Mae’r IOPC yn cyhoeddi ffigyrau ar farwolaethau yn ystod neu ar ôl cyswllt â’r heddlu ar gyfer 2022/23

Published: 28 Jul 2023
News

Heddiw, cyhoeddodd Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC) ei hadroddiad blynyddol ar farwolaethau yn ystod neu ar ôl cyswllt â'r heddlu yn 2022/23.

Wdi'u cyhoeddi ar gyfer yr 19eg blwyddyn, mae'r ystadegau'n darparu cofnod swyddogol sy'n nodi nifer y marwolaethau o'r fath, o dan ba amgylchiadau y maent yn digwydd, ac unrhyw ffactorau sylfaenol. Gall ffigurau ar draws y gwahanol gategorïau amrywio bob blwyddyn, ac mae angen trin unrhyw gasgliadau am dueddiadau yn ofalus. 

Mae’r adroddiad yn dangos: 

  • Bu 23 o farwolaethau mewn neu yn dilyn bod yn nalfa’r heddlu, cynnydd o 12 ers 2021/22, a’r ffigwr uchaf ers 2017/18.
    • Aeth wyth o bobl yn sâl neu nodwyd eu bod yn sâl mewn cell heddlu. Cafodd pump person eu cludo i'r ysbyty lle buon nhw farw'n ddiweddarach. Bu farw tri o bobl yn nalfa’r heddlu.
    • Cafodd deuddeg o bobl eu cymryd yn sâl yn y fan lle cawsant eu harestio. Cafodd wyth o bobl eu cludo i’r ysbyty, lle buon nhw farw’n ddiweddarach. Bu farw pedwar o bobl yn y fan a’r lle.
    • Cafodd un dyn ei gludo’n sâl mewn cerbyd heddlu, a chafodd ei gludo i’r ysbyty lle bu farw.
    • Bu farw un dyn ar ôl cael ei ryddhau o ddalfa’r heddlu. Roedd y dyn wedi cael ei gludo i’r ysbyty ar ôl cael ei gyhuddo a’i gadw yn y ddalfa.
    • Bu farw un dyn ar ôl gadael dalfa'r heddlu. Cafwyd hyd i’w gorff ar ôl mynd ar goll o’r ysbyty tra’n dal yng ngofal yr heddlu ac yn aros am asesiad iechyd meddwl. 
       
  • Bu tri achos o saethu angheuol gan yr heddlu, o gymharu â dau y flwyddyn flaenorol. 
  • Eleni bu 28 o farwolaethau o 26 o ddigwyddiadau traffig ffyrdd (RTIs) yn ymwneud â'r heddlu. Mae hyn yn cynrychioli gostyngiad o 12 marwolaeth o gymharu â 2021/22. O'r 28  o farwolaethau, cododd 20 o farwolaethau o 18 o ddigwyddiadau'n ymwneud ag erlid gan yr heddlu. Roedd dau ddigwyddiad yn ymwneud ag  ymateb brys a marwolaethau, a chwe marwolaeth yn ymwneud â gweithgaredd traffig arall yr heddlu. 
  • Roedd 52 hunanladdiad ymddangosiadol yn dilyn dalfa’r heddlu, gostyngiad o bump ar y flwyddyn flaenorol.
  • Bu’r IOPC hefyd yn ymchwilio i 90 o farwolaethau eraill yn dilyn cyswllt â’r heddlu mewn amrediad eang o amgylchiadau, gostyngiad o 21 ers 2021/22. Mae marwolaethau yn cael eu cynnwys yn y categori hwn yn unig pan fydd yr IOPC wedi cynnal ymchwiliad annibynnol.

Roedd pryderon iechyd meddwl a chysylltiadau â chyffuriau neu alcohol unwaith eto yn ffactorau cyffredin ymhlith llawer o’r rhai a fu farw: 

  • o’r 23 o bobl a fu farw mewn neu'n dilyn bod yn nalfa’r heddlu, roedd gan 13 bryderon iechyd meddwl gyda phedwar wedi’u cadw dan y Ddeddf Iechyd Meddwl, ac roedd gan 21 gysylltiad â chyffuriau a/neu alcohol,
  • adroddwyd bod bron i ddwy ran o dair (55) o’r rhai a fu farw yn dilyn cyswllt arall â’r heddlu yn feddw ar gyffuriau a/neu alcohol ar adeg y digwyddiad, neu ei fod yn nodwedd amlwg yn eu ffordd o fyw, a hysbyswyd bod gan gyfran debyg (57) bryderon iechyd meddwl.

