Ymchwiliad yn parhau i gamau gweithredu'r heddlu cyn marwolaethau dau fachgen yn eu harddegau yn Nhrelái

Published: 13 Jun 2023
News

Mae ymchwiliad Swyddfa Annibynnol Ymddygiade yr Heddlu (IOPC) i ryngweithio'r heddlu a dau fachgen yn eu harddegau cyn eu marwolaethau yn Nhrelái, Caerdydd, wedi symud yn ei flaen.

Fel rhan o’n hymchwiliad, rydym wedi cyflwyno hysbysiadau camymddwyn difrifol i ddau heddwas, y gyrrwr a’r teithiwr mewn fan heddlu wedi’i farcio, a welwyd ar fideo CCTV yn gyrru y tu ôl i feic trydan y bechgyn ychydig amser cyn y gwrthdrawiad angheuol ar 22 Mai. Mae hysbysiadau o'r fath yn hysbysu swyddogion bod ymchwiliad yn cael ei gynnal i'w hymddygiad. Nid ydynt o reidrwydd yn golygu y bydd unrhyw gamau disgyblu yn dilyn.

Dechreuodd ein hymchwiliad fis diwethaf yn dilyn atgyfeiriad gan Heddlu De Cymru, ar ôl i luniau CCTV perthnasol ddod i’r amlwg.

Mae ymchwilwyr yn adolygu cannoedd o glipiau fideo yr ydym wedi'u casglu o ganlyniad i'n hymholiadau o dŷ i dŷ a dosbarthu taflenni yn ardal Trelái. Er mwyn sicrhau ein bod yn nodi ac yn sicrhau tystiolaeth berthnasol, rydym wedi dilyn ymholiadau ac wedi cymryd datganiadau gan rai trigolion lleol. Rydym hefyd wedi sefydlu byrddau apêl tystion ar strydoedd perthnasol. Yn ogystal â'r trywyddau ymholi hyn, rydym wedi adolygu adroddiadau cychwynnol a fideo a wisgir ar y corff gan swyddogion heddlu a staff perthnasol.

Rydym mewn cysylltiad rheolaidd â theuluoedd Kyrees Sullivan a Harvey Evans, a gollodd eu bywydau yn anffodus, i roi’r wybodaeth ddiweddaraf iddynt am gynnydd ein hymchwiliad.

Mae ein hymchwiliad yn parhau i ganolbwyntio ar natur y rhyngweithio rhwng yr heddlu a’r ddau fachgen cyn y gwrthdrawiad a phriodoldeb penderfyniadau a gweithredoedd y swyddogion. Yn benodol, rydym yn archwilio os oedd penderfyniadau a gweithredoedd y swyddogion yng ngherbyd yr heddlu ar unrhyw adeg yn gyfystyr ag erlid. Mae Heddlu De Cymru wedi parhau i gydweithredu â’n hymchwiliad.

Cyfarwyddwr yr IOPC David Ford: “Dymunaf unwaith eto estyn fy nghydymdeimlad i deulu a ffrindiau Kyrees a Harvey, ac i bawb sydd wedi teimlo colled llawn effaith dau fywyd ifanc yn Nhrelái. Mae’r ymateb gan y gymuned wrth helpu ein hymchwilwyr wedi bod yn gadarnhaol iawn ac rwy’n eithriadol o ddiolchgar am y cymorth hwn. Rhag ofn bod pobl o hyd â gwybodaeth berthnasol nad ydym wedi siarad â nhw eto, rydym wedi gosod byrddau apêl tystion yng nghyffiniau'r digwyddiad. Byddem yn annog unrhyw un sy’n credu bod ganddynt wybodaeth ddefnyddiol i gysylltu â ni. Rydym hefyd wedi cyfarfod ag arweinwyr cymunedol lleol a swyddogion etholedig i egluro ein rôl a chylch gorchwyl ein hymchwiliad.

“Wrth i’n hymchwiliad barhau, hoffwn dawelu meddyliau pawb ein bod yn canolbwyntio ar sefydlu’n union beth ddigwyddodd yn y cyfnod cyn y digwyddiad trasig. Bydd ein gwaith yn parhau i fod yn ddiduedd ac yn gwbl annibynnol o'r heddlu.”

I'ch atgoffa, gall unrhyw un sydd â gwybodaeth neu fideo ffonio’r IOPC ar ein rhif llinell ddigwyddiadau: 0300 3030771 neu e-bostio: [email protected] 

Tags
  • Heddlu De Cymru
  • Marwolaeth ac anafiadau difrifol