadau

Pan ddywedir wrthym am farwolaeth, rydym yn ystyried amgylchiadau’r achos ac yn penderfynu os yw ymchwiliad yn angenrheidiol. Os ydym yn penderfynu bod ymchwiliad yn angenrheidiol, rydym wedyn yn dewis dull yr ymchwiliad. Rydym yn gallu dewis ymchwilio’n annibynnol, i gyfarwyddo ymchwiliad, neu y dylai’r achos gael ei ymchwilio’n lleol gan yr heddlu.

Mae gan bob llu heddlu adran safonau proffesiynol (PSD) neu adran gyfatebol, sy’n goruchwylio ymdrin â chwynion a materion ymddygiad penodol. Mewn rhai amgylchiadau, rydym yn penderfynu mai’r PSD sydd yn y lle gorau i ymchwilio i achos yn lleol.

Ers Chwefror 2020, nid yw ymchwiliadau wedi’u goruchwylio a’u rheoli ar gael mwyach fel dull ymchwilio. Cafodd dull newydd – ‘ymchwiliad wedi’i gyfarwyddo’ – ei greu. Mae’r rhain yn digwydd o dan gyfarwyddyd a rheolaeth IOPC, ond gan ddefnyddio adnoddau heddlu.

Mae blwch B ar dudalen 10 yn cynnwys disgrifiad o bob math o ymchwiliad.

Mae tabl 2.1 yn dangos y math o ymchwiliad ar adeg dadansoddi ar gyfer pob digwyddiad yn cynnwys cofnodi marwolaeth yn 2024/25. Mae’r ffigurau yn dangos y nifer o ddigwyddiadau. Mae digwyddiad sy’n arwain at ymchwiliad unigol yn gallu cynnwys mwy nag un farwolaeth ac felly gall cyfanswm y nifer o ddigwyddiadau ar gyfer rhai categorïau fod yn is na chyfanswm y marwolaethau a gyflwynir uchod. Yn 2024/25, ymchwiliodd IOPC yn annibynnol i gyfanswm o 86 o ddigwyddiadau.

Nid yw Tabl 2.1 yn cynnwys ffigurau ar gyfer ymchwiliadau wedi’u goruchwylio a’u rheoli rhagor gan y digwyddodd yr holl farwolaethau yn yr adroddiad hwn o Ebrill 2024 ymlaen. Nid ymdriniwyd â digwyddiadau gan ymchwiliad wedi’i gyfarwyddo ar draws pob categori marwolaeth.
 

Tabl 2.1 Digwyddiadau fesul math o farwolaeth a math o ymchwiliad, 2024/25

Math o ymchwiliadDigwyddiadau traffig ffyrddSaethiadau marwolMarwolaethau yn nalfa’r heddlu neu ar ôl hynnyHunanladdiadau ymddangosiadol yn dilyn dalfa’r heddluMarwolaethau eraill yn dilyn cysylltiad â’r heddlu*
Annibynnol 21215048
Wedi’u cyfarwyddo00000
Lleol102140
Yn ôl i’r llu300460
Cyfanswm digwyddiadau252176048

Tueddiadau

Mae’r ffigurau yn nhabl 2.2 yn dangos y nifer o farwolaethau ar draws y gwahanol gategorïau ers 2014/15. Ni fyddai’n ystyrlon cynhyrchu dadansoddiad tuedd ar draws pob un o’r pum categori.

Mae hyn oherwydd yr amrywiaeth eang yn yr amgylchiadau a’r newidiadau i sut mae’r categori ‘marwolaethau eraill yn dilyn cysylltiad â’r heddlu’ yn cael ei ddiffinio.
 

Tabl 2.2 

Marwolaethau fesul math o farwolaeth a blwyddyn ariannol, 2014/15 i 2024/25

 Marwolaethau
 Blwyddyn ariannol
Categori14/1515/1616/1717/1818/1919/2020/2121/2222/2323/2424/25
Marwolaethau traffig ffyrdd1421322942242540283226
Saethiadau marwol13643312322
Marwolaethau yn nalfa’r heddlu neu ar ôl hynny18141423171819112325 ~17
Hunanladdiadau ymddangosiadol yn dilyn dalfa’r heddlu7161565763545557546860
Marwolaethau eraill yn dilyn cysylltiad â’r heddlu*43106**13117815610797113 ~9162 ~50

* Newid mewn diffiniad o ‘farwolaethau eraill yn dilyn cysylltiad’ yn 2010/11 i gynnwys achosion yn ddarostyngedig i ymchwiliad annibynnol yn unig.

** Ehangu adnoddau a chapasiti ymchwiliadol i gyflawni mwy o ymchwiliadau annibynnol i faterion difrifol a sensitif – mae hyn yn cael effaith uniongyrchol ar y nifer o ‘farwolaethau cysylltiad eraill’ sy'n cael eu hadrodd.

~ Mae'r tabl hwn yn cyflwyno'r set ddiweddaraf o ffigurau ar gyfer y categorïau hyn; dangosir unrhyw newidiadau i ddata a gyhoeddwyd yn flaenorol.
 

Ffigur 2.1 Digwyddiadau fesul math o farwolaeth a blwyddyn ariannol, 2014/15 i 2024/25

Categori14/1515/1616/1717/1818/1919/2020/2121/2222/2323/2424/25
Marwolaethau traffig ffyrdd1320282733242033262925
Marwolaethau yn nalfa’r heddlu neu ar ôl hynny13623312322
Hunanladdiadau ymddangosiadol yn dilyn dalfa’r heddlu1814142317181911232517
Marwolaethau eraill yn dilyn cysylltiad â’r heddlu*7161565763545557546860

Mae’r nifer o ddigwyddiadau traffig ffyrdd (RTI) marwol wedi gostwng eleni, gyda 25 digwyddiad, o gymharu â 29 y llynedd. Mae hyn yn cyd-fynd â’r cyfartaledd o 25 digwyddiad a gofnodwyd dros y cyfnod 11 mlynedd ers 2014/15. Mae’r ffigurau hyn yn destun amrywiad ac felly dylid ystyried cymariaethau blwyddyn ar flwyddyn â gofal.

Eleni roedd dau saethiad marwol gan yr heddlu, o gymharu â dau y llynedd. Mae hyn yn is na’r cyfartaledd o dri saethiad marwol a gofnodwyd ers 2014/15.
 

Mae’r nifer o farwolaethau yn nalfa’r heddlu neu ar ôl hynny wedi gostwng dros y flwyddyn ddiwethaf o 25 i 17. Dros amser, mae rhywfaint o amrywiad wedi bod yn y categori hwn, gyda chodiadau nodedig wedi’u cofnodi yn 2014/15, 2017/18 a 2022/23. Mae ffigur 2024/25 yn is na’r cyfartaledd o 18 marwolaeth dros y cyfnod 11 mlynedd.

Roedd y nifer o hunanladdiadau ymddangosiadol a gofnodwyd yn dilyn y ddalfa yn 60, yn nodedig o is na’r 68 marwolaeth a gofnodwyd y llynedd. Mae’r nifer o farwolaethau yn y categori hwn yn aros yn uwch na’r cyfartaledd a gofnodwyd dros y blynyddoedd cyn 2012/13, pan oedd cynnydd nodedig. Fodd bynnag, mae’r nifer yn cyd-fynd â’r cyfartaledd o 60 o farwolaethau a gofnodwyd dros y cyfnod 11 mlynedd. Mae’r gwaith o adrodd am y marwolaethau hyn yn ddibynnol ar heddluoedd yn gwneud cysylltiad rhwng hunanladdiad ymddangosiadol rhywun a’r ffaith bod yr unigolyn wedi bod yn y ddalfa’n ddiweddar. Efallai bod y cynnydd cyffredinol yn y marwolaethau hyn dros yr un cyfnod ers 2014/15 i’w weld gan fod y broses o bennu ac atgyfeirio achosion o’r fath wedi gwella.
 

Nid yw’r categori ‘marwolaethau eraill yn dilyn cysylltiad â’r heddlu’ yn cael ei gynnwys yn Ffigur 2.1. Mae cynnwys marwolaeth yn y categori hwn yn dibynnu ar a ydym yn penderfynu agor ymchwiliad annibynnol i mewn i’r amgylchiadau o’i gwmpas. Gall y meini prawf ar gyfer gwneud y penderfyniad hwn amrywio dros amser – er enghraifft, mewn ymateb i bryderon cyhoeddus a chymunedol. Yn 2015/16 cynyddodd ein capasiti i gyflawni ymchwiliadau annibynnol, a gafodd effaith uniongyrchol ar y nifer o farwolaethau a adroddwyd yn y categori hwn. (Gweler ein cynllun Corfforaethol 2015-18 a chynllun Strategol 2018-22 am ragor o wybodaeth.) Mae hyn yn golygu na fyddai dadansoddi tueddiadau marwolaethau a gofnodwyd yn y categori hwn yn ystyrlon.

Mae ffigurau ar bob digwyddiad marwol (yn wahanol i farwolaethau) yn cael eu darparu yn Nhabl A1 yn yr atodiad. Mae’r atodiad hefyd yn cynnwys data ar:

  • ethnigrwydd
  • oedran
  • rhyw
  • llu heddlu
  • categori marwolaeth
     

Rydym wedi cyhoeddi ystadegau blynyddol ar farwolaethau yn ystod neu’n dilyn cysylltiad â’r heddlu ers 2004/05. Mae adroddiadau blaenorol a data cyfres amser ar gael ar ein gwefan

 

Blwch B Mathau o ymchwiliad

Mae ymchwiliadau annibynnol yn cael eu cyflawni gan ymchwilwyr IOPC ei hun. Mae gan ymchwilwyr IOPC holl bwerau’r heddlu mewn ymchwiliad annibynnol.

Mae ymchwiliadau wedi’u cyfarwyddo yn ymchwiliadau IOPC sy’n cael eu cyflawni gan ddefnyddio adnoddau’r heddlu. Mae IOPC yn gosod y cylch gorchwyl ar gyfer yr ymchwiliad ac mae’n cyfarwyddo cwrs yr ymholiadau. Ar ddiwedd yr ymchwiliad, mae ymchwiliwr yr heddlu yn cyflwyno adroddiad yr ymchwiliad i IOPC i’w adolygu.

Mae ymchwiliadau lleol yn cael eu cyflawni gan y llu heddlu. Mewn achosion marwolaeth ac anaf difrifol, mae’r llu yn anfon yr adroddiad at IOPC i’w adolygu ar ddiwedd yr ymchwiliad.

Mae atgyfeiriwyd yn ôl at y llu yn dangos achosion lle mae IOPC wedi adolygu’r amgylchiadau a dychwelyd y mater i’r llu heddlu i ddelio ag ef fel y mae’n ystyried yn briodol.

 

Yn ôl i'r brig.

 


3. Marwolaethau traffig ffyrdd

Demograffeg

Yn 2024/25, roedd 25 digwyddiad traffig ffordd (RTI) marwol yn ymwneud â’r heddlu, gan arwain at 26 marwolaeth. O’r rheini a fu farw, roedd 20 yn ddynion a chwech yn fenywod, Roedd un deg saith yn Wyn, pump yn Asiaidd, tri yn Ddu ac un yn unigolyn o ethnigrwydd cymysg.

Roedd pedwar o’r bobl o dan 18 oed. Roedd deg arall o’r bobl a fu farw rhwng 18 a 30 oed, ac roedd yr unigolyn hynaf yn 84 mlwydd oed. Yr oedran ar gyfartaledd oedd 36 oed. Mae’r oedran ar gyfartaledd yn gostwng i 25 oed os oedd yr ymadawedig yn yrrwr neu’n deithiwr mewn cerbyd oedd yn cael ei ymlid neu a oedd yn ffoi. Mae’n cynyddu i 52 oed os oedd yr ymadawedig yn gerddwr, yn seiclwr, neu’n yrrwr neu’n deithiwr mewn cerbyd a darwyd naill ai gan yr heddlu neu’r cerbyd a oedd yn cael ei ymlid neu a oedd yn ffoi.

Amgylchiadau marwolaethau

Mae digwyddiadau yn cael eu dosbarthu fel ‘ymwneud ag ymlid’ os oeddent yn cynnwys ymlid, neu sefyllfaoedd lle roedd swyddogion wedi dechrau ‘dilyn’ cerbyd dan amheuaeth. Ni fydd pob un o’r digwyddiadau hyn wedi mynd i mewn i gam ymlid swyddogol fel y’i diffinnir yn yr Ymarfer Proffesiynol Awdurdodedig (APP) ar ymlidiau'r heddlu. (Gweler Coleg Plismona (2015) Ymarfer Proffesiynol Awdurdodedig ar ymlidiau'r heddlu.)

Caiff digwyddiadau lle roedd gwrthdrawiad yn ymwneud â cherbyd a gafodd ei ymlid yn ddiweddar gan yr heddlu, ond lle roedd yr heddlu wedi colli golwg ar y cerbyd, eu cynnwys. Mae digwyddiadau lle roedd yr heddlu yn gyrru i gyfeiriad cerbyd cyn cael caniatâd i ymlid hefyd yn cael eu cynnwys fel ymwneud ag ymlid.

