Datganiad yr IOPC yn dilyn marwolaethau yn Nhrelai

Published: 24 May 2023
News

Yn dilyn atgyfeiriad gan Heddlu De Cymru rydym wedi penderfynu ymchwilio’n annibynnol i ddigwyddiad yn Nhrelai, Caerdydd, ddydd Llun (22 Mai) a arweiniodd at farwolaethau dau berson yn eu harddegau.

Mae ein penderfyniad i ymchwilio yn dilyn ein presenoldeb yn y weithdrefn heddlu ar ôl y digwyddiad ac ar ôl adolygiad o'r wybodaeth a dderbyniwyd hyd yma.

Byddwn yn archwilio unrhyw ryngweithio rhwng yr heddlu a'r bechgyn ar ôl i luniau CCTV ddod i'r amlwg yn dangos cerbyd heddlu yn dilyn beic cyn y digwyddiad.

Dywedodd Cyfarwyddwr yr IOPC David Ford: “Yn bennaf oll mae ein meddyliau a’n cydymdeimlad yn mynd allan i deuluoedd a ffrindiau’r ddau fachgen a gollodd eu bywydau nos Lun yn Nhrelai. Mae'n bwysig ein bod yn ymchwilio'n annibynnol i'r amgylchiadau a arweiniodd at y digwyddiad trasig hwn. Mae'r digwyddiad hwn a'r digwyddiadau a ddilynodd, yn ddealladwy, wedi denu cryn ddiddordeb a phryder gan y cyhoedd. Mae’n bwysig ein bod yn ymchwilio’n drylwyr ac yn annibynnol i’r mater hwn, er mwyn sefydlu’r ffeithiau ac amgylchiadau llawn o’r union beth ddigwyddodd ddydd Llun.”

Tags
  • Heddlu De Cymru
  • Marwolaeth ac anafiadau difrifol
  • Digwyddiadau traffig ffyrdd