Panel Ieuenctid IOPC yn ysgogi newid yn y ffordd mae'r heddlu'n trin pobl ifanc yn y ddalfa

Published: 21 Jul 2026
News

Panel Ieuenctid IOPC yn ysgogi newid yn y ffordd mae'r heddlu'n trin pobl ifanc yn y ddalfa

Mae pobl ifanc ac oedolion ifanc ar Banel Ieuenctid Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu yn helpu i ysgogi gwelliannau yn y ffordd y mae'r heddlu'n delio â phobl ifanc yn y ddalfa.

Mae aelodau Panel Ieuenctid IOPC – sy’n cynnwys 42 o bobl ifanc rhwng 16 a 25 oed – wedi cyfarfod ag uwch swyddogion a grwpiau heddlu cenedlaethol ar gyfer digwyddiad bwrdd crwn a oedd yn canolbwyntio ar argymhelliad allweddol o’u maniffesto newydd.

Mae'r argymhelliad – un o 10 ym Maniffesto'r Panel dros Newid – yn galw ar yr heddlu i gyfleu'n glir i bobl ifanc fod ganddynt yr hawl i gwyno neu i roi adborth yn dilyn pob rhyngweithiad â'r heddlu. Ac mae'r Panel yn dweud bod hyn yn arbennig o bwysig pan fydd pobl ifanc wedi cael eu stopio a'u chwilio neu eu harestio.

Mae hyn yn dilyn ymchwil y Panel Ieuenctid llynedd a ffeindiodd mai dim ond traean (35 y cant) o bobl ifanc oedd yn gwybod sut i wneud cwyn am yr heddlu, ac mae pobl ifanc yn un o'r grwpiau lleiaf tebygol o gwyno am eu triniaeth gan yr heddlu.

Cyflwynodd aelodau’r panel eu canfyddiadau a’u hargymhellion i aelodau’r bwrdd crwn, gan gynnwys cynrychiolydd ar ran arweinydd Cyngor Cenedlaethol Prif Swyddogion yr Heddlu (NPCC) ar gyfer y ddalfa.

Ac mae wedi arwain at addewid gan yr NPCC i annog arweinwyr y ddalfa mewn heddluoedd i fabwysiadu'r argymhelliad trwy annog staff a swyddogion i sicrhau bod pobl ifanc yn y ddalfa yn cael gwybod sut y gallant roi adborth.

Dywedodd aelod o’r Panel Ieuenctid, Harriet Smith: “Yn y bwrdd crwn, fe wnaethon ni siarad am sut mae angen newid diwylliannol o ofni cyflwyno cwynion ac adborth i’w gofleidio fel cam cadarnhaol. Bydd hyn yn helpu i ddatblygu hyfforddiant ychwanegol ac yn dangos beth sydd ar goll o'r gefnogaeth sydd ar gael ar hyn o bryd. Dylai adborth wella gwasanaethau i bobl ifanc eraill a allai ddod i gysylltiad â'r heddlu. 

“Mae’n anhygoel clywed bod yr NPCC yn gwrando ar ein hargymhellion ac yn helpu i wella pethau i bobl ifanc eraill. Ni ellir gwneud gwaith sy'n cynnwys pobl ifanc oni bai eu bod yn clywed lleisiau pobl ifanc. Mae'r mantra “dim byd amdanaf i, hebof fi” yn rhywbeth rwy'n teimlo llawer o agerdd amdano. 

“Rwy’n credu mai dim ond dechrau’r newid yw hyn ac rwy’n edrych ymlaen at weld sut mae ein gwaith yn sbarduno newid ledled Cymru a Lloegr i bobl ifanc eraill fel fi.”

Canolbwyntiodd trafodaethau’r ford gron ar sut y gellid ymgorffori'r argymhelliad ar draws dalfeydd, stopio a chwilio, a chyfathrebu ehangach yr heddlu fel rhan o ddiwylliant sy'n gwerthfawrogi adborth, dysgu a thryloywder.