O ran marwolaethau traffig ffyrdd: 

  • o'r 20 o farwolaethau cysylltiedig âg ymlid, roedd 12 yn yrrwr neu'n deithiwr yn y cerbyd a ddilynwyd ac roedd pump o bobl yn yrwyr neu'n deithwyr cerbyd nad oedd yn perthyn iddo a gafodd ei daro gan y car a ddilynwyd. Oedran cyfartalog y rhai a fu farw naill ai fel gyrrwr neu deithiwr mewn cerbyd erlid neu gerbyd yn ffoi oedd 28.
  • eleni, dim ond un digwyddiad yn ymwneud ag ymlid a arweiniodd at farwolaethau lluosog, a bu gostyngiad o 14 ar nifer y marwolaethau cysylltiedig âg ymlid o 2021/22. 

Atal a defnyddio grym: 

  • roedd gan 11 o’r 23 o bobl a fu farw mewn neu yn dilyn bod yn nalfa’r heddlu rywfaint o ddefnydd o rym yn eu herbyn gan yr heddlu cyn eu marwolaethau. Yn un o'r marwolaethau hyn roedd ataliad gan aelodau'r cyhoedd hefyd. Roedd tair o'r 11 marwolaeth yn ymwneud â defnyddio grym yn cynnwys rhyddhau Taser. Roedd chwech o'r 90 o farwolaethau eraill yn dilyn cyswllt yr ymchwiliwyd iddo, oedd yn ymwneud ag ataliaeth neu ddefnydd arall o rym gan yr heddlu. Roedd un o'r chwech yn ymwneud â rhyddhau Taser. Nid oedd y defnydd o rym o reidrwydd wedi cyfrannu at y marwolaethau.

Ethnigrwydd: 

  • O’r 23 o farwolaethau mewn neu yn dilyn bod yn nalfa'r heddlu, roedd 19 o’r ymadawedig yn Wyn, dau yn Ddu, un o ethnigrwydd Cymysg ac un yn Asiaidd,
  • Un person o'r rhai a saethwyd yn angheuol gan yr heddlu oedd yn Ddu, 
  • O’r 11 marwolaeth mewn neu'n dilyn bod yn nalfa'r heddlu lle roedd defnydd o rym, roedd wyth o’r ymadawedig yn Wyn, un yn Ddu, un o ethnigrwydd Cymysg ac un yn Asiaidd,
  • O'r chwe marwolaeth gyswllt arall yn ymwneud â defnyddio grym, roedd pedwar o'r ymadawedig yn Wyn a dau yn Ddu. 

Yn y categori ‘marwolaethau eraill’: 

  • 85  o farwolaethau yn dilyn cyswllt â’r heddlu, naill ai’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, ar ôl i bryderon gael eu codi am les rhywun – o’r rhain, roedd 20 yn ymwneud ag adroddiad am berson coll; roedd 15 yn gysylltiedig â phryderon domestig. 

Hunanladdiadau ymddangosiadol:  

  • O’r 52 hunanladdiad ymddangosiadol, roedd 26 (50%) o’r rhai a fu farw wedi’u harestio am drosedd rywiol honedig – roedd pob un ond dau o’r 26 yn ymwneud â throseddau honedig yn erbyn plant.

Mae’r adroddiad ‘Marwolaethau yn ystod cyswllt heddlu canlynol: Ystadegau Lloegr a Chymru 2022/23’ ynghlwm. Mae'r ystadegau'n cynnwys rhywfaint o ddata heddlu-benodol.  Mae tablau data ychwanegol ar gael ar wefan yr IOPC.

Tags
  • Marwolaeth ac anafiadau difrifol
  • Digwyddiadau traffig ffyrdd
  • Defnydd o rym a phlismona arfog
  • Lles a phobl sy'n agored i niwed