Datganiad IOPC ar ymchwiliad Henry Nowak

Published: 03 Jun 2026
News

Dywedodd cyfarwyddwr ymgysylltu IOPC, Derrick Campbell:

“Rydym yn ymwybodol iawn o ddiddordeb y cyhoedd yn yr achos hwn.

“Rydym yn gofyn yn garedig i bobl roi’r gorau i ddyfalu ynghylch ymchwiliad byw sy’n parhau.

“Bydd yr ymchwiliad hwn yn sefydlu amgylchiadau’r achos yn llawn, gan gynnwys a allai fod camymddygiad ar ran unrhyw rai o’r swyddogion dan sylw.

“Mae’r sylwadau parhaus am y dystiolaeth a’r dyfalu yn peryglu rhagfarnu unrhyw brosesau posib ac atal teulu Henry Nowak rhag cael yr atebion mae nhw’n eu haeddu.”

Tags
  • Hampshire Constabulary
  • Defnydd o rym a phlismona arfog