Sylwadau Cyfarwyddwr Cyffredinol yr IOPC ar adroddiad Ystadegau Cwynion yr Heddlu 2021/22

Published: 17 Nov 2022
News

Heddiw, cyhoeddodd Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu ei hadroddiad blynyddol ‘Ystadegau Cwynion yr Heddlu’ ar gyfer Lloegr a Chymru 2021/22.

Wrth sôn am ffigurau eleni, dywedodd Cyfarwyddwr Cyffredinol yr IOPC, Michael Lockwood: “Dyma’r ail set o ystadegau cwynion blynyddol i’w cyhoeddi ers i newidiadau sylweddol gael eu gwneud i system gwynion yr heddlu ym mis Chwefror 2020.

“Maen nhw’n rhoi golwg ar gwynion heddlu yn Lloegr ac yng Nghymru – gan nodi maint a math y cwynion sy’n cael eu gwneud a sut mae heddluoedd yn delio â nhw.

“Mae’n bwysig bod yn ofalus wrth gymharu’r ffigurau o eleni â blynyddoedd blaenorol, gan fod yr ystadegau yn arbrofol, sy’n golygu eu bod yn dal yn y cyfnod profi a heb eu datblygu’n llawn eto.

“Er hynny, mae cynnydd sylweddol yn nifer y cwynion ers y llynedd sy’n dangos bod aelodau’r cyhoedd yn fwy parod i godi eu pryderon.

“Cynyddodd cyfanswm y cwynion gan 11%. Cynnydd sy’n debygol o fod yn gysylltiedig â symleiddio’r system ac ehangu diffiniad cwyn i “unrhyw fynegiant o anfodlonrwydd”.

“Roedd y math o gŵyn a gofnodwyd amlaf yn ymwneud â chyflawni dyletswyddau a gwasanaeth. Mae'r rhain yn aml yn ymwneud â chwynion am gyflenwi gwasanaethau megis diffyg diweddariadau neu oedi mewn ymatebion, yn hytrach na phryderon ynghylch camymddwyn yr heddlu.

“Yn y cyfamser, mae’r cynnydd yn nifer y cwynion sy’n cael eu datrys yn anffurfiol yn dangos bod mwy o gwynion yn cael eu datrys yn gyflym, fel y bwriadwyd gan y system newydd, gyda llai o gwynion yn arwain at ymchwiliadau maith. Mae hyn i'w groesawu. Mewn llawer o achosion mae'r rhain yn cael eu disodli gan ymatebion sy'n fwy cymesur gydag esboniadau ac ymddiheuriadau priodol. Mewn gwirionedd, dyblodd nifer yr achosion lle rhoddwyd esboniad neu ymddiheuriad i ddatrys cwyn.

"Bu cynnydd hefyd yn nifer y cwynion yr ymchwiliwyd iddynt a arweiniodd at weithrediadau camymddwyn (68 o gymharu â 18 y flwyddyn flaenorol), ond mae’r nifer yn parhau i fod yn gyfran isel iawn (llai nag 1%) o'r holl gwynion a gwblhawyd. Dim ond y cwynion hynny sy'n cael eu hasesu fel rhai sy'n destun triniaethau arbennig sydd â'r posibilrwydd o ddwyn achosion fel canlyniad posibl. O'r 33,602 o gwynion a gwblhawyd eleni, dim ond 451 oedd yn destun gweithdrefnau arbennig, sydd mewn gwirionedd yn golygu bod y 68 achos hynny yn cyfrif am 15% o achosion lle roedd canlyniad ar gael.

"Mae angen mwy o waith i wreiddio ffyrdd newydd o weithio yn llawn ym mhob heddlu er mwyn sicrhau bod y diwygiadau hyn yn darparu system gwynion sy’n hawdd i'w cyrchu, yn llai cymhleth ac yn canolbwyntio mwy ar ddatrysiad a dysgu.

“Byddwn yn parhau i weithio gyda heddluoedd ac eraill i wella’r data demograffig y maent yn casglu ar gyfer achwynwyr a’r rhai y cwynir amdanynt. Rydym yn gwybod fod gan bobl ifanc Ddu ac o gefndir Lleiafrifoedd Ethnig a phobl ifanc lai o hyder yn yr heddlu ac yn ystod y flwyddyn ddiwethaf gwelwyd digwyddiadau sydd wedi tanseilio'r hyder hwn ymhellach.

“Am y rheswm hwn, mae’n hanfodol bwysig bod mwy o ymdrechion yn cael eu gwneud i gasglu data ethnigrwydd fel ein bod yn deall pwy sy’n cwyno. Rydym wedi gweld gwelliannau ar draws nifer o heddluoedd ond nid yw'r newidiadau mor gyfan gwbl a roeddem wedi gobeithio gweld.

“Llynedd roeddwn yn bryderus mai ychydig iawn o achosion a arweiniodd at ddysgu i unigolion, neu’r heddluoedd dan sylw. Yn benodol, ychydig iawn a arweiniodd at ddefnyddio arfer myfyriol fel canlyniad. Eleni, mae nifer yr achosion a atgyfeiriwyd ar gyfer ymarfer myfyriol yn dal yn isel iawn (3%).

“Roedd cyflwyno’r broses adolygu ymarfer myfyriol (RPRP) yn ganolog i ddiwygio’r system gwynion. Mae'n broses a fwriedir i ddarparu amgylchedd i annog pawb sy'n gysylltiedig i fyfyrio, dysgu a, lle bod angen, unioni pethau i atal problemau rhag ddigwydd eto. Mae hyn yn rhywbeth roedd yr achwynwyr yn ei gefnogi'n gryf. Byddwn yn parhau i weithio gyda heddluoedd yn y maes hwn a chyn diwedd y flwyddyn galendr byddwn yn cyhoeddi rhifyn Canllaw Ffocws ar RPRP a fydd yn darparu enghreifftiau pellach i'w helpu i deimlo'n fwy hyderus wrth symud y broses yn ei flaen.

“Mae’n siomedig gweld mai dim gweithredu pellach yw’r canlyniad mwyaf cyffredin o hyd o gwynion a gofnodwyd yn ffurfiol, gan ein bod wedi cynnal gweithdai yn canolbwyntio ar hyn. Fodd bynnag, rydym wedi gweld gostyngiad sylweddol ac mewn llawer o achosion canfuom fod yr heddlu wedi cymryd camau ond eu bod wedi'u cofnodi'n anghywir fel dim camau pellach. Byddwn yn parhau i roi cyngor ar hyn ac yn gobeithio gweld gostyngiadau pellach y flwyddyn nesaf.”