Datganiad gan gyn Gyfarwyddwr Cyffredinol yr IOPC Michael Lockwood

Published: 02 Dec 2022
News

Dywedodd Michael Lockwood:

“Gyda thristwch mawr rwyf wedi penderfynu ymddiswyddo fel Cyfarwyddwr Cyffredinol yr IOPC am resymau personol a domestig, a bydd hyn yn effeithiol o heddiw ymlaen.

“Bu’n fraint enfawr gwasanaethu fel Cyfarwyddwr Cyffredinol cyntaf yr IOPC, ac i fod wedi arwain y sefydliad am y pum mlynedd diwethaf. Rwy’n falch o’r cynnydd rydym wedi gwneud ac rwy’n ddiolchgar i’n holl staff, y Bwrdd Unedol a rhanddeiliaid allanol am eu holl gefnogaeth.

“Bydd y Bwrdd Unedol nawr yn gweithio gyda’r Swyddfa Gartref i roi trefniadau arweinyddiaeth newydd ar waith cyn gynted â phosibl.”