Byddai cyn-swyddog o Gaint oedd yn gyfrifol am ddiogelu menywod bregus wedi cael ei ddiswyddo am ymgysylltu â gweithwyr rhyw

Published: 08 Sep 2026
News

Byddai cyn-swyddog o Heddlu Caint wedi cael ei ddiswyddo o'r llu heb rybudd pe na bai eisoes wedi ymddeol, yn dilyn ymchwiliad a gyfarwyddwyd gan Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC).

Heddiw (dydd Mawrth 8 Medi), ffeindiodd panel fod ymddygiad y cyn Gwnstabl Heddlu (PC) Trevor Bonett wedi torri safonau ymddygiad proffesiynol y gwasanaeth plismona mewn perthynas â gonestrwydd ac uniondeb, dyletswyddau a chyfrifoldebau, ac ymddygiad sy'n dwyn anfri. Cynhaliwyd yr ymchwiliad gan Uned Gwrth-lygredd Heddlu Caint o dan gyfarwyddyd a rheolaeth IOPC.

Roedd y cyn-swyddog, a oedd wedi'i leoli ym Maidstone, yn gyfrifol am adolygu cudd-wybodaeth yn ymwneud yn benodol â Chaethwasiaeth Fodern a Masnachu Pobl (MSHT) a Thrais yn Erbyn Menywod a Merched (VAWG). Fel rhan o ymchwiliad ehangach gan yr heddlu, nodwyd bod ei rif ffôn symudol personol wedi cysylltu â puteindy yn ardal Maidstone ar ddau achlysur.

O ganlyniad i ymholiadau pellach, dangosodd data ffôn batrwm o PC Bonett yn cysylltu â llinellau rhyw neu wefannau gwasanaethau rhywiol i oedolion tra oedd ar wyliau blynyddol neu ddiwrnodau gorffwys. Sefydlwyd bod y cysylltiadau hyn wedi digwydd rhwng Ionawr 2024 a Mehefin 2024.

Ymddeolodd PC Bonett o'r llu ym mis Rhagfyr 2025 cyn y gwrandawiad camymddwyn difrifol.

Ar ôl y gwrandawiad dau ddiwrnod, profwyd camymddwyn difrifol mewn perthynas â gweithredoedd PC Bonett o ran gonestrwydd ac uniondeb, dyletswyddau a chyfrifoldebau, ac ymddygiad sy'n dwyn anfri. Daeth y panel i'r casgliad y byddai wedi cael ei ddiswyddo o'r llu heb rybudd pe na bai eisoes wedi ymddeol.

Bydd ei enw yn cael ei ychwanegu at restr waharddedig y gwasanaeth plismona, sy'n ei atal rhag gweithio ym maes plismona yn y dyfodol.

Dywedodd Emily Barry, Cyfarwyddwr Ymgysylltu'r IOPC:

"Roedd gan y cyn-swyddog Bonett ymwybyddiaeth glir o'r gwendidau a'r pryderon diogelu sy'n bodoli mewn perthynas â gweithwyr rhyw.

"Roedd e’n swyddog cudd-wybodaeth profiadol gyda dealltwriaeth helaeth o gymhlethdodau ymchwiliadau i gaethwasiaeth fodern, a nodwyd wrtho mewn cyfweliad y byddai wedi gwybod, wrth ddefnyddio'r gwasanaethau hyn, fod tebygolrwydd uchel ei fod yn cysylltu â pherson hynod fregus.

"Roedd e wedi cael hyfforddiant penodol ac yn derbyn briffiau rheolaidd er mwyn diogelu gweithwyr rhyw sy'n hysbysebu ar wefannau gwasanaethau i oedolion yn effeithiol, a dylai fod wedi dilyn y polisïau cywir i ddatgan y cysylltiadau hyn, a oedd yn peryglu ei uniondeb a'i ddidueddrwydd.

"Trwy ei swyddogaethau, byddai wedi gwybod bod y gwefannau hyn yn gallu cael eu defnyddio gan bobl i ecsbloetio dioddefwyr ecsbloetio rhywiol, caethwasiaeth fodern a masnachu pobl.

"Yn lle defnyddio ei gyfoeth o wybodaeth i alluogi camau diogelu ac o bosib gweithredu yn erbyn y rhai sy'n ecsbloetio gweithwyr rhyw, torrodd yr ymddiriedaeth a roddwyd ynddo er mwyn ei foddhad personol ei hun, gan danseilio'r gwaith pwysig iawn y mae eraill ym maes plismona yn ei wneud i ddiogelu pobl fregus.

"Roedd ei ymddygiad ymhell islaw'r safonau proffesiynol a ddisgwylid ganddo, ac o ganlyniad i'r gwrandawiad hwn mae bellach wedi cael ei ddwyn i gyfrif am ei weithredoedd."

Nodiadau i'r golygyddion

Torrwyd y safonau ymddygiad proffesiynol canlynol:

  • Ymddygiad sy'n dwyn anfri
  • Gonestrwydd ac Uniondeb (uniondeb yn unig)
  • Dyletswyddau a Chyfrifoldebau
Tags
  • Kent Police
  • Trais yn erbyn menywod a merched