Ymwneud ag ymlid

Roedd 17 o ddigwyddiadau yn ymwneud â’r heddlu’n ymlid, a arweiniodd at 18 marwolaeth. O’r marwolaethau hyn:

  • Roedd deg o bobl yn yrwyr cerbydau oedd yn cael eu hymlid gan yr heddlu pan gawsant wrthdrawiad.
  • Roedd pedwar o bobl yn deithwyr yn y car oedd yn cael ei ymlid gan yr heddlu.
  • Roedd tri o bobl yn yrwyr neu’n deithwyr cerbyd nad oedd yn berthynol, a gafodd ei daro gan y car oedd yn cael ei ymlid.
  • Roedd un unigolyn yn gerddwr a gafodd ei daro gan y car oedd yn cael ei ymlid gan yr heddlu.
     

Perthynol i ymateb argyfwng

Mae’r categori hwn yn cynnwys pob digwyddiad sy’n cynnwys cerbyd heddlu yn ymateb i gais am gymorth brys. Digwyddodd pum digwyddiad yn ymwneud ag ymateb brys yn 2024/25, gan arwain at bum marwolaeth. Mae’r digwyddiadau hyn yn cael eu hymchwilio’n annibynnol.

Mae’r nifer hon wedi cynyddu o un digwyddiad ac un farwolaeth a gofnodwyd y llynedd. Mae’r ffigurau ar gyfer y flwyddyn hon yn dangos y nifer uchaf o ddigwyddiadau a marwolaethau ers 2018/19, pan gafwyd pump.

Digwyddodd tair marwolaeth pan aeth cerbydau’r heddlu (a oedd yn ymateb i argyfyngau) i wrthdrawiad â cherbyd arall. Roedd y mathau o ddigwyddiadau yr ymatebodd yr heddlu iddynt yn cynnwys:

  • ymlid ar wahân gan yr heddlu, pan oeddynt yn ymlid cerbyd
  • atal rhywun yr amheuwyd ei fod wedi cyflawni trosedd
  • adroddiad bod unigolyn clwyfedig ar y ffordd

Roedd dwy farwolaeth arall yn ymwneud â cherbydau’r heddlu yn mynd i wrthdrawiad â cherddwyr tra roeddynt yn ymateb i alwadau brys. Roedd y mathau o ddigwyddiadau yr ymatebodd yr heddlu iddynt yn cynnwys:

  • adroddiad yn ymwneud â dyn â chyllell
  • adroddiad yn ymwneud â chriw o ddynion gydag arfau, a oedd yn ymladd ar y stryd

     

Gweithgaredd traffig heddlu arall

Mae’r categori hwn yn cynnwys digwyddiadau traffig ffyrdd na wnaethant ddigwydd yn ystod gweithgaredd yn ymwneud ag ymlid neu ymateb brys. Roedd tri digwyddiad yn 2024/25 a arweiniodd at dair marwolaeth. Mae dau ddigwyddiad yn cael eu hymchwilio’n annibynnol. Fe wnaethom atgyfeirio un digwyddiad yn ôl at y llu heddlu perthnasol.

O’r tri digwyddiad hyn, digwyddodd un pan ymatebodd cerbyd i bresenoldeb yr heddlu:

  • Gwelodd swyddogion ar batrôl gerbyd a oedd wedi cael ei ychwanegu at y ‘rhestr o gerbydau o ddiddordeb’ y diwrnod blaenorol. Roedd y car yn teithio i’r cyfeiriad arall, ac ar ôl gweld cerbyd yr heddlu, sylwodd y swyddog fod y car wedi dechrau gyrru’n gyflym oddi wrtho. Trodd y swyddog ei gerbyd i’r cyfeiriad arall a gyrrodd yn yr un cyfeiriad â’r car, ond erbyn hynny, ni allai weld y car. Defnyddiodd cerbyd yr heddlu ei oleuadau glas am gyfnod byr er mwyn pasio cerbyd arall o’i flaen, ac yna diffoddodd y goleuadau, gan barhau i deithio yn yr un cyfeiriad. Eiliadau’n ddiweddarach, drylliwyd y car. Bu farw’r teithiwr yn y fan a’r lle. Dychwelwyd yr achos i’r llu ar gyfer delio ag ef fel y gwelent yn dda.

Digwyddodd y ddau ddigwyddiad oedd yn weddill tra bod yr heddlu ar batrôl arferol neu ddyletswyddau gyrru:

  • •    Roedd swyddog ar batrôl mewn cerbyd heddlu heb ei farcio. Sylwodd ar gar yn teithio heibio iddo’n gyflym. Ceisiodd y swyddog stopio’r car trwy ddefnyddio’i oleuadau glas, fel arwydd bod angen i’r gyrrwr stopio. Yn ôl y swyddog, ni stopiodd y car, a chollodd olwg ar y car ar yr adeg honno. Teithiodd cerbyd yr heddlu yn ei flaen ar hyd y ffordd yn yr un cyfeiriad â’r car. Ymhellach i lawr y lôn, gwelwyd bod y car wedi mynd i wrthdrawiad â choeden ar ochr arall y ffordd. Roedd y gyrrwr wedi cael ei daflu o’r car a chafodd driniaeth feddygol. Mynychwyd safle’r ddamwain gan y gwasanaethau brys, ond bu farw’r dyn yn y fan a’r lle. Mae ymchwiliad annibynnol yn cael ei gynnal i’r digwyddiad hwn.
  • Sylwodd swyddogion, a oedd ar batrôl mewn cerbyd wedi’i farcio, ar gar a oedd yn teithio’n gyflym. Ceisiodd yr heddlu ddal i fyny â’r car. Wrth iddynt nesáu at gyffordd, aeth cerbyd yr heddlu i wrthdrawiad â beic modur. Rhoddodd y swyddogion, ynghyd â pharafeddygon, gymorth cyntaf i’r beiciwr modur, ond bu farw’n ddiweddarach yn y fan a’r lle. Mae ymchwiliad annibynnol yn cael ei gynnal i’r digwyddiad hwn.

Tueddiadau

Eleni, bu farw 26 o bobl mewn 25 digwyddiad ar wahân. Gwelwyd gostyngiad mewn marwolaethau eleni o 32 i 26. Mae hyn yn is na’r cyfartaledd o 28 marwolaeth digwyddiad traffig ffordd a gofnodwyd dros y cyfnod 11 mlynedd ers 2014/15. Mae’r ffigurau blynyddol hyn yn destun amrywiad ac felly dylid ystyried cymariaethau blwyddyn ar flwyddyn â gofal.

Mae tablau 3.1 a 3.2 yn amlinellu’r math o farwolaethau a digwyddiadau traffig ffyrdd dros yr 11 mlynedd diwethaf. Mae’r tablau yn dangos y digwyddiadau yn y tri chategori a ddisgrifiwyd yn flaenorol: yn ymwneud ag ymlid, yn ymwneud ag ymateb brys, a gweithgaredd traffig heddlu arall. Mae gwybodaeth ar farwolaethau a digwyddiadau o 2004/05 ar gael yn y tablau cyfres amser ar wefan policeconduct.gov.uk.

Eleni, roedd gostyngiad yn y nifer o ddigwyddiadau’n ymwneud ag ymlid. Mae’r nifer o 17 digwyddiad yn is na’r cyfartaledd o 18 digwyddiad a welwyd dros yr 11 mlynedd diwethaf.

Roedd gostyngiad yn y nifer o farwolaethau’n ymwneud ag ymlid eleni, o 24 i 18. Roedd gostyngiad hefyd yn y nifer o ddigwyddiadau’n ymwneud ag ymlid a arweiniodd at farwolaethau lluosog. Roedd un digwyddiad yn cyfrif am ddwy farwolaeth. Mae’r nifer o farwolaethau’n ymwneud ag ymlid eleni yn is na’r cyfartaledd o 21 marwolaeth a gofnodwyd dros y cyfnod 11 mlynedd ers 2014/15.

Mae’r flwyddyn hon wedi gweld cynnydd nodedig yn y nifer o ddigwyddiadau a marwolaethau’n ymwneud ag ymateb brys. Mae’r ffigurau o bum digwyddiad a phum marwolaeth am y flwyddyn hon yn uwch na’r cyfartaledd o dri digwyddiad a thair marwolaeth ers 2014/15.

Mae’r nifer o ddigwyddiadau sy’n deillio o weithgaredd traffig arall yr heddlu wedi haneru o chwech yn y flwyddyn flaenorol i dri, gyda’r nifer o farwolaethau wedi gostwng o saith i dri. Mae’n is na’r cyfartaledd o bum digwyddiad a phum marwolaeth dros yr 11 mlynedd diwethaf, ac mae’n un rhan o bump o’r nifer o ddigwyddiadau a gofnodwyd yn 2004/05

 

Tabl 3.1 - Math o farwolaeth traffig ffordd, 2014/15 i 2024/25

Math o RTI14/1515/1616/1717/1818/1919/2020/2121/2222/2323/2424/25
Yn ymwneud ag ymlid713281730192034202418
Perthynol i ymateb brys02085313215
Arall76447243673
Cyfanswm y marwolaethau 1421322942242540283226

 

Tabl 3.2 - Math o ddigwyddiad traffig ffordd, 2014/15 i 2024/25

Math o RTI14/1515/1616/1717/1818/1919/2020/2121/2222/2323/2424/25
Yn ymwneud ag ymlid612241721191527182217
Perthynol i ymateb brys 02075313215
Arall76437243663
Cyfanswm digwyddiadau 1320282733242033262925

 

Yn ôl i'r brig.

 


4. Fatal shootings

Roedd dau saethiad marwol gan yr heddlu yn 2024/25, o gymharu â’r ddau ddigwyddiad a gofnodwyd y llynedd. Mae amgylchiadau’r ddau saethiad marwol yn cael eu crynhoi isod. Mae’r ddau yn destun ymchwiliad annibynnol sy’n parhau.

  • Cafodd heddlu Gorllewin Mersia eu galw gan y gwasanaeth ambiwlans oherwydd pryderon yn ymwneud â lles dyn. Roedd gan y dyn Du 39 oed gyllell yn ei feddiant. Ceisiodd yr heddlu drafod â’r dyn am sawl awr. Galwyd swyddogion arfau tanio, a lwyddodd i gael mynediad trwy rym i’r adeilad. Mae’r cyfarpar fideo a gâi ei wisgo gan y swyddogion yn dangos y dyn yn gafael mewn cyllell ac yn symud tuag atynt. Yna, defnyddiwyd o leiaf un teclyn Taser, a saethodd un o’r swyddogion arfau tanio unwaith, gan daro’r dyn yn ei frest. Ceisiodd y swyddogion roi cymorth cyntaf i’r dyn, ond bu farw yn y fan a’r lle.
  • Cafodd Heddlu Surrey eu galw gan aelod o’r cyhoedd gan fod dyn Gwyn 29 oed yn cael cweryl gyda rhywun y tu allan i adeilad. Dywedwyd bod gan y dyn arf tanio. Cyrhaeddodd swyddogion arfau tanio, aethant i gyfeiriad yr adeilad a llwyddwyd i’w amgylchynu. Rhoddodd un o’r swyddogion arfau tanio gyfarwyddyd i’r preswylwyr ddod i’r drws ffrynt, gyda’u dwylo’n wag. Agorodd y dyn y drws. Roedd hi’n ymddangos fel pe bai’n anelu arf i gyfeiriad y swyddogion. Yna, taniodd un o’r swyddogion arfau tanio un rownd, gan daro’r dyn yn ei abdomen, a thaniodd swyddog arall ‘rownd pastwn’. Yna, cafodd y dyn ei symud o’r adeilad gan y swyddogion a dechreuwyd rhoi cymorth cyntaf iddo. Gofynnwyd am ambiwlans, ac yn fuan wedyn cyrhaeddodd y parafeddygon, gan gymryd yr awenau o ran y gofal meddygol. Aethpwyd â’r dyn i’r ysbyty, lle bu farw bedwar diwrnod yn ddiweddarach. Daethpwyd o hyd i arf, nad oedd yn eiddo i’r heddlu, ar y safle.

 

Yn ôl i'r brig.

 


5. Marwolaethau yn nalfa'r heddlu neu ar ôl hynny

Demograffeg

Yn 2024/25, bu farw 17 o bobl yn nalfa’r heddlu neu ar ôl hynny – roedd 14 yn ddynion a thair yn fenywod. Amrywiai eu hoedran o 17 i 76 oed. Roedd pymtheg yn Wyn ac roedd dau yn Ddu.

Roedd gan naw o bobl bryderon iechyd meddwl. Roedd y mathau o bryderon iechyd meddwl yn cynnwys iselder, gorbryder, anhwylder deubegynol a hunan-niweidio. Ni chadwyd yr un ohonynt o dan adran 136 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983, ond cadwyd un unigolyn trwy ddefnyddio pwerau o dan Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005.

Roedd hi’n hysbys fod gan bymtheg o bobl gysylltiad ag alcohol a/neu gyffuriau. Golygai hyn ar adeg eu harestio eu bod wedi cymryd, wedi meddwi gan, mewn meddiant o, neu fod ganddynt broblemau hysbys ag alcohol a/neu gyffuriau. Lle cafodd achos marwolaeth ei adrodd, cofnododd patholegydd fod gwenwyno gan alcohol neu gyffuriau, neu gamddefnydd tymor hir, yn debygol o fod yn ffactor cyfrannol ym marwolaethau pedwar o bobl.

Mae Tabl 5.1 ar dudalen 16 yn dangos y rhesymau pam y cafodd pobl eu harestio neu’u cadw gan yr heddlu.
 

