Mae'r IOPC yn cyhoeddi ffocws thematig ar ymchwiliadau gwahaniaethu ar sail hil

Published: 10 Jul 2020
News

Dywedodd Cyfarwyddwr Cyffredinol yr IOPC, Michael Lockwood:

“Mae tystiolaeth o anghymesuredd yn y defnydd o bwerau’r heddlu wedi bod yn bryder ers tro sy’n effeithio ar hyder mewn plismona, yn enwedig mewn cymunedau Du Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig (BAME). Ond hyd yn oed gyda'r niferoedd a'r ystadegau, yn enwedig o ddata stopio a chwilio, mae angen i ni ddeall yn well yr achosion a'r hyn y gellir ac y dylid ei wneud i fynd i'r afael â hyn.

Yn ystod y misoedd nesaf byddwn yn lansio gwahaniaethu ar sail hil fel maes ffocws thematig i sefydlu'r tueddiadau a'r patrymau a allai helpu i ysgogi newid gwirioneddol mewn arferion plismona. Mae dewis achosion thematig yn golygu ymchwilio'n annibynnol i fwy o achosion lle gallai gwahaniaethu hiliol fod yn ffactor er mwyn datblygu corff o dystiolaeth er mwyn adnabod materion systemig y dylid mynd i'r afael â hwy.

Llynedd fe ddechreuon ni symud yn raddol i ddewis achosion thematig sydd hefyd yn cynnwys cam-drin domestig, digwyddiadau traffig ar y ffyrdd, cam-drin awdurdod er budd rhywiol neu ariannol, iechyd meddwl a damweiniau a fu bron â digwydd yn y ddalfa.

Rydym yn gwybod mai dim ond nifer fach o achosion ble honnir gwahaniaethu a welwn. Mae mwyafrif y cwynion am yr heddlu yn cael eu trin yn gywir gan yr heddluoedd eu hun, tua 32,000 y flwyddyn. Bydd ein ffocws ar y maes hwn yn golygu y byddwn yn cymryd mwy o'r achosion hyn fel ymchwiliadau annibynnol i adeiladu ein sylfaen dystiolaeth. Byddwn hefyd yn tynnu gwybodaeth o achosion perthnasol lle byddwn yn adolygu’r modd y mae’r heddlu wedi delio â’r gŵyn. 

I ddechrau byddwn yn canolbwyntio ar ymchwilio i ragor o achosion lle mae arwydd bod anghymesuredd yn effeithio ar gymunedau BAME, gan gynnwys stopio a chwilio a defnyddio grym.
Byddwn hefyd yn ymchwilio i ragor o achosion lle mae dioddefwyr o gymunedau BAME wedi teimlo eu bod yn cael eu trin yn annheg gan yr heddlu. Er enghraifft, os yw’r heddlu’n trin honiadau o droseddau casineb gan achwynwyr BAME o ddifrif a ble honnir nad yw’r heddlu wedi cydnabod neu drin dioddefwyr trosedd BAME fel dioddefwyr. 

Mae cynyddu ein ffocws ar ymchwilio i achosion lle gall gwahaniaethu hiliol fod yn ffactor yn golygu y byddwn yn gallu edrych yn wirioneddol ar y cyfarfyddiadau hyn rhwng yr heddlu a'r cyhoedd i nodi unrhyw themâu sy'n dod i'r amlwg. Gallwn weld os oes angen newid polisi neu arfer plismona.

Mae hyn yn ymwneud â nodi ble rydym yn gweld arfer da a drwg, a ble mae cyfleoedd wedyn i ysgogi dysgu a newid gwirioneddol.

Gwyddom fod hwn yn fater o bryder cymunedol. Dim ond gydag ymddiriedaeth a hyder y gymuned maent yn eu gwasanaethu y gall ein heddluoedd blismona’n effeithiol. Bydd cael arolygiaeth annibynnol a sylfaen dystiolaeth sy'n helpu'r heddlu i ddysgu a gwella lle bo angen yn helpu i adeiladu'r hyder cymunedol hwnnw.

Rydym wedi bod yn paratoi’r gwaith hwn ers peth amser ac yn dechrau’n gynharach oherwydd ei effaith ar hyder y cyhoedd. Mae ein gwaith yn y maes hwn yn bwysicach nag erioed."

Tags
  • Gwahaniaethu