Mae Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC) yn galw am newid yng nghyfraith stopio a chwilio ac yn nodi 18 o gyfleoedd ar gyfer gwella

Published: 20 Apr 2022
News

Mae Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC) heddiw yn galw am weithredu i fynd i'r afael â'r defnydd anghymesur o stopio a chwilio ar bobl o gefndiroedd Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig eraill a'i effaith ar hyder y cyhoedd mewn plismona.

Mae adroddiad a gyhoeddwyd heddiw yn cynnwys 18 o argymhellion sydd â'r nod o wella arfer polisi plismona fel bod pobl o gefndir Du, Asiaidd neu leiafrif ethnig arall yn cael eu diogelu rhag stopio a chwilio sy'n cael eu dylanwadu gan stereoteipio a rhagfarn.

Mae Swyddfa Ymddygiad Annibynnol yr Heddlu (IOPC) yn awyddus i wella'r ffordd mae'r pwerau hyn yn cael eu defnyddio gan luoedd yn Lloegr a Chymru.

Yn y flwyddyn yn gorffen ym mis Mawrth 2021, roedd pobl o gefndir Du neu Ddu Prydeinig saith gwaith yn fwy tebygol o gael eu stopio a’u chwilio na’r rhai o gefndir ethnig gwyn.

Tra bod pobl o gefndir Asiaidd neu Asiaidd Prydeinig, neu gefndir ethnig cymysg, tua dwywaith a hanner yn fwy tebygol o gael eu stopio a'u chwilio na'r rhai o gefndir ethnig Gwyn.

Mae'r argymhellion yn deillio o ddata sy'n nodi sut mae stopio a chwilio gan yr heddlu yn codi yn Lloegr a Chymru â chynnydd o 24% i 695,009 yn y flwyddyn sy'n dod i ben ym mis Mawrth 2021.

Pan fydd yn cael ei ddefnyddio'n gywir, mae stopio a chwilio'n elfen ddefnyddiol o'r pecyn plismona i atal troseddau posibl rhag digwydd ond mae'r argymhellion yn amlygu sut y mae angen i luoedd weithio gyda chymunedau i ddeall pryderon dilys yn well a helpu i adeiladu hyder y cyhoedd sy'n sail i gyfreithlonrwydd plismona.

O'n gwaith ein hunain, rydym wedi gweld arogl canabis fel yr unig sail sy'n cael ei rhoi ar gyfer stopio a chwilio, nad yw'n unol ag arfer awdurdodedig yr heddlu. Rydym hefyd wedi gweld gefynnau'n cael eu defnyddio pan fyddai tactegau eraill wedi gallu gwneud y sefyllfa'n well.

Mae argymhellion a gyflwynwyd i luoedd Lloegr a Chymru'n cynnwys:

  • Mae Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu (NPCC)a’r Coleg Plismona yn gweithio gyda’i gilydd i ddatblygu canllawiau ynghylch sut i ddiogelu pobl o gefndir Du, Asiaidd, neu gefndir lleiafrif ethnig arall rhag cael eu stopio a’u chwilio oherwydd penderfyniadau sy’n cael eu heffeithio gan gudd-wybodaeth yn seiliedig ar ragdybiaethau, stereoteipiau, a thuedd hiliol, a lliniaru'r risgiau o wahaniaethu anuniongyrchol.
  • Mae Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu ( NPCC) a’r Coleg Plismona yn cydweithio i ddatblygu canllawiau ynghylch sut i ddiogelu pobl o gefndir Du, Asiaidd, neu gefndir lleiafrif ethnig arall rhag profi defnydd anghymesur o rym yn ystod stopio a chwilio oherwydd rhagdybiaethau a rhagfarnau stereoteip sy’n effeithio ar ymateb y plismona.
  • Mae Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu ( NPCC) y Coleg Plismona a'r Swyddfa Gartref yn archwilio'r posibilrwydd o gomisiynu ymchwil ynghylch y trawma a achosir yn bennaf i bobl o gefndir Du, Asiaidd a chefndir lleiafrif ethnig arall, gan gynnwys plant a phobl ifanc, wrth ddefnyddio stopio a chwilio.

Mae Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu'n arwain ar wahaniaethu Sal Naseem: "Rydym yn bryderus am effaith stopio a chwilio ar grwpiau lleiafrif ethnig, yn arbennig yr effaith negyddol y gall hynny gael ar hyder y cyhoedd mewn plismona. Ni ellir tanbrisio pa mor drawmatig y gall digwyddiad stopio a chwilio fod ar unigolyn. Os bydd yn cael ei wneud yn ansensitif, yna gall unigolyn gael ei adael yn teimlo wedi'i fychanu a'i fod wedi cael ei erlid.

"Gall mai'r profiad hwn hefyd yw'r rhyngweithio cyntaf i rai oedolion ifanc ac os bydd yn un negyddol, gall gael effaith ddinistriol a pharhaus ar yr unigolyn hwnnw a'r ymddiriedaeth maent yn ei rhoi yn yr heddlu.

"Mae'n bryd i dorri'r cylch. Yr her i luoedd yr heddlu yw adeiladu pontydd â'r rhai mewn cymunedau sy'n teimlo eu bod ar y cyrion er mwyn i'r union bobl hynny deimlo'n hyderus i ddod at yr heddlu pan fydd angen.

Mae canfyddiadau ac argymhellion yr adroddiad yn seiliedig ar dystiolaeth o 37 o ymchwiliadau, apeliadau ac adolygiadau annibynnol a gynhaliwyd ers 2018.

Roedd Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC) wedi ymgynghori'n eang â rhanddeiliaid allanol ynghylch yr argymhellion dysgu a gynhwyswyd yn yr adroddiad hwn, gan ystyried yr adborth gan y rhai hynny oedd yn gysylltiedig a sicrhau ei fod yn cael ei adlewyrchu a thryloywder llawn.

Mae aelodau ein Panel Ieuenctid, academyddion, Comisiynwyr yr Heddlu a Throsedd, Arolygiaeth Cwnstabliaeth a Gwasanaethau Tân ac Achub Ei Mawrhydi (HMCIFRS), Cymdeithas Plismona Du Cenedlaethol, Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu (NPCC), y Llys Gwarchod (COP), y Swyddfa Gartref, aelodau grwpiau annibynnol lleol a chraffu cymunedol a grwpiau cynghori annibynnol i gyd wedi adolygu a chyflwyno sylwadau ar gyfer ein hadroddiad i sicrhau bod gan drawstoriad eang o gymunedau lais.

Tags
  • Caethiwed a charchariad
  • Marwolaeth ac anafiadau difrifol
  • Gwahaniaethu
  • Defnydd o rym a phlismona arfog