Dysgu

Rydym am wella plismona trwy adnabod a rhannu'r hyn a ddysgwyd o'n gwaith.

Pan fyddwn yn cwblhau ein hymchwiliadau a'n hadolygiadau, rydym yn edrych am gyfleoedd i nodi potensial ar gyfer dysgu, i wella plismona ar lefel leol a chenedlaethol. Rydym hefyd yn cynnal ymchwil annibynnol ac yn casglu data ystadegol sy'n ein helpu i adnabod materion sy’n achosi pryder yn gynnar a gwneud argymhellion ymarferol i ddylanwadu ar newid.

Rydym yn ymateb yn rheolaidd i ymgynghoriadau am blismona a meysydd cysylltiedig, ac yn defnyddio ein mewnwelediadau i ddylanwadu ar newid cadarnhaol.

Yn ein strategaeth ddiweddaraf adeiladu ymddiriedaeth a hyder mewn plismona rydym wedi ymrwymo i:

  • byddwn yn defnyddio ein hannibyniaeth a’n tystiolaeth o’n gwaith i fod yn llais awdurdodol y gellir ymddiried ynddo wrth alw am newid i wella plismona, yn enwedig mewn meysydd sy’n effeithio ar hyder y cyhoedd.
  • byddwn yn gweithio gyda’r rhai sy’n darparu plismona i wneud yr achos dros y gwelliannau hynny – gan arwain, cynnull a pherswadio fel bod ein hargymhellion yn arwain at newid diriaethol.
  • Byddwn yn gweithio gyda phartneriaid ym maes plismona er mwyn dangos i’r cyhoedd ymateb system i'r materion sy'n effeithio ar eu hyder mewn plismona.
Rydym yn helpu gwella plismona trwy ein gwaith a’n harweinyddiaeth – yn gwneud gwahaniaeth i’r materion sy’n bwysig i chi Tom Whiting, Cyfarwyddwr Cyffredinol dros dro

Trosolwg

Rydym yn dal heddluoedd i gyfrif am eu perfformiad mewn ymdrin â chwynion ac yn gweithio gyda'n rhanddeiliaid plismona allanol i adnabod materion, gweithredu gwelliant ac ymarfer effeithiol, rhanadwy.

Focus

Mae Focus yn rhoi cyfarwyddyd ymarferol adrannau safonau proffesiynol heddluoedd ar ymdrin â chwyniom, materion ymddygiad, ac achosion marwolaeth neu anafiadau difrifol.

Ymatebion i ymgynghoriadau

Rydym yn rhannu dysgu o'n gwaith i helpu lywio ymholiadau ac ymgynghoriadau gan sefydliadau eraill.

Learning recommendations

We regular make recommendations to the police to help improve policing. You can search through our latest recommendations here. Recommendations

Find out more about how police forces are performing

Police force data

Key areas of work

Find out more about our current areas of focus - Violence Against Women and Girls and Race Discrimination. Key areas of work