Tabl 5.1 -Marwolaethau yn nalfa’r heddlu neu ar ôl hynny: rheswm dros gadw, 2024/25

Rheswm dros gadwNifer o farwolaethau
Yn ymwneud â thrais (heb fod yn rhywiol neu lofruddiaeth)5*
Troseddau goryrru / gyrru3
Methiant i ymddangos mewn llys2**
Lladrad / byrgleriaeth2
Troseddau rhywiol1
Ymddygiad bygythiol/aflonyddu1
Torri’r heddwch/ymddygiad gwrthgymdeithasol1
Cyffuriau / alcohol1
Deddf Galluedd Meddyliol 20051
Cyfanswm y marwolaethau17

* Cafodd un o’r bobl hyn ei arestio hefyd am ddifrod troseddol

** Cafodd un o’r bobl hyn ei arestio hefyd am droseddau'n ymwneud 
â chyffuriau/alcohol
 

Mae’r data yn dangos bod pump o’r 17 o bobl a fu farw wedi cael rhywfaint o rym wedi’i ddefnyddio yn eu herbyn gan swyddogion neu aelodau’r cyhoedd cyn eu marwolaethau. Mae’n bwysig nodi na chyfrannodd y defnydd o ddal yn ôl, neu fathau eraill o rym, o angenrheidrwydd at y marwolaethau.

Cafodd pob un o’r pump o blith yr 17 o bobl a gafodd rym wedi’i ddefnyddio yn eu herbyn eu dal yn ôl yn gorfforol gan yr heddlu. Hefyd, yn achos un farwolaeth, defnyddiwyd grym gan swyddogion diogelwch. Mae’r term ‘dal yn ôl’ yn cyfeirio at amrediad o weithredoedd, gan gynnwys daliadau corfforol a chymhwyso pwysedd. Nid yw’n cynnwys y defnydd o gyffion dwylo, heblaw y cafodd ffurf arall o ddal yn ôl ei ddefnyddio hefyd. O’r pump o bobl a gafodd eu dal yn ôl yn gorfforol, roedd tri yn Wyn ac roedd dau yn Ddu.

Roedd tri o’r pum digwyddiad a oedd yn cynnwys defnydd o rym hefyd yn cynnwys atalwyr coesau

 

Amgylchiadau marwolaeth

Mae achos marwolaeth yn ôl adroddiad y patholegydd yn dilyn archwiliad post-mortem yn cael ei adrodd ar gyfer wyth o’r 17 a fu farw. Mewn lleiafrif o achosion, gall archwiliad post-mortem beidio â chael ei gyflawni. Yn yr achosion hyn, mae achos y farwolaeth yn cael ei gymryd o gofnodion y meddyg sy’n ardystio’r farwolaeth. Os yw achos y farwolaeth yn cael ei herio’n ffurfiol ar adeg y dadansoddi, bydd achos y farwolaeth yn cael ei gofnodi fel ‘disgwyliedig’.

Mewn cwest, mae achos y farwolaeth yn cael ei bennu’n ffurfiol a gall newid o achos y farwolaeth a restrir mewn adroddiad patholegydd. Mae IOPC yn ymchwilio’n annibynnol i 15 o’r 17 marwolaeth.

Aeth pymtheg o bobl yn sâl neu nodwyd eu bod yn sâl mewn cell heddlu. Cafodd pump eu cludo i’r ysbyty, lle buon nhw farw’n ddiweddarach. Bu farw tri o bobl mewn cell heddlu.

 

Amlinellir yr wyth achos hyn isod.

  • •    Arestiwyd dyn am fethu ag ymddangos yn y llys, ac aethpwyd ag ef i’r ddalfa. Yn ystod asesiad risg cychwynnol y dyn, datgelodd ei fod yn ddibynnol ar gyffuriau. Pennwyd y dylid cadw golwg arno bob 30 munud. Cyrhaeddodd y dyn y ddalfa ar nos Sadwrn ac fe’i cadwyd yno dros y penwythnos tra roedd yn disgwyl ymddangos yn y llys ar y dydd Llun. Tra roedd yn y ddalfa, cafodd y dyn ei weld deirgwaith gan weithiwr gofal iechyd proffesiynol, a roddodd feddyginiaeth iddo ar gyfer symptomau diddyfnu cyffuriau. Yn ystod yr oriau mân ar y bore dydd Llun, aeth gweithiwr gofal iechyd proffesiynol i gell y dyn a gwelwyd ei fod yn anymatebol. Galwyd am ambiwlans a rhoddodd un o weithwyr y ddalfa adfywio cardiopwlmonaidd iddo hyd nes y cyrhaeddodd y parafeddygon. Aeth yr ambiwlans â’r dyn i’r ysbyty a bu farw yn fuan wedyn. Achos ei farwolaeth oedd 1(a) Clefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint gyda ffibrosis myocardiaidd a sirosis yr afu.
  • •    Arestiwyd menyw am ddwyn ac aethpwyd â hi i’r ysbyty. Tra roedd yn cael ei chofrestru yn y ddalfa, gofynnodd y fenyw am gael gweld nyrs a dywedodd ei bod yn dioddef symptomau diddyfnu alcohol a chyffuriau. Yn hwyr y diwrnod wedyn, cafodd y fenyw ei gweld gan weithiwr gofal iechyd proffesiynol a rhoddwyd meddyginiaeth iddi ar gyfer symptomau diddyfnu cyffuriau. Yn fuan wedyn, wrth gynnal archwiliad rheolaidd ar y gell, daethpwyd o hyd i’r fenyw yn anymatebol. Aeth staff y ddalfa a’r gweithiwr gofal iechyd proffesiynol i’r gell i roi cymorth meddygol i’r fenyw, a hefyd galwyd am ambiwlans. Mynychwyd y digwyddiad gan ambiwlans awyr hefyd, ond yn fuan wedyn cyhoeddwyd bod y fenyw wedi marw. Achos ei marwolaeth oedd 1a) Heb ei gadarnhau. Yn ymchwiliad annibynnol IOPC, defnyddiwyd arbenigwr meddygol a ddarganfu y gallai arythmia cardiaidd marwol cyflym esbonio marwolaeth sydyn y fenyw.
  • Arestiwyd dyn am yrru cerbyd pan nad oedd yn atebol i wneud hynny oherwydd alcohol. Aethpwyd ag ef i’r ddalfa, ac ar y cychwyn pennwyd y dylid cadw golwg arno a’i ddihuno bob 30 munud gan ei fod yn feddw. Yn ddiweddarach yn y diwrnod, newidiodd lefel arsylwi’r dyn. Parhawyd i gadw golwg arno bob 30 munud, ond nid oedd yn rhaid ei ddihuno mwyach. Tra roedd yn y ddalfa, cafodd y dyn ei weld saith gwaith gan weithiwr gofal iechyd proffesiynol ar gyfer monitro a thrin ei lefelau alcohol. Y diwrnod ar ôl i’r dyn gyrraedd y ddalfa, yn ystod archwiliad rheolaidd, sylwodd swyddog y ddalfa nad oedd y dyn yn ymateb a chyhoeddodd argyfwng meddygol. Rhoddodd staff y ddalfa adfywio cardiopwlmonaidd i’r dyn, a chyrhaeddodd ambiwlans ac ambiwlans awyr yn fuan wedyn. Cyhoeddwyd bod y dyn wedi marw yn fuan ar ôl iddynt gyrraedd. Achos ei farwolaeth oedd 1a Marwolaeth annisgwyl sydyn ar ôl camddefnyddio alcohol (SUDAM) mewn claf a chanddo ddiagnosis clinigol o fethiant y galon a chlefyd afu brasterog gydag enseffalopathi Wernicke posibl, sef elfen a allai fod wedi’i hachosi gan ddiddyfnu alcohol a defnydd diweddar o amffetaminau.
  • Arestiwyd menyw er mwyn ei dychwelyd i’r carchar ac fe’i harestiwyd ymhellach am droseddau’n ymwneud â chyffuriau, ac yna aethpwyd â hi i’r ddalfa. Yn ystod asesiad risg cychwynnol y fenyw, datgelodd ei bod yn ddibynnol ar alcohol. Rhoddwyd cynllun gofal ar waith a chadwyd golwg gyffredinol arni mewn cell â CCTV. Y diwrnod wedyn, cafodd y fenyw ei gweld gan weithiwr gofal iechyd proffesiynol ar ôl i staff y ddalfa sylwi ei bod yn chwydu ac yn swrth. Rhoddodd staff y ddalfa wybod i’r fenyw nad oedd yn ddigon da i’w chludo i’r carchar ac y byddai’n aros yn y ddalfa. Yn fuan wedyn, darganfuwyd y fenyw yn anymatebol yn ei chell. Rhoddodd y swyddogion adfywio cardiopwlmonaidd iddi hyd nes y cyrhaeddodd y parafeddygon. Yn fuan ar ôl i’r parafeddygon gyrraedd, cyhoeddwyd bod y fenyw wedi marw. Achos ei marwolaeth oedd 1(a) Cymhlethdodau oherwydd camddefnydd cronig o gyffuriau (heroin a chocên) gyda chardiomegali.
     
  • Cafodd swyddogion adroddiad bod car wedi mynd i wrthdrawiad â cherbyd llonydd. Arestiwyd y gyrrwr ar amheuaeth o yrru tra roedd o dan ddylanwad alcohol ac aethpwyd ag ef i’r ddalfa. Methodd y dyn â darparu sampl anadl a rhoddwyd ef mewn cell, gan gadw golwg arno bob 30 munud. Yn fuan wedyn, yn ystod archwiliad rheolaidd, daeth swyddog y ddalfa o hyd i’r dyn ar y llawr, ac roedd hi’n ymddangos ei fod wedi cael strôc. Galwodd swyddog y ddalfa am gymorth, cafodd y dyn ei archwilio yn ei gell gan weithiwr gofal iechyd proffesiynol, a galwyd am ambiwlans. Cyrhaeddodd y parafeddygon ac aethpwyd â’r dyn i’r ysbyty mewn ambiwlans. Arhosodd yn yr ysbyty, lle bu farw bedwar diwrnod yn ddiweddarach. Achos ei farwolaeth oedd 1a) Gwaedlif ar goesyn yr ymennydd yn dilyn thrombolysis ar gyfer strôc ischaemig.
  • Arestiwyd dyn am drosedd rywiol ac aethpwyd ag ef i’r ddalfa. Cynhaliwyd asesiad risg a phenderfynwyd y dylid cadw golwg ar y dyn bob 30 munud. Yn fuan wedyn, cafodd y dyn ei weld gan weithiwr gofal iechyd proffesiynol ac aseswyd ei fod yn ffit i’w gadw a’i gyfweld. Y diwrnod wedyn, yn ystod archwiliad rheolaidd, daeth staff y ddalfa o hyd i’r dyn yn gorwedd ar ei gefn ar lawr y gell gyda phwll o waed o’i amgylch. Rhoddodd staff y ddalfa gymorth meddygol i’r dyn hyd nes y cyrhaeddodd y parafeddygon. Aethpwyd â’r dyn i’r ysbyty, lle bu farw y diwrnod wedyn. Disgwylir clywed beth oedd achos ei farwolaeth.
  • Arestiwyd dyn am drosedd rywiol ac aethpwyd ag ef i’r ddalfa. Cynhaliwyd asesiad risg a phenderfynwyd y dylid cadw golwg ar y dyn bob 30 munud. Yn fuan wedyn, cafodd y dyn ei weld gan weithiwr gofal iechyd proffesiynol ac aseswyd ei fod yn ffit i’w gadw a’i gyfweld. Y diwrnod wedyn, yn ystod archwiliad rheolaidd, daeth staff y ddalfa o hyd i’r dyn yn gorwedd ar ei gefn ar lawr y gell gyda phwll o waed o’i amgylch. Rhoddodd staff y ddalfa gymorth meddygol i’r dyn hyd nes y cyrhaeddodd y parafeddygon. Aethpwyd â’r dyn i’r ysbyty, lle bu farw y diwrnod wedyn. Disgwylir clywed beth oedd achos ei farwolaeth.
  • Arestiwyd dyn am ymosod ar rywun. Nodwyd bod y dyn yn feddw a bod ganddo anafiadau hunanachosedig. Aethpwyd â’r dyn i’r ysbyty a chafodd ei arestio ymhellach am droseddau yn erbyn y drefn gyhoeddus. Yn ddiweddarach y noson honno, rhyddhawyd y dyn o’r ysbyty ac aethpwyd ag ef i’r ddalfa, lle cadwyd golwg arno a lle cafodd ei ddihuno bob 30 munud gan ei fod yn feddw. Ar ôl dwyawr, newidiodd lefel arsylwi’r dyn. Parhawyd i gadw golwg arno bob 30 munud, ond nid oedd yn rhaid ei ddihuno mwyach. Tra roedd y dyn yn y ddalfa, cafodd ei weld gan weithiwr gofal iechyd proffesiynol sawl gwaith. Gwyddys fod y dyn yn ddibynnol ar alcohol a rhoddwyd meddyginiaeth iddo ar un achlysur. Oddeutu 30 awr ar ôl i’r dyn gyrraedd y ddalfa, aeth rhingyll y ddalfa i’r gell a daeth o hyd i’r dyn yn anymatebol. Defnyddiwyd diffibriliwr a rhoddodd staff y ddalfa adfywio cardiopwlmonaidd i’r dyn hyd nes y cyrhaeddodd ambiwlans. Cymerodd y parafeddygon yr awenau ac aethpwyd â’r dyn i’r ysbyty, lle bu farw dri diwrnod yn ddiweddarach. Achos ei farwolaeth oedd 1a) Anaf hypocsig-ischaemig i’r ymennydd 1b) Ataliad y galon 1c) Ffit diddyfnu alcohol.

