Ffigurau IOPC yn dangos mwy o atgyfeiriadau heddlu nag erioed
Mae ffigurau a ryddhawyd gan Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC) yn dangos nifer digynsail o atgyfeiriadau gan heddluoedd - a chynnydd mawr yn y nifer o ymchwiliadau annibynnol yn cael eu cymryd ymlaen gan y corff gwarchod heddlu.
Mae data diwedd-blwyddyn yn dangos bod IOPC wedi derbyn 7,088 o atgyfeiriadau yn 2025-26 - y mwyaf dros gyfnod 12-mis ers sefydliad IOPC - ac wedi cwblhau mwy na 7,000 o atgyfeiriadau am y tro cyntaf yn ein hanes.
Yn ystod yr un cyfnod, cymerom 316 ymchwiliad annibynnol sy'n gynnydd o 31 y cant ar y rhif (241) y dechreuom yn 2024-25.
Mae hynny'n cynnwys 134 ymchwiliad i gyhuddiadau o gamymddygiad heddlu, 81 mewn achosion lle mae rhywun wedi marw neu cael anaf difrifol (DSI) yn dilyn cysylltiad gyda'r heddlu, a 101 wedi'i sbarduno gan gwynion.
Gwnaethom gwblhau 245 ymchwiliad annibynnol yn 2025-26 sydd yn cyfateb â'r nifer y cwblhaom y flwyddyn flaenorol.
Dywedodd Dirprwy Gyfarwyddwr IOPC, Steve Noonan: "Rydym yn gweld cynnydd mewn galw, gyda mwy o atgyfeiriadau nag erioed o'r blaen yn cael eu cyflwyno i'n Uned Asesu. Rydym wedi ymateb yn dda i'r sialens ac rydym nawr yn gwneud penderfyniadau mwy amserol.
"Mae'n cymryd cyfartaledd o 4.3 diwrnod i asesu a chwblhau atgyfeiriad, lawr o fwy na wyth diwrnod yn flaenorol. Mae hynny'n welliant mawr ac mae o ganlyniad i enillion effeithlonrwydd yn ein system rheoli achosion, yn ogystal â brysbennu mwy gweithredol o atgyfeiriadau er mwyn nodi materion a blaenoriaethu achosion yn gyflym.
"Rydym yn falch o fod wedi cymryd 316 ymchwiliad annibynnol ymlaen yn y 12 mis diwethaf. Mae'n bwysig ar gyfer hyder y cyhoedd bod yna graffu annibynnol ar yr achosion difrifol sy'n cynnwys cysylltiad gyda'r heddlu a'r cyhuddiadau mwyaf difrifol o gamymddwyn.
"Fodd bynnag, byddem yn hoffi cymryd hyd yn oed yn fwy o ymchwiliadau annibynnol ymlaen ond wrth gwrs mae angen cloriannu hynny yn erbyn ein adnoddau.
"Rydym yn delio gyda rhai o'r ymchwiliadau mwyaf cymhleth ac mae'n gredyd i'n timau bod bron tri chwarter (73 y cant) o ymchwiliadau annibynnol yn cael eu cwblhau o fewn 12 mis, tra bod 32 y cant yn cael eu cwblhau o fewn chwech mis.
"Rydym wedi gwella ein graddau cwblhau rhywfaint i gymharu gyda'r flwyddyn flaenorol (73 a 31% yn y drefn honno). Rydym wedi gwneud hynny yn ystod cyfnod o ail-drefnu strwythurol, a thra'n gosod targedau mwy heriol i'n hunain. Yn flaenorol, roeddem yn ystyried ymchwiliadau i fod wedi'u cwblhau pan oedd adroddiad yn cael ei gymeradwyo, ond nawr mae hyn dim ond unwaith bod yr adroddiad wedi cael ei adolygu ymhellach, bod y broses o wneud penderfyniadau wedi cael ei gwblhau, a bod y dystiolaeth wedi'i anfon at yr awdurdod priodol.
"Rydym yn gwybod bod gennym fwy i wneud ynghylch amseroldeb ein ymchwiliadau. Ond rydym yn gweld gwelliannau ar gefn ein Rhaglen Trawsnewid sydd wedi ein cymell i fabwysiadu model cyflawni cenedlaethol i sicrhau ein bod yn cyfeirio adnoddau yn ôl galw a blaenoriaethau."
Mae'r ffigurau hefyd yn dangos bod IOPC wedi derbyn mwy na 3,000 cais i adolygu'n annibynnol canlyniadau cwynion a wnaethpwyd i heddluoedd.
Mae unrhyw un sy'n cwyno i lu heddlu am y gwasanaeth gwnaethant dderbyn yn gallu gofyn am adolygiad o sut y cafodd eu cwyn ei drin os nad ydynt yn fodlon gyda'r canlyniad. Llynedd, derbyniodd ein tîm Gwaith Achos 3,051 o geisiadau am adolygiadau, i fyny o 24.3 y cant o 2024-25 pan y derbyniom 2,455.
Cwblhaodd y tîm 3,500 adolygiad yn 2025-26, i fyny 61 y cant ar y 2,169 y flwyddyn flaenorol diolch i'r trawsffurfiad yn sut mae adolygiadau yn cael eu trin.
Ychwanegodd Mr Noonan: "Mae gwaith achos wedi bod yn lwyddiant amlwg yn y flwyddyn ddiwethaf. Mae ôl-groniad sylweddol wedi datblygu, o ganlyniad helaeth i newid mewn deddfwriaeth o broses apeliadau i broses adolygu. Roedd hynny wedi gofyn am ail-hyfforddi staff ac i ni ddelio ag achosion o dan ddeddfwriaeth hen a newydd ar yr un pryd.
"Rydym wedi gwneud canllawiau ar gyfer cwynion yn gliriach, gwella ein gwefan, a mabwysiadu mwy o weithio thematig a chymesur o fewn ein timau gwaith achos i wella cynhyrchiant ac annog gwybodaeth arbenigol. Mae'r newidiadau hyn yn ein helpu i nodi themâu, tueddiadau, a meysydd o arfer da a gwael, ac i wneud argymhellion dysgu sy'n seiliedig ar dystiolaeth i wella trin cwynion am yr heddlu.
"Mae'r ôl-groniad yn clirio, gyda mwy o adolygiadau wedi cael eu cwblhau na'u agor bob mis yn y flwyddyn ddiwethaf, diolch i waith caled ein staff a'r gwelliannau gweithdrefnol rydym wedi gwneud.
"Yn sylfaenol, mae'n golygu bod pobl sydd wedi gofyn am adolygiad yn derbyn gwasanaeth gwell gennym ac atebion i'w cwestiynau yn llawer cyflymach.
"Rydym hefyd yn ymgysylltu â heddluoedd gyda'n menter Right First Time sy'n helpu lluoedd i wellau eu triniaeth o gwynion, gyda'r nod o gynyddu lefelau bodlonrwydd cwynion ac, yn sgil hynny, lleihau y nifer o adolygiadau sy'n cael eu gwneud."