Arweiniodd hefyd at ymrwymiad ysgrifenedig gan y Gymdeithas Ymwelwyr Annibynnol â Dalfeydd (ICVA) i gefnogi'r argymhelliad. Ychwanegon nhw y byddai hysbysu plant a phobl ifanc yn rheolaidd am eu hawl i gwyno yn cryfhau goruchwyliaeth a chysondeb yn y ddalfa ar draws plismona ac yn rhoi maen prawf monitro clir i aseswyr ICVA.

Mae Panel Ieuenctid IOPC yn cynllunio mwy o ddigwyddiadau bwrdd crwn i gyflwyno ei argymhellion maniffesto i arweinwyr plismona.

Maent yn cynnwys:

  • mecanwaith newydd i ganiatáu i grwpiau cymunedol wneud cwyn ar ran grwpiau o bobl sydd â phrofiadau cyffredin.
  • gweithio gyda'r heddlu ac ysgolion i sicrhau bod pobl ifanc yn deall system gwynion yr heddlu yn well a sut i'w defnyddio.
  • a bod pob achos sy'n ymwneud â phobl ifanc ac oedolion agored i niwed yn cael ei gyfeirio at IOPC i'w asesu.

Canmolodd y Prif Gwnstabl Ivan Balhatchet, Arweinydd y Ddalfa yn yr NPCC, gryfder ymchwil y Panel Ieuenctid. Dywedodd fod arfer yr heddlu o ran cadw plant wedi gwella, gan gynnwys dull o ymdrin â phobl sydd yn y ddalfa sy'n seiliedig ar drawma, ond cydnabu bwysigrwydd parhau i helpu pobl ifanc i roi adborth am eu profiadau. 

Ychwanegodd: “Mae gwaith Panel Ieuenctid IOPC yn enghraifft bwerus o sut y gall gwrando ar bobl ifanc sbarduno gwelliant ystyrlon a pharhaol mewn plismona. Mae eu hymchwil yn tynnu sylw'n glir bod yn rhaid i ni wneud mwy i sicrhau bod carcharorion ifanc yn deall eu hawliau ac yn teimlo'n hyderus i roi adborth am eu profiadau yn y ddalfa.

“Nid yw adborth – gan gynnwys cwynion – yn rhywbeth y dylai plismona fod yn amddiffynnol yn ei gylch. Mae'n rhan hanfodol o ddysgu, gwella safonau ac adeiladu ymddiriedaeth. 

“Trwy’r NPCC, rydym wedi ymrwymo i annog arweinwyr y ddalfa ar draws heddluoedd i ymgorffori’r argymhelliad hwn yn eu harferion beunyddiol, fel bod plant a phobl ifanc yn cael gwybod, eu cefnogi a’u clywed yn rheolaidd. Mae hwn yn rhan allweddol o'n gwaith parhaus i ddarparu cystodaeth ddiogel, deg a thryloyw i bobl ifanc.”

Ers 2022, mae Panel Ieuenctid IOPC wedi cynnal tair arolwg blynyddol o bobl ifanc 16-25 oed yng Nghymru a Lloegr, yn cynnwys bron i 6,700 o leisiau ifanc.

Mae'r canlyniadau diweddaraf yn dangos gostyngiad yn hyder pobl ifanc yn yr heddlu (59%, i lawr o 66%), er bod y gyfran sy'n dweud y byddent yn mynd at yr heddlu pe byddent yn ddioddefwr trosedd wedi aros yr un fath fwy neu lai ar 70 y cant yn y ddau arolwg diwethaf.

Dywedodd ychydig dros hanner y bobl ifanc eu bod yn credu bod yr heddlu yn eu hardal yn trin pobl ifanc yn deg.

Dywedodd Cyfarwyddwr Ymgysylltu IOPC, Amanda Rowe: “Mae’n allweddol bod barn pobl ifanc yn cael ei glywed gan heddluoedd. Mae'r Panel yn chwarae rhan bwysig yn llunio ein gwaith o ran pobl ifanc wrth i ni anelu at sicrhau y gall mwy ohonynt gael hyder yn yr heddlu.

“Mae gwaith y Panel yn cael ei arwain gan bobl ifanc ar bob cam. Rydym am rymuso a galluogi pobl ifanc i godi eu lleisiau ynghylch y materion sy'n effeithio arnynt.”