Cafodd chwech o bobl eu cymryd yn sâl ym man yr arestio. Cafodd pedwar o bobl eu cludo i’r ysbyty, lle buon nhw farw’n ddiweddarach. Bu farw dau o bobl yn y fan a’r lle.

  • Cafodd dyn ei stopio gan swyddogion yr heddlu ar amheuaeth o gyflawni trosedd traffig ffyrdd. Gofynnwyd iddo roi sampl anadl, ac ar sail y sampl hwnnw gwelwyd ei fod wedi cymryd cyffuriau. Arestiwyd y dyn gan yr heddlu, fe’i rhoddwyd mewn cyffion dwylo a chafodd ei hebrwng at gerbyd yr heddlu. Tra roedd y dyn yn sefyll wrth ymyl cerbyd yr heddlu, yn disgwyl cael ei roi yn y cerbyd, plygodd y swyddog i mewn i gefn y cerbyd. Yr adeg honno, rhedodd y dyn i lôn â thraffig a chafodd ei daro gan gerbyd arall. Rhoddodd y swyddogion adfywio cardiopwlmonaidd i’r dyn. Cyrhaeddodd parafeddygon gan gymryd yr awenau gyda gofal y dyn, cyn cyhoeddi ei fod wedi marw. Achos ei farwolaeth oedd 1a: Anaf i’w ben. 1b: Gwrthdrawiad traffig ffyrdd (cerddwr).
  • Cafodd yr heddlu adroddiadau bod dyn yn ymddwyn mewn modd ymosodol. Ar ôl i’r swyddogion gyrraedd, arestiwyd y dyn am ymosodiad cyffredin. Cafodd y dyn ei ddal yn ôl ar ei orwedd ar fatres gan y swyddogion a rhoddwyd cyffion am ei ddwylo, y tu ôl i’w gefn. Dywedodd y swyddogion eu bod yn credu bod y dyn yn dioddef Cynnwrf Ymddygiadol Acíwt. Daeth ychwaneg o swyddogion i gynnig help llaw a galwyd am ambiwlans. Tra’n disgwyl am yr ambiwlans, parhaodd yr heddlu i ddal y dyn yn ôl, a chafodd ei symud yn achlysurol ar ei ochr.  Cyrhaeddodd y gwasanaeth ambiwlans a chytunodd yr heddlu a’r parafeddygon y dylid cario’r dyn allan o’r adeilad i’r ambiwlans. Yr adeg honno, rhoddwyd atalwyr coesau am y dyn. Rai munudau’n ddiweddarach, gwelwyd bod y dyn yn anymatebol a rhoddodd y parafeddygon adfywio cardiopwlmonaidd iddo yn yr ambiwlans. Aethpwyd ag ef i’r ysbyty a bu farw’n fuan ar ôl cyrraedd. Disgwylir clywed beth oedd achos ei farwolaeth.
  • Cysylltwyd â’r heddlu oherwydd pryder ynglŷn â lles dyn. Yn ôl log yr heddlu, roedd yr heddlu’n chwilio am y dyn gan ei fod wedi cyflawni ymosodiad cyffredin. Aeth yr heddlu at y dyn. Yn y log digwyddiadau, cofnodwyd bod y dyn fel pe bai’n dioddef pwl iechyd meddwl a dywedodd y dyn ei fod wedi cymryd cyffuriau. Arestiwyd y dyn a chafodd ei ddal yn ôl ar y llawr. Fe’i rhoddwyd yng nghefn y fan er mwyn ei gludo i’r ysbyty. Yn ystod y daith, gwelwyd ei fod yn taro gwahanol rannau o’i gorff yn erbyn y fan. Stopiwyd y fan gan yr heddlu er mwyn iddynt allu rhoi atalwyr coesau am y dyn. Ar ôl cyrraedd yr ysbyty, rhoddwyd cwfl poeri am y dyn. Parhaodd yr heddlu i ddal y dyn yn ôl hyd nes y tawelodd, ac yna gwaethygodd cyflwr y dyn. Gadawodd y swyddogion yr ystafell a rhoddwyd y dyn mewn coma ysgogedig, Bu farw 12 diwrnod yn ddiweddarach. Disgwylir clywed beth oedd achos ei farwolaeth.
  • Cafodd yr heddlu eu galw i adroddiad bod dyn yn sefyll ar ochr anghywir y rheiliau ar bont dros ffordd A. Pan oedd y dyn ar ochr iawn y rheiliau, cafodd ei gadw o dan Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005. Rhoddwyd cyffion am ddwylo’r dyn, y tu ôl i’w gefn, a gafaelodd y swyddogion yn ei fraich a’i hebrwng i gefn fan yr heddlu, gan ei osod ar ei eistedd gyda’r drysau cefn ar agor. Dywedodd y dyn ei fod yn anghyfforddus a bod y cyffion yn rhy dynn. Tynnodd un o’r swyddogion y cyffion ac eisteddodd y dyn ar y fainc yn y cawell yng nghefn fan yr heddlu. Yn fuan wedyn, aeth y dyn allan o’r fan ac fe’i gwelwyd yn rhedeg ac yn neidio dros reiliau’r bont ar y ffordd islaw. Rhoddodd y swyddogion adfywio cardiopwlmonaidd i’r dyn a galwyd ar feddyg, ond bu farw yn y fan a’r lle. Achos ei farwolaeth oedd 1a) Anafiadau trawma grym pŵl i’r frest.
  • Ymatebodd yr heddlu i adroddiad bod dyn mewn gofid mewn archfarchnad. Ar ôl i’r heddlu gyrraedd, darganfu’r swyddogion bod y dyn yn cael ei ddal yn ôl ar y ddaear gan ddau swyddog diogelwch. Arestiwyd y dyn am drosedd yn erbyn y drefn gyhoeddus a rhoddwyd cyffion am ei ddwylo, y tu ôl i’w gefn. Yn ôl log y digwyddiad, roedd y swyddogion yn amau bod y dyn yn dioddef cynnwrf ymddygiadol acíwt, a gofynnwyd am ambiwlans. Ar ôl oddeutu 20 munud, gwnaed galwad arall i’r gwasanaeth ambiwlans, a dywedwyd bod y dyn yn chwysu a’i fod yn cael anhawster i anadlu. Cyrhaeddodd y parafeddygon, gan ofyn a fyddai modd symud y cyffion i’r tu blaen. Dywedodd y parafeddygon fod Cynnwrf Ymddygiadol Acíwt yn ‘debygol’, felly aethpwyd â’r dyn i’r ysbyty yng nghwmni’r swyddogion. Yn ddiweddarach, dirywiodd ei gyflwr a bu farw y noson honno. Disgwylir clywed beth oedd achos ei farwolaeth.
  • Ymatebodd yr heddlu i adroddiadau bod dyn mewn stryd breswyl fel pe bai’n dioddef pwl iechyd meddwl. Roedd y dyn wedi mynd i mewn i adeiladau ar y ffordd. Daeth yr heddlu o hyd i’r dyn, fe’i tynnwyd i lawr ar y ddaear a chafodd ei ddal yn ôl. Ar y cychwyn, arestiwyd y dyn am fyrgleriaeth. Cyrhaeddodd mwy o swyddogion yr heddlu,  rhoddwyd y dyn ar ei gefn a rhoddwyd cyffion dwylo ac atalwyr coesau amdano. Dywedodd y swyddogion eu bod o’r farn y gallai’r dyn fod yn dioddef cynnwrf ymddygiadol aciwt. Mae’r cyfarpar fideo a gâi ei wisgo gan y swyddogion yn dangos bod y swyddogion wedi gwneud ymdrech gyson i roi’r dyn ar ei ochr a’i gefn, a’u bod wedi rhoi bag cymorth cyntaf o dan ei ben. Ymdrechodd y swyddogion sawl gwaith i gael gafael ar ambiwlans. Cyrhaeddodd ambiwlans ac aethpwyd â’r dyn i’r ysbyty, lle bu farw rai dyddiau’n ddiweddarach. Nid yw achos ei farwolaeth ar gael ar hyn o bryd.

Bu farw un plentyn wrth ei gludo i’r ddalfa yn un o gerbydau’r heddlu.

  • Cafodd merch ei harestio am ymosod ar rywun ac am gyflawni difrod troseddol. Fe’i rhoddwyd yng nghefn cerbyd heddlu wedi’i farcio, ar ochr y teithiwr, a rhoddwyd cyffion am ei dwylo, o’i blaen. Roedd un o swyddogion yr heddlu’n eistedd wrth ei hymyl. Tra roedd ar y ffordd i’r ddalfa, llwyddodd y plentyn i dynnu’r cyffion oddi am ei dwylo. Dringodd i sedd y teithiwr yn nhu blaen y cerbyd, llwyddodd i agor y drws ac aeth allan o’r car tra roedd yn symud. Rhedodd y ferch ar draws y ffordd a chafodd ei tharo gan gerbyd a oedd yn cael ei yrru gan aelod o’r cyhoedd, ar ochr arall y gerbytffordd. Bu farw’r plentyn yn y fan a'r lle. Disgwylir clywed beth oedd achos y farwolaeth.

Aeth un dyn yn sâl wrth gael ei ddal gan Lu’r Ffiniau.

  • Cafodd dyn ei arestio mewn maes awyr gan swyddogion Llu’r Ffiniau ar amheuaeth o allforio cyffur a reolir. Cynhaliwyd profion ar becyn a oedd yn ei feddiant a gwelwyd mai cocên oedd y sylwedd o dan sylw. Gwnaed trefniadau i’r dyn fynd i’r ysbyty i gael pelydr X. Tra roedd yn cael ei ddal yn y maes awyr, cyn cael ei gludo i’r ysbyty, dywedodd y dyn ei fod yn teimlo’n sâl. Yna, datgelodd y dyn ei fod wedi cuddio pecynnau oddi mewn i’w gorff. Yn fuan wedyn, dirywiodd cyflwr y dyn a galwyd am barafeddygon. Cyrhaeddodd y parafeddygon a gofynasant i’r heddlu eu cynorthwyo gan fod y dyn wedi dechrau cael ffit. Defnyddiwyd diffibriliwr a dyfais fecanyddol ar gyfer cywasgu’r frest. Aethpwyd â’r dyn i’r ysbyty a datganwyd ei fod wedi marw yn fuan ar ôl cyrraedd. Disgwylir clywed beth oedd achos ei farwolaeth.

Bu farw un dyn ar ôl iddo gael ei ryddhau o ddalfa’r heddlu.

•    Cafodd swyddogion yr heddlu eu galw i adroddiad am ymosodiad mewn tŷ. Cyrhaeddodd y swyddogion y cyfeiriad ac arestiwyd dyn. Wrth i’r swyddogion geisio rhoi cyffion am ddwylo’r dyn, yn ôl y sôn dechreuodd y dyn eu gwrthwynebu a thynnwyd ef i lawr ar y ddaear. Wrth iddo gael ei arestio, cafodd y dyn anafiadau i’w wyneb. Aethpwyd ag ef i’r ysbyty a chadarnhawyd ei fod wedi torri ei ysgwydd. Cafodd ei ryddhau o’r ysbyty’n ddiweddarach y noson honno ac aethpwyd ag ef yn ôl i’r ddalfa gan yr heddlu. Y diwrnod wedyn, cafodd y dyn ei ryddhau o’r ddalfa. Dri diwrnod ar ôl iddo gael ei ryddhau o’r ddalfa, daethpwyd o hyd i’r dyn yn farw yn ei gartref. Disgwylir clywed beth oedd achos ei farwolaeth.

Ar hyn o bryd, nid oes modd cadarnhau a wnaeth yr anafiadau a gafodd wrth iddo gael ei arestio achosi marwolaeth y dyn, neu gyfrannu at ei farwolaeth. Mae’r heddlu’n cynnal ymchwiliad lleol i’r achos hwn.
 

 

Tueddiadau

Rhwng 2004/05 a 2008/09, roedd gostyngiad blwyddyn ar flwyddyn yn y nifer o farwolaethau yn nalfa’r heddlu neu ar ôl hynny. Gostyngodd y marwolaethau hyn o 36 yn 2004/05 i 15 marwolaeth yn 2008/09. Dros y ddwy flynedd nesaf, cynyddodd y nifer o farwolaethau yn y ddalfa i 21 yn 2010/11, cyn gostwng eto i 15 yn 2011/12 a 2012/13. Roedd gostyngiad ychwanegol yn 2013/14 i 11.

Yn 2014/15, cododd y nifer i 18 ac yna gostyngodd ac arhosodd yn sefydlog ar 14 yn 2015/16 a 2016/17. Yn 2017/18, roedd 23 marwolaeth, y nifer uchaf a gofnodwyd am ddeng mlynedd.

