Diweddariad ar ymchwiliad i gwynion a wnaethpwyd gan Andrew Malkinson
Yn dilyn euogfarn Paul Quinn heddiw, dywedodd cyfarwyddwr IOPC, Amanda Rowe:
"Mae'r camweinyddiad cyfiawnder a arweiniodd at Andrew Malkinson yn cael ei garcharu am 17 mlynedd - un o'r gwaethaf rydym erioed wedi'i weld yn y wlad hon - wedi cael effaith ddofn ar fywydau nifer o bobl.
"Dyna pam mae ein ymchwiliad - sydd yn gwbl annibynnol o'r heddlu - mor bwysig, er mwyn deall rôl Heddlu Manceinion Fwyaf (GMP) yn yr hyn a ddigwyddodd.
"Mae tîm o ymchwilwyr profiadol iawn yn parhau i ystyried cwynion Mr Malkinson yn ofalus, mewn perthynas â gweithredoedd GMP yn ystod yr ymchwiliad a'r achos cyfreithiol yn 2004.
"Mae hyn yn broses hynod o gymhleth a hirhoedlog, yn rhannol o ganlyniad i'r amser sydd wedi mynd heibio a'r lefel uchel o dystiolaeth a llwybrau ymchwilio i'w hystyried, ond mae ein gwaith yn hanfodol ar gyfer cael yr atebion mae Mr Malkinson yn eu haeddu ato, a rhoi hyder i'r cyhoedd y bydd yna graffu a gwersi i'w dysgu pan fydd pethau'n mynd o'u lle fel hyn.
"Tra bod nifer o lwybrau ymchwilio wedi cael eu seibio hyd at nawr, er mwyn osgoi effeithio'n negyddol ar y treial a gwblhawyd yn ddiweddar, rydym wedi gweithio'n galed i gasglu ac adolygu pa bynnag dystiolaeth yr ydym yn gallu, gan ddiogeli oddeutu 1,5000 dogfennau tystiolaethol er mwyn cefnogi'r ymchwiliad.
"Nawr bod yr achos troseddol wedi'i gwblhau, byddwn yn ystyried sut y gall unrhyw dystiolaeth a glywyd yn ystod yr achos effeithio ein ymchwiliad ac ail-ddechrau llwybrau ymchwilio a gafodd eu seibio, gan gynnwys mynd at dystion rydym yn credu y gallent ein helpu.
"Hyd yma, rydym wedi hysbysu pum swyddog bod eu hymddygiad o dan ymchwiliad am gamymddwyn difrifol posib ac un swyddog sy'n gwasanaethu eu bod yn cael eu ymchwilio am gamymddwyn posib. Mae un o'r cyn swyddogion hefyd o dan ymchwiliad troseddol am gamymddwyn posib mewn swydd gyhoeddus a gwyrdroi cwrs cyfiawnder.
“Mae hyn yn golygu bod yna arwydd posib bod y swyddogion wedi ymddwyn mewn ffordd a fyddai'n cyfiawnhau gweithdrefnau disgyblu neu achos cyfreithiol, ond nid yw o reidrwydd yn golygu bydd y fath weithdrefnau yn dilyn. Byddwn yn penderfynu os oes angen gweithdrefnau disgyblu ac atgyfeiriad at Wasanaeth Erlyn y Goron unwaith mae adroddiad yr ymchwilydd wedi'i gwblhau.
“Mae yna rai swyddogion nad ydym wedi gallu asesu eu ymddygiad eto oherwydd gohiriad ein ymchwiliad, a byddwn yn anelu at gwblhau'r gwaith hyn yn ystod yr wythnosau sy'n dod.
“Rydym yn deall yr effaith bydd yr ymchwiliad yn cael ar y nifer sy'n cymryd rhan ac mi fyddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i gwblhau pethau cyn gynted ag sy'n bosib, gan sicrhau bod pob un o gwynion Mr Malkinson yn cael eu harchwilio'n drylwyr.”