Swyddogion Heddlu Gorllewin Mercia o dan ymchwiliad camymddwyn yn dilyn saethu marwol
Mae swyddogion o Heddlu Gorllewin Mercia, a arweiniodd y gweithrediad arfau tanio lle cafodd dyn ei saethu’n farwol, o dan ymchwiliad gan Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC) ynghylch cynllunio a rheoli’r ymgyrch.
Cafodd Marcus Meade, 39 oed ac o Redditch, ei saethu gan yr heddlu, yn dilyn sawl awr o drafodaethau, mewn llety yn Fownhope Close, ar Noswyl Nadolig, 2024. Roedd yr heddlu wedi cael eu galw i'r cyfeiriad tua 2pm ar ôl i bryderon gael eu codi am lesiant Mr Meade, a oedd â chyllell yn ei feddiant.
Tua 7.40pm, gorfododd nifer o swyddogion fynediad i'r llety gan ddefnyddio dyfeisiau tynnu sylw 'flashbang'. Cafodd tasesi eu defnyddio hefyd, a taniodd swyddog arfau tanio un ergyd, a darodd Mr Meade yn y frest. Darparodd swyddogion gymorth cyntaf, ond yn anffodus bu farw Mr Meade yn y fan a'r lle.
Y tri swyddog rydym wedi nodi am gamymddwyn posibl oedd yn rheoli cynllunio strategol a thactegol yr ymgyrch. Mae ein penderfyniad i ymchwilio i'w hymddygiad yn dod ar ôl ymgynghori ag arbenigwyr arfau tanio o’r Coleg Plismona a Heddlu Avon a Gwlad yr Haf. Bydd yr hysbysiadau camymddwyn yn cael eu hadolygu’n gyson ac nid ydynt o reidrwydd yn golygu bydd unrhyw gamau disgyblu yn dilyn.
Mae pob swyddog arfog arall a oedd yn rhan o'r ymgyrch, gan gynnwys y swyddog a saethodd Mr Meade, yn parhau i gael eu trin fel tystion. Nid oes unrhyw arwydd ar hyn o bryd eu bod wedi ymddwyn mewn modd a fyddai’n cyfiawnhau gweithdrefnau disgyblu neu wedi cyflawni trosedd.
Dywedodd Cyfarwyddwr IOPC, Derrick Campbell: “Mae ein cydymdeimlad yn parhau i fod gyda theulu a ffrindiau Marcus Meade, sydd wedi dioddef colled aruthrol. Rydyn ni'n gwybod eu bod nhw eisiau atebion ac rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau bod ein ymchwiliad yn drylwyr ac yn archwilio holl amgylchiadau'r digwyddiad trychinebus hwn.
“Yn ogystal ag ymchwilio i’r modd cafodd y gweithrediad ei gynllunio a’i reoli, byddwn hefyd yn archwilio os cafodd iechyd meddwl Mr Meade ei ystyried yn briodol, a allai hil Mr Meade fod wedi dylanwadu ar gamau gweithredu’r heddlu, ac i ba raddau y gallai adnoddau’r heddlu fod wedi bod yn ffactor wrth wneud penderfyniadau. Rydym yn parhau i ymchwilio i'r materion hyn gyda meddwl agored a bydd casgliadau ar y manylion hyn yn cael eu tynnu pan fydd ein holl ymholiadau wedi'u cwblhau.”
“Rydym wedi bod yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i deulu Mr Meade yn rheolaidd wrth i’n ymchwiliad fynd yn ei flaen ac mi fyddwn yn parhau i wneud hynny. Rydym hefyd wedi rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i Heddlu Gorllewin Mercia a’r crwner.”
Nodiadau i olygyddion
- Nid yw honiad o dorri safonau proffesiynol yr heddlu ar lefel camymddwyn mor ddifrifol â chamymddwyn difrifol ac mae'n ymwneud ag ymddygiad a allai, os caiff ei brofi, fod yn ddigon difrifol i gyfiawnhau camau disgyblu fel rhybudd ysgrifenedig terfynol. Ni fyddai'n arwain at sancsiwn diswyddo.