Syrthiodd y nifer hon i 17 marwolaeth yn 2018/19 a chynyddodd ychydig i 18 yn 2019/20. Yn 2020/21 cynyddodd y nifer ychydig i 19, syrthiodd yn nodedig i 11 yn 2021/22, cyn mwy na dyblu i 23 yn 2022/23. Cafwyd cynnydd bach arall yn 2023/24, i 25 marwolaeth. Y flwyddyn hon, gostyngodd nifer y marwolaethau yn nalfa’r heddlu neu ar ôl hynny i 17. Mae’r nifer o farwolaethau ar gyfartaledd yn nalfa’r heddlu neu ar ôl hynny ers i ystadegau ddechrau yn 2004/05 yn 19. Gellir gweld y tueddiadau hyn yn y graff yn ffigur 2.1 ar dudalen 9, ac yn y data cyfres amser sydd ar gael ar ein gwefan.

Y flwyddyn hon, ni fu farw neb ar ôl gwneud ymdrech ymddangosiadol i ladd ei hun tra mewn ystafell ddalfa’r heddlu. Roedd y digwyddiad olaf o’r math hwn yn 2023/24. Cyn hynny, roedd un digwyddiad yn 2016/17, un yn 2014/15 ac un yn 2008/09. Ers 2004/05, mae’n hysbys fod wyth o bobl wedi marw o ganlyniad i weithredoedd wedi’u hunan gyflawni tra mewn cell heddlu.

Y flwyddyn hon, cafodd tri o bobl eu cyhoeddi’n farw mewn cell heddlu, un yn llai nag yn 2022/23, a’r un nifer ag a gafwyd yn 2022/23, 2021/22 a 2020/21. Yn 2019/20, bu farw un unigolyn mewn cell heddlu. Yn 2018/19, ni fu farw neb mewn cell heddlu. Yn 2017/18 roedd tair marwolaeth o’r fath.
 

Yn ôl i'r brig.

 


6. Hunanladdidau ymddangosiadol yn dilyn dalfa'r heddlu 

Mae hunanladdiadau ymddangosiadol yn dilyn amser yn nalfa’r heddlu yn cael eu cynnwys yn yr ystadegau hyn os ydynt yn digwydd o fewn dau ddiwrnod o ryddhau’r unigolyn o’r ddalfa. Maen nhw hefyd yn cael eu cynnwys os gall profiadau yn y ddalfa fod wedi bod yn berthnasol, a chafodd y farwolaeth ei hatgyfeirio at IOPC. Efallai na ddywedir wrth yr heddlu am hunanladdiad ymddangosiadol sy’n digwydd ar ôl amser yn y ddalfa gan na all y cysylltiad fod yn eglur. Felly, gall fod mwy o farwolaethau yn yr amgylchiadau hyn nag sy’n cael eu hadrodd yma.

Nid yw’r term ‘hunanladdiad’ o reidrwydd yn ymwneud â dyfarniad crwner. Mae dyfarniadau yn dal i’w disgwyl yn y rhan fwyaf o achosion. Rydym yn cynnwys yr achosion hyn ar ôl ystyried natur y farwolaeth ac a yw’r amgylchiadau yn awgrymu ei fod yn weithred fwriadol, hunangyflawnedig. Er enghraifft, crogi, neu lle roedd rhywfaint o dystiolaeth o ‘synio am hunanladdiad’, fel nodyn hunanladdiad.
 

Demograffeg

Roedd 60 o hunanladdiadau ymddangosiadol yn dilyn dalfa’r heddlu yn 2024/25 – 56 o ddynion a phedair menyw. Oedran cyfartalog y rheini a fu farw oedd 43 oed. Yr oedran mwyaf cyffredin oedd rhwng 21 a 30 oed (14 o bobl), wedi’i ddilyn gan 41 i 50 oed (13 o bobl). Roedd yr unigolyn ieuengaf yn 16 oed. Roedd pum deg saith o’r rheini a fu farw yn Wyn, roedd dau o bobl yn Asiaidd ac roedd un unigolyn o ethnigrwydd cymysg.

Roedd gan chwe deg dau y cant o’r bobl (37) bryderon iechyd meddwl hysbys. O’r rhain, roedd un wedi cael ei gadw o dan Adran 136 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983. Roedd pryderon iechyd meddwl eraill yn cynnwys iselder, seicosis, sgitsoffrenia, rhithdyb paranoid, anhwylder personoliaeth ffiniol, gorbryder, meddyliau blaenorol am hunanladdiad neu wedi ceisio cyflawni hunanladdiad o’r blaen, a hunan-niweidio.

Adroddwyd bod bron i hanner y bobl (28) yn feddw â chyffuriau a/neu alcohol ar adeg eu harestio, neu fod cyffuriau a/neu alcohol yn bresennol yn drwm yn eu ffordd o fyw. Cafwyd tair ar hugain o farwolaethau yn ymwneud ag alcohol a thair ar ddeg yn ymwneud â chyffuriau.
 

Amgylchiadau marwolaeth

Digwyddodd deuddeg hunanladdiad ymddangosiadol ar yr un diwrnod ag y cafodd yr unigolyn ei ryddhau o ddalfa’r heddlu. Digwyddodd naw ar hugain un diwrnod ar ôl rhyddhau, a digwyddodd 19 ddau ddiwrnod ar ôl rhyddhau.

Mae tabl 6.1 yn dangos pam y cafodd y bobl hyn eu rhoi yn y ddalfa gan yr heddlu. Roedd tri deg wyth un o’r rheini a fu farw wedi cael eu harestio am drosedd rywiol. O’r rhain, roedd 27 yn berthynol i droseddau rhywiol neu ddelweddau aflednais yn ymwneud â phlant. Roedd deg am droseddau yn ymwneud â thrais. Rhesymau cyffredin eraill oedd ymddygiad bygythiol ac aflonyddu (9), troseddau gyrru (4), difrod troseddol (2), a methiant i ymddangos mewn llys / torri gorchymyn llys (2).

Tabl 6.1 Marwolaethau ymddangosiadol yn dilyn dalfa’r heddlu: rheswm dros gadw, 2024/25

Rheswm dros gadwNifer o drefniadau cadw
Troseddau rhywiol38
Yn ymwneud â thrais (heb fod yn rhywiol neu lofruddiaeth)10
Ymddygiad bygythiol/aflonyddu
 
9
Troseddau gyrru (gan gynnwys gyrru dan ddylanwad diod/cyffuriau)4
Difrod troseddol2
Methiant i ymddangos mewn llys / torri gorchymyn llys2
Meddiant o arf1
Lladrad/byrgleriaeth1
Yn ymwneud â chyffuriau/diod1
Deddf Iechyd Meddwl 19831
Twyll1
Ymgais i lofruddio1
Cyfanswm nifer y rhesymau dros gadw71
Cyfanswm y marwolaethau60

Mae’r tabl yn cyfrif y nifer o resymau gwahanol dros gadw. Gall pob unigolyn fod wedi’u cadw am un neu fwy o resymau.

Cafodd un ar ddeg o bobl eu cadw am resymau lluosog. Mae hyn yn cymharu â 18 y llynedd. Ymdriniwyd â’r holl hunanladdiadau ymddangosiadol yn dilyn dalfa’r heddlu yn lleol gan y llu heddlu dan sylw.

Trends

Mae’r nifer o hunanladdiadau ymddangosiadol yn dilyn amser yn nalfa’r heddlu yn is na’r 68 a gofnodwyd yn 2023/24. Mae hyn yn unol â’r cyfartaledd o 60 a gofnodwyd dros y cyfnod 11 mlynedd ers 2014/15. Mae adrodd am y marwolaethau hyn yn dibynnu ar heddluoedd yn gwneud y cysylltiad rhwng hunanladdiad ymddangosiadol rhywun a’i gadw yn y ddalfa yn ddiweddar. Gall codiadau neu ostyngiadau yn y marwolaethau hyn, felly, gael eu dylanwadu gan adnabod ac atgyfeirio’r fath achosion.

Y flwyddyn hon, ar gyfer 63% o farwolaethau, roedd y rheswm dros gadw yn ymwneud â throseddau rhywiol honedig. Y gyfran o droseddau rhywiol neu ddelweddau aflednais yn ymwneud â phlant oedd 45%. Mae’r cyfrannau hyn yn uwch na’r ffigurau a gofnodwyd y llynedd (46% a 38% yn eu tro) ac yn uwch na ffigurau ar gyfartaledd. Y cyfrannau ar gyfartaledd ar gyfer y troseddau honedig hyn ers 2004/05 yw 37% a 30% yn eu tro.
 

 

Yn ôl i'r brig.


7. Marwolaethau eraill yn dilyn cysylltiad ar heddlu: ymchwiliadau annibynnol yn unig

Yn 2010/11, cafodd newid ei wneud i ddiffiniad y categori hwn. Mae’n cynnwys nawr y marwolaethau hynny yn dilyn cysylltiad â’r heddlu a ymchwiliwyd yn annibynnol gan IOPC, sef IPCC yn flaenorol.

Yn ystod 2014/15, dechreuodd IPCC gyfnod arwyddocaol o newid ac ehangu mewn ymateb i gyhoeddiad yr Ysgrifennydd Cartref ar y pryd y dylai fod mwy o ymchwiliadau annibynnol i mewn i faterion difrifol a sensitif. Cafodd hyn effaith uniongyrchol ar y nifer o farwolaethau y gwnaethom eu cofnodi yn y categori ‘marwolaethau eraill yn dilyn cysylltiad â’r heddlu’ oherwydd bod cynnwys y math hwn o achos yn yr adroddiad blynyddol yn seiliedig arnynt yn cael eu hymchwilio’n annibynnol.

Nid yw unrhyw gynnydd na gostyngiad yn y categori hwn, felly, o reidrwydd yn dangos newid yn y nifer o bobl sydd wedi marw yn dilyn rhyw fath o gysylltiad â’r heddlu.

 

Demograffeg gyffredinol

Fe wnaethom ymchwilio’n annibynnol i farwolaethau 50 o bobl a fu farw yn ystod cysylltiad arall â’r heddlu neu ar ôl hynny yn ystod 2024/25. O’r marwolaethau hynny:
 

  • Roedd 33 yn ddynion ac 17 yn fenywod.
  • Roedd 44 o’r bobl yn Wyn, dau yn Ddu a phump yn Asiaidd.
  • Roedd tri o bobl o dan 18 oed, ac roedd 10 o bobl yn oedolion ifanc rhwng 18 a 30 oed. Roedd tri o bobl dros 60. Yr oedran ar gyfartaledd oedd 39 oed.
  • Roedd ychydig o dan hanner (29) y rhai a fu farw yn feddw gan gyffuriau a/neu alcohol ar adeg y digwyddiad, neu roedd cyffuriau a/neu alcohol yn nodwedd amlwg yn eu ffordd o fyw. Roedd gan gyfran debyg o’r bobl a fu farw (32) bryderon iechyd meddwl.

     

Tabl 7.1 Marwolaethau eraill yn dilyn cysylltiad â’r heddlu: rheswm dros gysylltiad, 2024/25

Reason for contactNumber of fatalities
Pryder am lesYn ymwneud â’r cartref16
Hunan-niweidio/risg hunanladdiad/iechyd meddwl13
Iechyd/anafiadau/meddwi/cyffredinol10
Ymddygiad bygythiol/aflonyddu3
Unigolyn coll2
Is-gyfanswm44
Other 
contact
Cynorthwyo staff meddygol2
Mynychu helynt2
Gweithredu gwarant chwilio / arestio / cynnal ymholiadau ymchwilio 1
Gwarchae1
Is-gyfanswm6
Cyfanswm y marwolaethau50

 

Amgylchiadau marwolaeth

Mae’r amgylchiadau a gofnodir yn y categori hwn yn cynnwys amrediad o amgylchiadau. Gall cysylltiad yr heddlu beidio â bod yn uniongyrchol â’r unigolyn a fu farw, ond â thrydydd parti, fel y gwelwyd yn rhai o enghreifftiau’r achosion. Lle rydym wedi cynnwys achos y farwolaeth, cymerir hyn o adroddiad y patholegydd yn dilyn archwiliad post-mortem.

Mewn lleiafrif o achosion, gall archwiliad post-mortem beidio â chael ei gyflawni. Yn y sefyllfa hon, mae achos y farwolaeth yn cael ei gymryd o gofnodion y meddyg a ardystiodd y farwolaeth. Bydd achos y farwolaeth yn cael ei gofnodi fel ‘i’w ddisgwyl’ os yw’n cael ei herio ar adeg y dadansoddi.

Y rheswm mwyaf cyffredin dros gysylltu â’r heddlu oedd pryder am les, fel y dangoswyd yn Nhabl 7.1. Bu farw pum deg pedwar o bobl ar ôl i bryderon gael eu codi â’r heddlu, naill ai’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, am eu diogelwch neu eu lles cyn eu marwolaeth. Cafodd chwe marwolaeth ychwanegol eu cofnodi ar gyfer mathau eraill o gysylltiad â’r heddlu.

Yn achos saith o bobl a fu farw yn dilyn cysylltiad â’r heddlu, cafodd grym ei  ddefnyddio yn eu herbyn. Roedd y saith yn bobl yn Wyn.

