Byddai cyn-swyddog Heddlu De Cymru wedi cael ei ddiswyddo am berthynas amhriodol a ffugio profion anadl

Published: 06 Apr 2023
News

Mae camymddwyn difrifol wedi’i ganfod yn erbyn heddwas wedi ymddeol o Heddlu De Cymru yn dilyn ymchwiliad gan Swyddfa Annibynnol Ymddygiad yr Heddlu (IOPC) i berthynas amhriodol cwnstabl yr heddlu ar y pryd â menyw sy'n agored i niwed.

Mewn gwrandawiad disgyblu a gynhaliwyd gan Heddlu De Cymru, penderfynwyd y byddai’r cyn-Gwnstabl Julian John wedi cael ei ddiswyddo, os nad oedd eisoes wedi ymddeol. Roedd y gwrandawiad yn dilyn ein hymchwiliad a ddechreuodd ym mis Chwefror 2020, ar ôl i ni dderbyn atgyfeiriad gan yr heddlu ynghylch honiad bod y swyddog wedi ffurfio perthynas amhriodol â menyw sy'n agored i niwed, yr oedd wedi cwrdd â hi yn ystod ei ddyletswyddau.

Yn ystod ein hymchwiliad, fe wnaethom gyfweld â'r heddwas, archwilio ei ffôn symudol a chael datganiadau gan nifer o dystion. Daethom o hyd i negeseuon testun fflyrtaidd a anfonwyd gan PC John at y ddynes, o’i ffôn symudol gwaith, dros gyfnod o naw mis a thystiolaeth ei fod wedi aros yn ei heiddo dros nos ar o leiaf un achlysur.

Ar ddiwedd ein hymchwiliad ym mis Ionawr 2021, canfuom fod gan y swyddog achos i’w ateb am gamymddwyn difrifol. Ymddeolodd PC John o Heddlu De Cymru ym mis Mawrth eleni.

Clywodd y gwrandawiad fod y swyddog wedi cynnal dau brawf anadl negyddol arno’i hun ar ddyddiad yng nghanol mis Rhagfyr 2019, i bob golwg i gyrraedd targedau mewnol ar gyfer swyddogion plismona’r ffyrdd unigol, a’u cofnodi’n ffug fel profion ar aelodau’r cyhoedd.

Mewn cyfweliad dywedodd iddo brofi'r ddyfais arno'i hun oherwydd ei fod yn chwilfrydig i weld a fyddai mins pei Nadolig yr oedd wedi'i fwyta'n gynharach wedi cael unrhyw effaith ar lefel ei alcohol yn y gwaed. Canfu’r panel fod yr esboniad yn “hollol annhebygol” a’i bod yn fwy tebygol na pheidio bod ei ymddygiad yn ymgais ymwybodol i chwyddo ffigurau ei brawf anadl yn ystod ymgyrch Nadolig yn erbyn yfed a gyrru a gyrru tra ar gyffuriau.

Ar ddiwedd y gwrandawiad ddydd Mawrth 28 o Fawrth, dan oruchwyliaeth cadeirydd annibynnol â chymwysterau cyfreithiol, penderfynodd y panel fod y swyddog wedi ymddeol wedi torri safonau ymddygiad proffesiynol ac y byddai wedi cael ei ddiswyddo os na fyddai wedi gadael yr heddlu eisoes.

Dywedodd Cyfarwyddwr yr IOPC, David Ford: “Mae gan yr heddlu rôl sylfaenol i helpu’r bobl y maent yn eu gwasanaethu, nid eu hecsbloetio. Mae cam-drin safle i dargedu a cheisio ffurfio perthynas â menyw sy'n agored i niwed yn cael ei gymryd yn hynod ddifrifol yn ein hymchwiliadau ac mae ymddygiad o'r fath dim ond yn tanseilio ffydd y cyhoedd mewn plismona.

“Yn ogystal â’r berthynas amhriodol, roedd PC John yn swyddog plismona’r ffyrdd profiadol, felly byddai ond yn rhy ymwybodol bod cyflwyno profion anadl ffug yn gwbl amhriodol, gan dorri’r safonau proffesiynol o onestrwydd ac uniondeb.

“Mae gennym ni i gyd yr hawl i ddisgwyl i swyddogion heddlu gynnal y safonau uchaf o broffesiynoldeb ac mae canlyniad y gwrandawiad yn dangos y bydd y rhai sy’n methu â gwneud hynny yn cael eu dwyn i gyfrif.”

Bydd Mr John nawr hefyd yn cael ei roi ar restr gwahardd yr heddlu.

Tags
  • Heddlu De Cymru
  • Llygredd a cham-drin pŵer