Dau heddwas o Swydd Gaergrawnt i wynebu gwrandawiad camymddwyn difrifol dros fethiannau ymchwilio honedig
Mae ymchwiliad Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC) i fethiannau honedig gan Heddlu Swydd Gaergrawnt i ymchwilio i adroddiad o ymosodiad ar ddyn yn Fletton, Peterborough ar 27 Medi 2025 wedi dod i ben. Rydym wedi penderfynu y dylai dau gwnstabl heddlu wynebu gwrandawiad camymddwyn difrifol. Honnir bod un swyddog wedi methu â chynnal ymholiadau priodol ac honnir hefyd bod y ddau swyddog wedi cuddio hyn drwy gofnodi gwybodaeth anghywir yn yr adroddiad trosedd, gan gynnwys nad oedd unrhyw fideo CCTV ar gael. Dechreuodd ein ymchwiliad ar ôl i ni dderbyn atgyfeiriad gan yr heddlu ddydd Llun 10 Tachwedd. Dilynodd hyn adolygiad gan Heddlu Swydd Gaergrawnt o gysylltiad blaenorol posib rhwng yr heddlu a'r person dan amheuaeth o ymosodiad trên Huntingdon a ddigwyddodd ar 1 Tachwedd 2025. Dywedodd cyfarwyddwr ymgysylltu IOPC, Emily Barry: “Er ein bod wedi canfod y bydd y swyddogion yn wynebu achos disgyblu, yr heddlu fydd yn gyfrifol am drefnu’r gwrandawiad a’i banel camymddwyn i benderfynu, yn seiliedig ar y dystiolaeth, a yw’r honiadau o gamymddwyn difrifol wedi’u profi. “Mae’r partïon dan sylw wedi cael gwybod am ein penderfyniad.” |