Cafodd pump eu hatal gan swyddogion heddlu neu gan aelodau’r cyhoedd. O’r marwolaethau hyn:
 

  • Cafodd pedwar o bobl eu hatal yn gorfforol gan yr heddlu a defnyddiwyd atalwyr coesau gan yr heddlu ar un unigolyn.
  • Cafodd tri o bobl eu hatal gan rywrai nad oeddynt yn swyddogion yr heddlu (roedd a wnelo un achos ag atal unigolyn yn gorfforol gan swyddogion carchar, roedd a wnelo achos arall ag atal unigolyn yn gorfforol gan swyddogion diogelwch ac roedd a wnelo achos arall â defnyddio atalwyr coesau gan barafeddygon).
  • Roedd a wnelo tri achos â defnyddio cyfarpar arall. Mewn un achos, defnyddiwyd cwfl poeri, mewn achos arall defnyddiwyd atalwyr coesau ac mewn achos arall defnyddiwyd atalwyr coesau ac atalwyr ar draws y corff.
  • Mewn un farwolaeth, defnyddiwyd ci heddlu, ac mewn digwyddiad arall defnyddiodd swyddogion yr heddlu ganisters nwy CS a grenedau stynio.

Nid yw hyn yn golygu bod y grym a ddefnyddiwyd, o angenrheidrwydd, wedi cyfrannu at y farwolaeth.
 

Concern for welfare

O’r 44 marwolaeth a ddilynodd gysylltiad â’r heddlu oherwydd pryder am les, roedd deg o’r marwolaethau’n ymwneud ag iechyd, anafiadau posibl, meddwdod, neu lesiant cyffredinol yr unigolyn. Cysylltodd trydydd parti â’r heddlu i fynegi pryder yn y mwyafrif o’r achosion. Yn y categori hwn:

Roedd yr holl bobl yn ddynion.

Roedd naw yn Wyn ac roedd un yn Asiaidd.

  • Yr oedrannau mwyaf cyffredin oedd 31 i 40, gyda thri o bobl yn y grŵp oedran hwn. Yr oedran ar gyfartaledd oedd 47 oed.
  • Adroddwyd bod mwy na thri chwarter (8) y rhai a fu farw o dan ddylanwad alcohol a/neu gyffuriau ar adeg y digwyddiad, neu ei fod yn nodwedd amlwg yn eu ffordd o fyw.
  • ‘Damwain’ oedd y ffurf fwyaf cyffredin o ddosbarthu marwolaethau (pedwar o bobl). Digwyddodd tair marwolaeth oherwydd ‘achosion naturiol’, digwyddodd un o ganlyniad i ‘orddos damweiniol’, ac ni wyddys beth yw dosbarthiad dwy farwolaeth ar hyn o bryd.

 

Roedd dau ddigwyddiad yn ymwneud â defnydd grym:

  • Galwyd swyddogion yr heddlu oherwydd pryder ynglŷn â lles dyn yn dilyn helynt yn y stryd. Daeth yr heddlu o hyd i’r dyn ar y ddaear yng ngardd ffrynt rhyw dŷ. Symudodd y swyddogion y dyn a rhoddwyd cyffion dwylo amdano, ac am gyfnod byr defnyddiodd swyddogion yr heddlu eu dwylo i ddal y dyn ar y ddaear mewn ymgais i’w atal rhag gwneud niwed iddo’i hun. Galwyd am ambiwlans a dywedodd y swyddogion eu bod yn amau bod y dyn o dan ddylanwad cyffuriau, a’i fod yn dioddef Cynnwrf Ymddygiadol Acíwt. Rhoddwyd y dyn yn yr ystum adfer gan y swyddogion, a’r adeg honno sylwodd y swyddogion fod y dyn yn anymatebol. Tynnodd y swyddogion y cyffion dwylo a rhoddwyd adfywio cardiopwlmonaidd iddo. Cyrhaeddodd y parafeddygon ac aethant ati i roi triniaeth feddygol i’r dyn, ond bu farw yn y fan a’r lle. Disgwylir clywed beth oedd achos ei farwolaeth.
     
  • Cafodd dyn a oedd wedi bod yn teithio mewn cerbyd ei stopio a’i chwilio gan swyddogion yr heddlu, gan eu bod o’r farn fod cyffuriau wedi’u cuddio ar ei gorff. Roedd y swyddogion yn credu bod y dyn yn cuddio rhywbeth yn ei geg, felly gofynnwyd iddo boeri beth bynnag a oedd yn ei geg. Gafaelodd un o’r swyddogion yng ngwddf y dyn, mewn ymgais i’w atal rhag llyncu’r hyn a oedd yn ei geg. Rhoddwyd cyffion dwylo am y dyn a chafodd ei atal yn gorfforol gan y swyddogion. Hefyd, trawodd un swyddog ei gefn. Aethpwyd â’r dyn i orsaf yr heddlu er mwyn gallu ei noeth-chwilio. Ar y ffordd i’r orsaf, dywedodd y dyn wrth yr heddlu ei fod wedi llyncu papur lapio gwag a arferai gynnwys cyffuriau, ar ôl iddo gymryd y cyffuriau. Ni ddaeth y noeth-chwiliad o hyd i unrhyw gyffuriau a rhyddhawyd y dyn. Yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw, aeth y dyn yn sâl ac aethpwyd ag ef i’r ysbyty, lle bu farw. Achos ei farwolaeth oedd 1(a) Gwenwyndra cocên.

Roedd tair marwolaeth ar ddeg yn ymwneud â phryder am risg unigolyn o hunan-niweidio, risg o hunanladdiad, neu ei iechyd meddwl. Yn y fath achosion, nid yw’r unigolyn yn cael ei adrodd na’i ystyried ar goll – codir y pryderon fel arfer â’r heddlu gan drydydd parti, am unigolyn â phryderon iechyd meddwl hysbys. Er enghraifft, gall yr unigolyn fod wedi methu â mynychu apwyntiad neu wiriad lles, neu efallai ei fod wedi dangos arwyddion o fod mewn perygl o hunan-niweidio neu hunanladdiad. O’r rhain:

Roedd deg o bobl yn ddynion a thair yn fenywod.

Roedd deuddeg yn Wyn ac roedd un yn Asiaidd:

  • Amrywiai oedrannau’r bobl o 16 i 58. Yr oedrannau mwyaf cyffredin oedd 31 i 40 (pedwar o bobl). Yr oedran ar gyfartaledd oedd 37.
  • Marwolaeth trwy ddull hunangyflawnedig oedd y dosbarthiad mwyaf cyffredin (deg o bobl).
  • Adroddwyd bod deg o bobl yn feddw ar gyffuriau a/neu alcohol ar adeg y digwyddiad, neu fod cyffuriau a/neu alcohol yn nodwedd amlwg yn eu ffordd o fyw.
     

Roedd un digwyddiad yn ymwneud â defnydd grym:

  • Galwyd yr heddlu gan fod dyn yn achosi difrod mewn gwesty. Hefyd, roedd y dyn wedi dweud ei fod am gyflawni hunanladdiad. Gadawodd y dyn y gwesty, a chafodd yr heddlu alwad arall gan aelod o’r cyhoedd ynglŷn â’i les. Ceisiodd y dyn fynd i mewn i far a chafodd ymrafael corfforol gyda swyddogion diogelwch. Cafodd y dyn ei atal a’i roi ar y llawr gan y swyddogion diogelwch ac yna gan swyddogion yr heddlu, a gyrhaeddodd tra roedd y dyn yn cael ei atal. Rhoddodd swyddogion yr heddlu gyffion dwylo a chwfl poeri am y dyn. Cyrhaeddodd parafeddygon, ac ar sail pryderon am les y dyn, rhoddwyd adfywio cardiopwlmonaidd iddo gan yr heddlu a staff yr ambiwlans. Aethpwyd â’r dyn i’r ysbyty, lle bu farw ychydig dros bythefnos yn ddiweddarach. Disgwylir clywed beth oedd achos ei farwolaeth.
     

Roedd un ar bymtheg o’r marwolaethau yn rhai domestig. Mae hyn yn golygu bod yr heddlu wedi ymateb i ddigwyddiad domestig, neu fod amgylchiadau’r cysylltiad wedi ymwneud â hanes o drais domestig, neu fygythiadau a wnaed yn erbyn yr ymadawedig a/neu aelodau’r teulu. Yn y categori hwn:  

  • Roedd un deg tri o’r bobl a fu farw yn fenywod ac roedd tri yn ddynion.
  • Roedd un ar ddeg o’r bobl yn Wyn, roedd dau yn Ddu ac roedd tri yn Asiaidd.
  • Yr oedran ar gyfartaledd oedd 39 oed. Roedd y person ieuengaf yn 19 a’r hynaf yn 76.
  • Cafodd y marwolaethau eu dosbarthu fel llofruddiaeth honedig mewn 12 achos. Roedd pedair marwolaeth yn hunan-gyflawnedig.
     

Bu farw tri o bobl yn dilyn pryder am ymddygiad bygythiol. Mae’r digwyddiadau hyn yn cynnwys ymddygiad bygythiol neu aflonyddu ymhlith pobl mewn sefyllfaoedd annomestig, megis rhwng cymdogion neu ddieithriaid. Yn y categori hwn:

Roedd dau o bobl yn ddynion. Roedd un yn fenyw.

  • Roedd tri o bobl yn Wyn.
  • Llofruddiaeth honedig oedd y tri dosbarthiad marwolaeth.
     

Yn achos dau o’r bobl a fu farw, cofnodwyd eu bod ar goll

  • Roedd y ddau y cofnodwyd eu bod ar goll o dan 18 oed.
  • Dynion oedd y ddau, ac roedd y ddau yn Wyn.
  • Gwyddys fod risg benodol o gyflawni hunanladdiad neu hunan-niwed yn berthnasol i un ohonynt.
     

Cysylltiad arall

Digwyddodd y chwe marwolaeth a gofnodwyd fel mathau eraill o gysylltiad yn yr amgylchiadau canlynol.

Bu farw dau o bobl ar ôl cysylltiad â swyddogion yr heddlu a oedd yn cynorthwyo staff meddygol:

  • Cafodd yr heddlu alwad argyfwng gan weithiwr gofal iechyd proffesiynol yn gofyn am gymorth gyda charcharor a oedd, yn ôl pob sôn, yn ymosod ar staff yr ysbyty a staff y carchar ar ôl cael ei gludo i’r ysbyty. Ar ôl i swyddogion yr heddlu gyrraedd yr ysbyty, gwelwyd bod tri swyddog carchar yn atal y dyn ar y llawr. Yna, rhoddodd swyddogion yr heddlu atalwyr coesau am y dyn. Yn fuan wedyn, gwelwyd bod y dyn yn anymatebol. Rhoddodd staff meddygol adfywio cariopwlmonaidd i’r dyn a thynnwyd y cyffion dwylo a’r atalwyr coesau. Cyhoeddwyd yn fuan wedyn bod y dyn wedi marw. Disgwylir clywed beth oedd achos ei farwolaeth.
  • Cafodd yr heddlu alwad gan y gwasanaeth ambiwlans yn gofyn am gymorth gan fod dyn yn cael “pwl seicotig” a chan ei fod wedi “ymosod ar griw’r ambiwlans”. Ar ôl i’r swyddogion gyrraedd, aethant ati i gynorthwyo criw’r ambiwlans trwy ddal breichiau, arddyrnau a migyrnau’r dyn tra roedd y parafeddygon yn rhoi sylw iddo. Rhoddodd y parafeddygon atalwyr coesau am y dyn, ynghyd ag atalwyr ar draws ei gorff. Yna, ymddengys fod y dyn wedi caei ffit, a sylwodd criw’r ambiwlans fod y dyn yn dioddef cynnwrf ymddygiadol acíwt. Gollyngodd y swyddogion eu gafael yn y dyn. Yn fuan wedyn, cyhoeddodd un o’r parafeddygon fod y dyn yn cael ataliad y galon. Fe’i rhoddwyd yn yr ambiwlans, lle ceisiodd y parafeddygon ei ddadebru. Ond cyhoeddwyd bod y dyn wedi marw. Achos ei farwolaeth oedd Gwenwyndra cocên.

Bu farw dau o bobl ar ôl i swyddogion yr heddlu fynychu adroddiad am aflonyddwch:

  • Galwyd yr heddlu i adroddiad yn ymwneud â digwyddiad yn erbyn y drefn gyhoeddus – sef criw o bobl yn ymladd yn y stryd. Ar ôl i’r swyddogion gyrraedd, aethant i mewn i dŷ a oedd yn cynnwys llawer o bobl. Anfonwyd y bobl o’r tŷ gan y swyddogion. Y tu allan i’r tŷ, rhoddodd dyn wybod i’r heddlu fod dyn arall wedi ymosod arno, a llwyddodd i enwi’r dyn hwnnw. Nid aeth yr heddlu ati i arestio’r dyn a enwyd. Oddeutu dwyawr yn ddiweddarach, cafodd yr heddlu adroddiad am ddigwyddiad yn ymwneud â’r dyn a oedd wedi honni ei fod wedi dioddef ymosodiad, a dyn arall, a oedd wedi bod yn y tŷ pan fynychwyd y digwyddiad gan yr heddlu. Bu farw un o’r dynion yn fuan wedyn. Disgwylir clywed beth oedd achos ei farwolaeth.
  • Cafodd yr heddlu alwad ddienw i fynychu cyfeiriad preswyl lle roedd dyn wedi bod yn gweiddi “ffoniwch yr heddlu”. Siaradodd un o swyddogion yr heddlu gyda’r dyn y tu allan i’r adeilad. Dywedodd ei fod yn byw yn y cyfeiriad, ond gwrthododd adael i’r heddlu fynd i mewn. Ychydig dros dair wythnos yn ddiweddarach, cafodd yr heddlu wybodaeth ddienw am gorff marw yn yr un cyfeiriad. Roedd yr wybodaeth yn awgrymu bod y dyn wedi cael ei lofruddio oddeutu pythefnos neu dair wythnos yn gynharach. Gwnaed ymholiadau, ond ni lwyddodd yr heddlu i ddod o hyd i’r corff. Arestiwyd nifer o bobl, yn cynnwys y dyn a oedd yn byw yn y cyfeiriad yr ymwelodd yr heddlu ag ef ar y cychwyn. Yn fuan ar ôl i’r bobl gael eu harestio, daethpwyd o hyd i gorff dyn.

