IOPC i ymchwilio i saethiad gan yr heddlu yn Bury

Published: 29 May 2026
News

Mae Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC) wedi dechrau ymchwiliad i weithrediad arfau tanio gan Heddlu Manceinion Fwyaf (GMP) lle cafodd dyn ei saethu.

Fe ddigwyddodd ar Bury New Road, Whitefield am 3yh ar ddydd Gwener 22 Mai yn ystod gweithrediad plismona lle ceisiodd swyddogion stopio cerbyd.

Yn ystod y digwyddiad, cafodd gyrrwr y car ei saethu yn ei fraich gan swyddog GMP ac fe ddioddefodd benelin wedi'i dorri. Y person anafedig, dyn 20 oed, oedd yr unig berson yn y car.

Rydym wedi cadarnhau bod un o'r swyddogion wedi tanio saethiad sengl yn ystod y digwyddiad, gan achosi'r anaf, tra cafodd saethiad arall ei danio yn fuan wedyn gan swyddog arall er mwyn tynnu'r gwynt o deiar ar y cerbyd.

Atgyfeiriodd GMP y mater atom yn fuan wedi'r digwyddiad, ac fe ddatganom ymchwiliad annibynnol am 6:57yh y diwrnod hwnnw.

Mynychodd ein ymchwilwyr safle'r saethiad i gadw tystiolaeth, yn ogystal â'r gweithdrefnau ôl ddigwyddiad (PIP) lle rhoddodd y swyddogion arfau tanio oedd yn cymryd rhan yn y gweithrediad eu cyfrifon cychwynnol o'r hyn a ddigwyddodd.

Rydym wedi diogelu dau arf tanio heddlu i'w harchwilio a darganfod a gwylio fideos corff-wisgedig y swyddogion.

Dywedodd cyfarwyddwr IOPC, Amanda Rowe: "Rydym eisoes wedi gwylio fideos corff-wisgedig y swyddogion i wneud asesiad cychwynnol o'r amgylchiadau. Mae'r ffilm yn cadarnhau bod tri cerbyd arfau tanio wedi 'bocsio' car y dyn i mewn gan ddefnyddio tacteg atal. Mae'r gwrthrych yn ymddangos i fod yn ceisio gyrru allan o'r ataliaeth cyn i'r saethiad a'i anafodd gael ei danio.

"Mae'n gywir er mwyn hyder y cyhoedd ac atebolrwydd yr heddlu bod unrhyw benderfyniad i danio arf tanio, yn enwedig un lle mae aelod o'r cyhoedd yn cael ei anafu, yn cael ei archwilio'n drylwyr ac yn annibynnol.

"Rydym ni yng nghamau cychwynnol ein ymchwiliad ond rydym eisoes wedi gwneud cynnydd da. Rydym yn ceisio gweithio trwy ein ymholiadau mor effeithlon ag sy'n bosib er mwyn deall yn union beth ddigwyddodd ac i ddiweddaru'r cyhoedd."