Bu farw un dyn ar ôl cysylltiad â’r heddlu oedd yn cynnal ymholiadau ymchwiliad:

  • Penderfynodd swyddogion ar batrôl stopio cerbyd gan eu bod o’r farn bod y cerbyd yn cynnwys dyn yr oedd yr heddlu’n chwilio amdano. Ar ôl i’r swyddogion fynd at y car, gafaelodd y dyn mewn potel wydr, tarodd hi yn erbyn y dangosfwrdd sawl gwaith, ac aeth ati i daro ei ben gyda’r botel dro ar ôl tro. Ceisiodd yr heddlu agor drws y teithiwr, ond roedd wedi’i gloi. Dywedwyd wrth y dyn am ollwng y botel, ond pan fethodd â chydymffurfio anfonwyd ci heddlu i’r car. Cafodd y dyn ei frathu gan y ci yng ngwaelod ei gefn, ar yr ochr dde. Tynnwyd y dyn o’r cerbyd gan y swyddogion, rhoddwyd cyffion dwylo amdano, a gofynnwyd am ambiwlans ar gyfer y dyn oherwydd yr anafiadau i’w wyneb a’i ben a hefyd gan fod y ci wedi’i frathu. Dirywiodd cyflwr y dyn yn gyflym, a dywedodd y dyn wrth y swyddogion ei fod wedi cymryd llawer o gyffuriau. Cyrhaeddodd y parafeddygon, fe wnaethant gymryd yr awenau o ran gofal meddygol y dyn ac fe’i cludwyd i’r ysbyty. Tra roedd yn yr ambiwlans, dioddefodd y dyn ataliad y galon a rhoddwyd adfywio cardiopwlmonaidd iddo. Bu farw’r dyn yn fuan ar ôl cyrraedd yr ysbyty. Achos ei farwolaeth oedd 1a) Gwenwyndra cocên.

 

Bu farw un person mewn un digwyddiad yn ystod sefyllfa o warchae gyda’r heddlu:

  • Galwyd swyddogion yr heddlu i gyfeiriad yn dilyn digwyddiad domestig. Ar ôl iddynt gyrraedd, nid oedd y dyn yn fodlon gadael i’r swyddogion fynd i mewn i’r adeilad. Yn ôl y sôn, roedd gan y dyn arf tanio ac roedd wedi bygwth gwneud niwed iddo’i hun. Anfonwyd swyddogion arfog a thrafodwyr yr heddlu i leoliad y digwyddiad. Ar ôl siarad am sawl awr gyda’r trafodwyr, penderfynodd y dyn roi’r gorau i ymhél â nhw. Defnyddiodd y swyddogion rym i fynd i mewn i’r adeilad. Taniodd swyddog arfog ddwy getrisen nwy CS i’r tŷ o’r tu allan. Wrth i swyddogion arfog ychwanegol fynd i mewn i’r adeilad, taflwyd grenâd stynio gan o leiaf ddau swyddog. Ni thaniwyd arfau tanio confensiynol yr heddlu yn ystod y digwyddiad. Daethpwyd o hyd i’r dyn y tu mewn i’r tŷ ac roedd hi’n ymddangos fel pe bai ganddo glwyf ergyd gwn yn ei ben, ac roedd arf tanio (nid un o arfau tanio’r heddlu) wrth ei ymyl. Rhoddwyd cymorth cyntaf di-oed i’r dyn ac aethpwyd ag ef i’r ysbyty, lle bu farw yn ddiweddarach. Disgwylir clywed beth oedd achos ei farwolaeth.

Trends

Yn 2010/11, cafodd newid ei wneud i ddiffiniad y categori hwn. Mae’n cynnwys nawr y marwolaethau hynny yn dilyn cysylltiad arall â’r heddlu a ymchwiliwyd yn annibynnol gan IOPC, sef IPCC yn flaenorol. Mae’r nifer o achosion a gofnodwyd yn y categori hwn yn uniongyrchol gysylltiedig â’r nifer o achosion a gafodd eu hymchwilio’n annibynnol. Ni fyddai’n ystyrlon i ddarparu unrhyw ddadansoddiad o duedd ar gyfer y categori hwn. Mae’r marwolaethau a gynhwysir yn y categori hwn yn digwydd mewn amrediad o amgylchiadau, sy’n ei gwneud yn anodd adnabod set benodol o ddigwyddiadau sy’n cyfrif am newidiadau yn y nifer o farwolaethau. Roedd y gyfran gyffredinol o achosion yn ymwneud â phryder am les yn cyfrif am 88% o’r marwolaethau ar ôl cysylltiad â’r heddlu a gafodd eu hymchwilio’n annibynnol – cyfran is nag yn 2023/24.

Yn ystod 2024/25, roedd 32% o’r marwolaethau a oedd yn dilyn cysylltiad â’r heddlu yn achosion domestig. Mae trais yn erbyn menywod a merched yn faes thematig cyfredol i IOPC. Efallai y bydd hyn yn arwain at gynnydd yn nifer y mathau hyn o ymchwiliadau a/neu efallai y bydd ymchwiliadau o’r fath yn cyfateb i gyfran fwy o’r marwolaethau ‘cysylltiad arall’ yr ymchwilir iddynt yn annibynnol gan IOPC.

Yn ôl i'r brig.

 


8. Nodyn Cefndir

  1. O dan Ddeddf Diwygio’r Heddlu 2002, mae gan luoedd yn Lloegr a Chymru ddyletswydd statudol i gyfeirio at IOPC yr holl farwolaethau yn ystod neu’n dilyn cysylltiad â’r heddlu lle mae honiad neu awgrym y cyfrannodd cysylltiad yr heddlu, yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, at y farwolaeth. Rydym yn ystyried amgylchiadau’r holl atgyfeiriadau ac yn penderfynu a yw ymchwiliad yn angenrheidiol
  2. Ers Ebrill 2006, mae IOPC, sef IPCC yn flaenorol, hefyd wedi derbyn atgyfeiriadau gorfodol ar gyfer achosion lle mae rhywun wedi marw yn ystod neu ar ôl cysylltiad â’r canlynol:

Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi a adnabyddir fel CThEF (Rheoliad 34 o Reoliadau Cyllid a Thollau (Cwynion a Chamymddwyn) 2005).

Yr Awdurdod Meistri Gangiau a Chamddefnyddio Llafur a adnabyddir fel y GLAA (Rheoliad 36  o Reoliadau’r Awdurdod Meistri Gangiau a Chamddefnyddio Llafur (Cwynion a Chamymddwyn) 2017).

Yr Asiantaeth Troseddau Cyfundrefnol Difrifol (a ddisodlwyd yn ddiweddarach gan yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol). Ers Hydref 2013, rydym hefyd wedi derbyn atgyfeiriadau gorfodol oddi wrth yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol (NCA). Hyd at Fawrth 2013, fe wnaethom dderbyn achosion oddi wrth Asiantaeth Ffiniau’r DU (UKBA) (Rheoliad 25 o Reoliadau Asiantaeth Ffiniau’r DU (Cwynion a Chamymddwyn) 2010). Ar yr adeg hon cafodd statws asiantaeth weithredol UKBA ei ddwyn i ben. Cafodd ei swyddogaethau eu dwyn yn ôl i’r Swyddfa Gartref fel Fisâu a Mewnfudo y DU (UKVI); Gorfodaeth Mewnfudo y DU (UKIE); a Llu Ffiniau’r DU (UKBF). Mae IOPC yn parhau i fod ag awdurdodaeth dros y swyddogion a’r contractwyr hyn.

Ers 1 Mai 2024, rydym wedi cael atgyfeiriadau gorfodol gan y Comisiwn Annibynnol ar gyfer Cysoni ac Adfer Gwybodaeth (ICRIR). O’r herwydd, mae’r adroddiad hwn yn cynnwys marwolaethau a ddigwyddodd yn ystod neu’n dilyn cysylltiad â staff yr holl sefydliadau hyn.

  1. Cymerodd IOPC le’r IPCC yn Ionawr 2018. Cafodd y newid hwn ei amlinellu yn Neddf Plismona a Throseddu Act 2017.
  2. Ers 1 Mai 2025, rydym wedi cael atgyfeiriadau gorfodol gan yr Uned Genedlaethol Troseddau Bwyd o fewn yr Asiantaeth Safonau Bwyd (Rheoliadau Swyddogion Troseddau Bwyd (Cwynion a Chamymddwyn) 2025). Estynnwyd cylch gwaith IOPC ar ôl y cyfnod a ystyrir yn yr adroddiad hwn, ond bydd adroddiadau’r dyfodol yn cynnwys unrhyw farwolaethau a ddigwyddodd yn ystod neu’n dilyn cysylltiad â staff y sefydliad hwn.
     

Newidiadau a diwygiadau

  1. Yn 2010/11, cafodd newid ei wneud i’r diffiniad o’r ‘marwolaethau eraill yn dilyn cysylltiad â’r heddlu’. Mae’n cynnwys nawr y marwolaethau hynny yn dilyn cysylltiad â’r heddlu a ymchwiliwyd yn annibynnol gan IOPC (neu’n flaenorol gan IPCC). O ganlyniad, rydym wedi newid yr ymagwedd at sut mae’r categori hwn yn cael ei gyflwyno yn yr adroddiad hwn. Gallwch ddysgu mwy yn ein dogfen ganllaw. Nid oes newidiadau eraill wedi cael eu gwneud i ddiffiniadau’r categorïau marwolaeth.
  2. Yn 2007, cyhoeddodd IPCC nodyn cyngor gweithredol i fynd i’r afael ag anghysonderau yn y dull o atgyfeirio ‘hunanladdiadau ymddangosiadol yn dilyn rhyddhau o ddalfa’r heddlu’. Gofynnwyd i luoedd atgyfeirio unrhyw hunanladdiadau o fewn dau ddiwrnod o ryddhau o ddalfa’r heddlu, neu hunanladdiadau ymddangosiadol a ddigwyddodd fwy na dau ddiwrnod ar ôl rhyddhau, ond lle roedd cysylltiad posibl rhwng yr amser a dreuliodd y bobl yn y ddalfa a’u marwolaeth.
  3. Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno’r set fwyaf diweddar o ffigurau ar gyfer pob categori marwolaeth. Yn y cyhoeddiad hwn, mae pump o farwolaethau wedi cael eu hychwanegu at ffigurau’r flwyddyn flaenorol. Mae’r addasiadau canlynol wedi cael eu gwneud i ffigurau’r duedd:

    Ar gyfer 2023/24, mae un farwolaeth wedi cael ei hychwanegu at y ffigur ‘marwolaethau tra yn nalfa’r heddlu neu ar ôl hynny’ ac mae dwy o farwolaethau wedi cael eu hychwanegu at y ffigur ‘marwolaethau eraill yn ystod neu yn dilyn cysylltiad â’r heddlu. 

    Ar gyfer 2021/22, mae dwy o farwolaethau wedi cael eu hychwanegu at y ffigur ‘marwolaethau eraill yn ystod neu’n dilyn cysylltiad â’r heddlu’.

    Mae’r rhain yn achosion nad oeddynt yn destun ymchwiliad annibynnol neu na chawsant eu hatgyfeirio atom pan gafodd yr adroddiad ar gyfer y flwyddyn ariannol honno ei ryddhau. Yn unol â’n polisi diwygiadau, yn yr enghreifftiau hyn ni chafodd y ffigurau ar gyfer yr adroddiad blynyddol cyhoeddedig eu diwygio.

  4. Mae Tabl 6.1 yn amlinellu’r rhesymau dros gadw yn achos hunanladdiadau ymddangosiadol yn dilyn dalfa’r heddlu. Mewn blynyddoedd blaenorol, dangosodd y tabl hwn y nifer o farwolaethau gyda throednodiadau i amlygu lle roedd rhesymau ychwanegol dros gadw. Oherwydd y swm uchel o farwolaethau â rhesymau lluosog dros gadw yn 2024/25, y ffigurau a ddangosir yn Nhabl 6.1 yw cyfanswm y rhesymau gwahanol dros gadw. Rydym wedi cymryd yr ymagwedd hon ers ein hadroddiad 2018/19.
     

Dulliau a diffiniadau

  1. 9. Gweler ein dogfen ganllaw am ddiffiniadau manylach ac am wybodaeth am sut mae’r achosion marwolaeth yn cael eu categoreiddio a’u cofnodi. Mae’r ddogfen hon hefyd yn darparu awgrymiadau ar gyfer darllen ychwanegol.

Polisïau a datganiadau

  1. Rydym yn cynhyrchu nifer o bolisïau a datganiadau mewn cysylltiad â’r adroddiad hwn. Mae’r rhain ar gael ar ein gwefan. Maen nhw’n cynnwys gwybodaeth am:
  • gyfrinachedd a diogelwch data
  • datganiad o ffynonellau gweinyddol
  • polisïau diwygiadau
  • cyhoeddi newidiadau i ddulliau
  • sicrwydd ansawdd
  • mynediad cyn rhyddhau
  • strategaeth ymgysylltu â defnyddwyr
  • polisi prisio
     

Defnyddwyr, defnyddiau ac ymgysylltu

  1. Gellir canfod gwybodaeth am ddefnyddwyr allweddol y data a gynhwysir yn yr adroddiad hwn, a sut y mae’n cael ei ddefnyddio, yn y ddogfen adborth ymgysylltu â defnyddwyr. Mae’n crynhoi hefyd unrhyw adborth a dderbyniwyd ar yr adroddiad marwolaethau blynyddol, ein hymateb iddo, ac unrhyw effaith ar naill ai’r wybodaeth a gynhwysir yn yr adroddiad neu’r broses casglu data.
  2. Mae’r adroddiad hwn yn darparu data a gwybodaeth am faes pwnc sensitif iawn. Mae’n cael ei ddefnyddio i hyrwyddo a llunio dadl a thrafodaeth ymhlith heddluoedd a rhanddeiliaid eraill a phartïon â diddordeb. Mae’n darparu cyfle i ddefnyddwyr ddysgu o’r achosion sy’n ymddangos yn yr adroddiad ac adnabod, gweithredu, a/neu adolygu polisi i helpu i atal marwolaethau o’r fath rhag digwydd eto lle’n bosibl.
  3. Rydym hefyd yn cynhyrchu astudiaethau manwl a chyhoeddiadau dysgu i gynorthwyo dysgu.
  4. Dylai defnyddwyr yr ystadegau hyn gymryd gofal wrth edrych ar gyfres amser y data. Gall fod diffyg dilyniant yn sgil newidiadau mewn diffiniad categori a natur amrywiol amgylchiadau’r achosion. Mae’r niferoedd bach dan sylw hefyd yn golygu y dylai darllenwyr fod yn ofalus wrth dynnu casgliadau o ddadansoddiad tuedd gan y gall amrywiadau fod yn fawr.

    Rydym yn gwneud pob ymdrech i sicrhau bod yr holl farwolaethau perthnasol yn cael eu cynnwys yn yr adroddiad hwn trwy ymarfer dilysu helaeth gyda chydweithwyr mewnol a lluoedd heddlu. Fodd bynnag, ar adegau, gall achos ddod i’r amlwg ar ôl i’r adroddiad gael ei gyhoeddi. Darllenwch ein polisïau diwygiedig am wybodaeth am sut rydym yn rheoli diwygiadau a gwallau arferol i ddata a gyhoeddwyd.

    Tra gellir gwneud cymariaethau â gwledydd ac awdurdodaethau eraill, mae angen cymryd gofal, oherwydd mae’r data yn annhebygol o fod yn uniongyrchol gymaradwy. Mae hyn oherwydd gwahaniaethau mewn dosbarthiadau marwolaeth, neu sut mae manylion eraill wedi cael casglu.

  5. Canfyddir y strategaeth ymgysylltu â defnyddwyr yn adran wyth y ddogfen polisïau a datganiadau.

 

Gwybodaeth Ychwanegol

  1. Mae ein holl adroddiadau blynyddol ar farwolaethau yn nalfa’r heddlu neu ar ôl hynny ar gael ar ein gwefan.
  2. Mae fersiynau electronig o’r tablau yn yr adroddiad hwn ar gael ar ein gwefan. Yn ogystal, mae tablau cyfres amser ar gael. Mae’r rhain yn edrych ar ethnigrwydd, oedran, a rhyw y bobl a fu farw, a’r lluoedd dan sylw. Mae’r tablau cyfres amser wedi’u trefnu fesul categori marwolaeth, o 2004/05 hyd at y flwyddyn adrodd bresennol.
  3. Yn ogystal â’n hadroddiadau blynyddol ar farwolaethau, rydym hefyd yn cyhoeddi astudiaethau ymchwil sy’n archwilio rhai o’r materion sy’n gysylltiedig â’r achosion hyn yn fanylach. Mae’r astudiaethau hyn ar gael ar dudalennau ymchwil a gwybodaeth ein gwefan.
  4. Yn dilyn argymhelliad gan yr Ystadegydd Cenedlaethol yn 2012, cafodd yr adroddiad blynyddol hwn ei asesu gan Awdurdod Ystadegau’r DU a rhoddwyd dynodiad Ystadegau Cenedlaethol iddo.
  5. Anfonwch e-bost i [email protected] os oes gennych unrhyw gwestiynau neu sylwadau am ein hadroddiadau marwolaeth blynyddol.
  6. Y dyddiad cyhoeddi tybiedig ar gyfer ein hadroddiad nesaf, a fydd yn cwmpasu data 2025/26, yw haf 2026.

 

Yn ôl i'r brig.

 


9. Diolchiadu

Arweiniodd Rachael Toon a Melanie O’Connor gynhyrchu a dadansoddi’r adroddiad hwn, gyda chymorth gan Jonathon Shaw yn y tîm ymchwil yn Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC). Diolchwn i gydweithwyr IOPC a helpodd i gasglu a gwirio’r wybodaeth yn yr adroddiad hwn neu i gynorthwyo ei ryddhau. Hoffem ddiolch hefyd i swyddogion a staff mewn heddluoedd ledled Lloegr a Chymru a ddarparodd wybodaeth ac a ymatebodd i’n hymholiadau.

Manylion cyswllt

E-bostiwch [email protected] os oes gennych unrhyw gwestiynau neu sylwadau am yr adroddiad hwn. 

Ystadegau cenedlaethol

Mae Awdurdod Ystadegau’r DU wedi dynodi'r ystadegau hyn yn Ystadegau Gwladol, yn unol â Deddf Ystadegau a Gwasanaeth Cofrestru 2007. Pan ddynodir ystadegau yn Ystadegau Gwladol mae’n ofyniad statudol fod y Cod Ymarfer yn cael ei ddilyn.

Mae’r dynodiad hwn yn golygu bod yr ystadegau:

  • yn ateb anghenion a adnabyddir i ddefnyddwyr
  • wedi cael eu hesbonio’n dda ac yn hwylus i’w cyrchu
  • yn cael eu cynhyrchu yn unol â dulliau cadarn
  • yn cael eu rheoli’n ddiduedd ac yn wrthrychol er budd y cyhoedd
     

Yn ôl i'r brig.

 


10. Atodiad A: tablau ychwanegol

Tabl A1 - Digwyddiadau fesul math o farwolaeth a blwyddyn ariannol, 2014/15 i 2024/25

Digwyddiadau
 Blwyddyn ariannol
Categori14/1515/1616/1717/1818/1919/2020/2121/2222/2323/2424/25
Digwyddiadau traffig ffyrdd1320282733242033262925
Saethiadau marwol13623312322
Marwolaethau tra yn nalfa’r heddlu neu ar ôl hynny18141423171819112325~17
Hunanladdiadau ymddangosiadol yn dilyn y ddalfa^7161565763545557546860
Marwolaethau eraill yn dilyn cysylltiad â’r heddlu*43103**12817215110496106~8660~48

^ Nodyn cyngor gweithredol a gyhoeddwyd yn 2007 ar atgyfeirio’r marwolaethau hyn.

* Newid mewn diffiniad o ‘farwolaethau eraill yn dilyn cysylltiad’ yn 2010/11 i gynnwys achosion sy’n ddarostyngedig i ymchwiliad annibynnol yn unig.

** Ehangu ein hadnoddau ymchwiliol a’n gallu i gynnal ymchwiliadau mwy annibynnol i faterion difrifol a sensitif – mae hyn yn cael effaith uniongyrchol ar nifer y marwolaethau ‘cysylltiad arall’ yr adroddir amdanynt.

~ Mae’r tabl hwn yn cyflwyno’r set ddiweddaraf o ffigurau ar gyfer y categorïau hyn; nodir unrhyw ychwanegiadau at ddata a gyhoeddwyd yn flaenorol.
 

Tabl A2 - Math o farwolaeth fesul rhyw, 2024/25

RhywDigwyddiad traffig fforddSaethiadau marwolMarwolaethau yn nalfa’r heddlu neu ar ôl hynnyHunanladdiadau ymddangosiadol yn dilyn dalfa’r heddluMarwolaethau eraill yn dilyn cysylltiad â’r heddlu*
Gwrywaidd202145633
Benywaidd603417
Cyfanswm y marwolaethau262176050

* Mae'r categori hwn yn cynnwys achosion sy’n ddarostyngedig i ymchwiliad annibynnol yn unig.

 

Tabl A3 -  Math o farwolaeth fesul grŵp oedran, 2024/25

Grŵp oedranDigwyddiad traffig fforddSaethiadau marwolMarwolaethau yn nalfa’r heddlu neu ar ôl hynnyHunanladdiadau ymddangosiadol yn dilyn dalfa'r heddluMarwolaethau eraill yn dilyn cysylltiad â’r heddlu*
O dan 18 oed40113
18 - 2050012
21 - 30512148
31 - 402151215
41 - 502051311
51 - 60400108
61 a throsodd40493
Cyfanswm y marwolaethau262176050

* Mae’r categori hwn yn cynnwys achosion sy’n ddarostyngedig i ymchwiliad annibynnol yn unig.

 

Tabl A4 - Math o farwolaeth fesul ethnigrwydd, 2024/25

Grŵp ethnigrwyddDigwyddiadau traffig fforddSaethiadau marwolMarwolaethau yn nalfa’r heddlu neu ar ôl hynnyHunanladdiadau ymddangosiadol yn dilyn dalfa’r heddluMarwolaethau eraill yn dilyn cysylltiad â’r heddlu
Gwyn171155743
Du31202
Asiaidd^50025
Cymysg10010
Arall00000
Anhysbys00000
Cyfanswm y marwolaethau262176050

* Mae’r categori hwn yn cynnwys achosion sy’n ddarostyngedig i ymchwiliad annibynnol yn unig.

^ Yn dilyn newidiadau i ddosbarthiad ethnigrwydd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol, ers 2015/16 mae’r grŵp ethnig Asiaidd yn awr yn cynnwys Tsieineaidd. Roedd hyn yn cael ei gofnodi'n flaenorol fel y grŵp ethnig ‘Arall’.

 

Tabl A5 - Math o farwolaeth fesul awdurdod priodol, 2024/25

Awdurdod priodol**Digwyddiad traffig fforddSaethiadau marwolMarwolaethau yn nalfa’r heddlu neu ar ôl hynnyHunanladdiadau ymddangosiadol yn dilyn dalfa’r heddluMarwolaethau eraill yn dilyn cysylltiad â’r heddlu
Avon a Gwlad yr Haf10111
Swydd Bedford10000
Swydd Gaergrawnt00010
Swydd Gaer00010
Dinas Llundain00000
Cleveland00000
Cumbria10000
Swydd Derby00010
Dyfnaint a Chernyw00041
Dorset00021
Durham00000
Dyfed-Powys00110
Essex00102
Swydd Gaerloyw00030
Manceinion Fwyaf20012
Gwent00011
Hampshire10032
Swydd Hertford00001
Glannau Humber00011
Caint10111
Swydd Gaerhirfryn00023
Swydd Gaerlŷr00001
Swydd Lincoln00020
Glannau Mersi00213
Metropolitan50224
Norfolk00012
Gogledd Cymru10120
Gogledd Swydd Efrog10013
Swydd Northampton00021
Northumbria10030
Swydd Nottingham00101
De Cymru00023
De Swydd Efrog10022
Swydd Stafford10102
Suffolk00040
Surrey01122
Sussex00042
Dyffryn Tafwys00010
Swydd Warwick20000
Gorllewin Mersia01010
Gorllewin Canolbarth Lloegr40042
Gorllewin Swydd Efrog20212
Wiltshire00121
Heddlu Gwent a Heddlu De Cymru10000
Heddlu Gorllewin Swydd Efrog a Heddlu Manceinion Fwyaf00001
Heddlu Essex a Suffolk00001
Heddlu De Cymru a Swydd Stafford00001
Heddlu Swydd Gaerlŷr a Heddlu Swydd Warwick00100
Yr Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig00000
Y Swyddfa Gartref ~00100
Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi00000
Y Weinyddiaeth Amddiffyn00000
Yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol00000
Total fatalities262176050

* Mae’r categori hwn yn cynnwys achosion sy’n ddarostyngedig i ymchwiliad annibynnol yn unig.


~ Mae hyn yn cynnwys UKBF, UKIE ac UKVI.


** Mae’r rhan fwyaf o achosion yn ymwneud ag un awdurdod priodol; lle mae dau dan sylw, dangosir y rhain yn y tabl ar linell ar wahân i’r prif gyfrifon ar gyfer yr awdurdodau priodol hynny.
 

I gael rhagor o wybodaeth am ein gwaith neu i ofyn am yr adroddiad hwn mewn fformat arall, gallwch gysylltu â ni mewn nifer o ffyrdd:

Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu
10 South Colonnade
Canary Wharf
Llundain
E14 4PU
Ffôn: 030 0020 0096 
E-bost: [email protected] Gwefan: www.policeconduct.gov.uk
Neges destun: 18001 020 8104 1220

Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn y Gymraeg


Gorffennaf 2025
ISBN 978-1-7394778-4-4
 

 

Yn ôl i'r brig.